To view this in English click here
Cyflwynwyd y Cwricwlwm newydd i Gymru mewn ysgolion cynradd (ar gyfer pob blwyddyn) ac ysgolion uwchradd (gan ddechrau gyda blwyddyn 7, gan dyfu drwy'r ysgol o flwyddyn i flwyddyn) ym mis Medi 2022. Rhaid i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed gymryd rhan yn elfen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb y cwricwlwm wrth iddo gael ei gyflwyno dros y 3 blynedd nesaf.
Mae hyn wedi ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd, trafodaeth wleidyddol a sylw yn y wasg. Mae hefyd wedi ennyn nifer o gwestiynau wrth rieni, athrawon a llywodraethwyr sy’n gyfrifol am blant yn eu gofal ac am gyflwyno’r Cwricwlwm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am addysg eich plentyn neu eich rôl o fewn yr ysgol, yna'r lle cyntaf i godi hyn yw gyda'r ysgol drwy ddefnyddio'r sianeli a'r prosesau sydd ganddyn nhw ar waith.
Mae’r tudalennau hyn wedi’u creu mewn ymateb i gwestiynau y gofynnwyd i fi gan etholwyr Aberconwy a'r rhai sydd â phlant mewn ysgolion o fewn yr etholaeth.
Ni fwriedir i'r tudalennau hyn fod yn gynhwysfawr. Byddan nhw’n newid ac yn datblygu dros amser. Maen nhw’n cynnwys dolenni i fwy o wybodaeth a gallan nhw fod yn ddefnyddiol ar gyfer rhieni, llywodraethwyr ac athrawon.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu bryderon am gynnwys y tudalennau hyn, gallwch fy e-bostio fan hyn.
Cliciwch ar unrhyw un o'r penawdau i ddechrau......
Pam fod hyn yn bwysig?
Bwriad yr adran hon yw rhoi cyflwyniad i chi. Mae'n cynnwys:
- Rhai cwestiynau cyffredin a pham yr ysgrifennwyd y gwe-dudalennau hyn
- Eglurhad o dri llinyn eang y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru (cydberthnasau a hunaniaeth; iechyd rhywiol a lles; grymuso, diogelwch a pharch)
- Datblygu a chyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru
- Sut mae gwerthoedd ysgolion yn cael effaith ar bolisïau ysgolion, cwricwlwm yr ysgol a mwy
Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr?
Gall yr adran hon fod yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr sydd â rôl hanfodol yn addysg eu plentyn. Mae'n nodi:
- Rôl rhieni a gofalwyr yn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb eu plentyn
- Y gofyniad cyfreithiol ers mis Medi 2022 i’ch plentyn gymryd rhan mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Sut gallwch chi ddarganfod gwerthoedd ysgol eich plentyn, ei pholisïau, ei chwricwlwm a mwy
- Sut gallwch chi ddarganfod beth sy'n cael ei ddysgu yn ysgol eich plentyn a sut bydd yr ysgol yn cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Rhai adnoddau syml a allai fod o gymorth i chi
Ydych chi’n athro neu’n athrawes?
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cyflwyno cyfleoedd mawr a heriau mawr i athrawon. Mae’r adran hon yn tynnu sylw at rai o’r cwestiynau y mae athrawon wedi’u codi gyda fi:
- A yw athrawon wedi'u harfogi'n briodol i gyflwyno'r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd?
- Sut rydw i'n penderfynu beth sy'n “ddatblygiadol briodol” i fyfyrwyr?
- Sut gallaf sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu'n briodol ac yn effeithiol?
- Beth yw cyfyngiadau fy ngalluoedd a’m dyletswyddau proffesiynol?
- Ble gallaf fynd i gael cyngor ac arweiniad ar y pwyntiau hyn, y gyfraith a mwy?
Ydych chi’n llywodraethwr?
Llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol sy’n gyfrifol am bennu gwerthoedd ac egwyddorion cymuned yr ysgol. Mae’r adran hon yn nodi:
- Sut gallaf wirio bod cyfleusterau a pholisi'r ysgol yn cydymffurfio â deddfwriaeth Cydraddoldeb (Deddf Cydraddoldeb 2010)?
- Sut gallaf annog gweithio mewn partneriaeth rhwng yr ysgol a theuluoedd?
- Y ddyletswydd i sicrhau a hyrwyddo lles pob myfyriwr
- Ymwneud y corff llywodraethu â strategaethau a pholisïau addysgu.
Mwy o wybodaeth
Fel eich Aelod Seneddol, rydw i eisiau cynrychioli eich pryderon ac rydw i wedi achub ar y cyfle i siarad am y materion sy’n ymwneud ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae’r adran hon yn cynnwys rhai sylwadau a datganiadau perthnasol rydw i wedi’u gwneud yn y wasg ac ar-lein.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 30ain Hydref 2023.