Mae athrawon yn chwarae rôl hanfodol yng nghynnydd a datblygiad academaidd plant a phobl ifanc. Mae’n bwysig bod athrawon yn cael eu cefnogi’n briodol fel y gallan nhw helpu pob myfyriwr i wireddu eu potensial llawn.
Mae’r dudalen hon wedi’i llywio gan gwestiynau a godwyd gan athrawon o wahanol rannau o Gymru, gyda fi, yn ystod y misoedd cyn ac yn dilyn newidiadau i’r cwricwlwm.
A yw athrawon wedi'u harfogi'n briodol i gyflwyno'r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd?
Mae’n bwysig bod athrawon yn cael arweiniad a chymorth clir i’w galluogi i asesu’r hyn sy’n addas a’r hyn nad yw’n addas mewn gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac ar ba gam. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried bod nifer fawr o ddeunyddiau dysgu a darparwyr hyfforddiant ar gael i athrawon yng Nghymru.
Serch hynny, mae rhai athrawon wedi dweud:
- Nad oes ganddyn nhw y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddewis sefydliadau partner
- Nad oes ganddyn nhw yr arweiniad i ddewis deunyddiau dysgu addas i'w defnyddio mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Nid yw eu Hawdurdod Addysg eu hunain yn gallu ateb cwestiynau gan eu bod hefyd yn chwilio am arweiniad Llywodraeth Cymru
Cysylltwch â’ch Aelod o’r Senedd a/neu Aelod Seneddol lleol, yn gyfrinachol, os nad ydych yn cael yr help sydd ei angen arnoch.
Sut gallaf sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu'n briodol ac yn effeithiol?
Mae pob athro neu athrawes yn cytuno y dylai dulliau diogelu plant priodol fod yn flaenllaw gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Am y rheswm hwn, mae'n bwysig bod yr addysgu'n briodol o ran datblygiad ac oedran.
Dylai cwricwlwm yr ysgol, a’r holl fewnbwn allanol iddo, gynnal y safon uchaf o ran diogelu ac amddiffyn er mwyn sicrhau bod lles pob plentyn yn cael ei gynnal. Bu cryn ddadlau am yr union fater hwn yn Lloegr (o haf/hydref 2023).
Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn Lloegr (Adrannau 406 a 407 o Ddeddf Addysg 1996) hefyd wedi’i chynnwys yn y ddeddfwriaeth Gymreig fabwysiedig. Mae'n ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r testunau sy’n cael eu dysgu, y deunyddiau a gyflwynir a’r sefydliadau allanol a ddefnyddir hefyd fod yn wrthrychol ac yn ddiduedd i hyrwyddo cynnydd academaidd effeithiol pob myfyriwr.
Beth yw “datblygiadol briodol” i fyfyrwyr?
Mae Canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ei gwneud yn ofynnol i athrawon ystyried amrywiaeth o ffactorau:
- Oedran ac aeddfedrwydd pob dysgwr
- Unrhyw anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr
- Datblygiad seicolegol ac emosiynol y dysgwr
Mae'r rhain yn dangos pwysigrwydd cynnwys rhieni yn y penderfyniadau a'r trafodaethau hyn. Serch hynny, mae’r canllawiau statudol presennol yn nodi y penderfynir ar y rhain yn ôl disgresiwn athro/athrawes.
O ganlyniad, mae athrawon yng Nghymru wedi mynegi pryderon am:
- Eu rôl wrth gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Eu gallu i benderfynu beth sy'n briodol a'r hyn nad yw'n ddatblygiadol briodol i'w myfyrwyr
Gyda’i gilydd, mae’r rhain o bosib yn cyflwyno her sylweddol yn ymarferol, gan y bydd anghenion ac aeddfedrwydd myfyrwyr unigol yn amrywio ar draws yr ystafell ddosbarth. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, siaradwch â’ch Pennaeth a/neu cysylltwch â’ch Aelod o’r Senedd a/neu Aelod Seneddol yn gyfrinachol.
Mwy o wybodaeth am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Chwestiynau Cyffredin.
Mwy o wybodaeth i rieni a gofalwyr.
Mwy o wybodaeth i lywodraethwyr.
I ddychwelyd i’r brif ddewislen, cliciwch yma.
Diweddarwyd y dudalen hon ar: 30ain Hydref 2023.