Cynnwys Rhieni a Gofalwyr

Eich rôl fel rhieni a gofalwyr yn addysg eich plentyn

Gall delio ag ysgolion fod yn destun pryder, yn enwedig os ydych chi’n delio â materion sy’n effeithio ar les eich plentyn neu berson ifanc. Rydyn ni i gyd yn cytuno bod angen man diogel ar blant a phobl ifanc lle gallan nhw ofyn cwestiynau a siarad yn agored, heb ofni cael eu beirniadu.

Y lle iawn a naturiol i blentyn yn eich gofal chi i drafod y pynciau a'r materion sy'n gysylltiedig ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw gyda chi, yn y cartref – neu wrth wneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau gyda'ch gilydd.

Hyd yn oed wedyn, weithiau mae'n anodd gwybod sut i ddechrau'r sgwrs. Gallai fod mor syml â rhoi amser i'ch plentyn siarad am ei brofiad yn yr ysgol bob dydd.

 

Y gofyniad cyfreithiol ers mis Medi 2022 i’ch plentyn gymryd rhan mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru yn 2020 na fyddai gan rieni hawl i dynnu eu plant yn ôl o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel rhan o’i Gwricwlwm newydd i Gymru.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru gydag athrawon, rhieni a phartïon eraill â diddordeb cyn gwneud y penderfyniad hwn.

  • Ym mis Hydref 2019, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Sicrhau Mynediad i’r Cwricwlwm Llawn i bob disgybl. Serch hynny, cytunodd 88.7% o ymatebwyr yr ymgynghoriad hwn i gadw'r hawl i dynnu eu plant o Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
  • Comisiynwyd cyfres o astudiaethau peilot ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-22, ac yn  2021 cynhaliwyd ail ymgynghoriad. Roedd y rhain yn argymell dileu'r hawl i dynnu'n ôl. Yn yr ail ymgynghoriad, roedd 60.0% o’r ymatebwyr yn anghytuno â’r cynnig i ddileu hawl rhieni i dynnu’n ôl.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ail ymgynghoriad i’w weld fan hyn: Crynodeb o’r ymatebion i’r canllawiau a’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb  Tachwedd 2021 (gov.wales)

 

Sut gallaf ddarganfod beth mae ysgol fy mhlentyn yn ei gredu, yn ei arddel ac yn ei ddysgu?

Mae'n iawn ac yn rhesymol eich bod chi'n gwybod beth mae eich ysgol yn ei gredu, beth mae'n ei arddel a beth mae'n ei ddysgu i'ch plentyn! Yn aml bydd gan ysgol ddatganiad o'i gwerthoedd a set o bolisïau sy'n disgrifio sut mae'n gweithredu. Mae'r rhain yn ychwanegol at y cwricwlwm. Bydd ganddyn nhw hefyd ffordd o ddatblygu ac adolygu'r datganiadau hyn. Mae gan rieni, athrawon a llywodraethwyr i gyd rolau gwahanol yn y prosesau hyn.

 

1. Gallwch ddisgwyl cael eich cynnwys gan eich ysgol wrth ddatblygu'r cwricwlwm

Mae’r canllawiau statudol ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn annog ysgolion i rannu gwybodaeth gyda rhieni a theuluoedd ynglŷn â chyflwyno’r cwricwlwm.

Mae gweithio gyda rhieni, gofalwyr a rhanddeiliaid yn rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion wrth gynllunio eu cwricwlwm. 

  • "Wrth ddatblygu eu cwricwlwm, dylai ysgolion gynnwys dysgwyr, rhieni, gofalwyr, asiantaethau partner a’r gymuned leol. Mae hwn yn ffordd bwysig o sicrhau bod y cwricwlwm yn diwallu anghenion dysgwyr a’i fod yn ddilys i’w cyd-destun o fewn y fframwaith cenedlaethol. Mae ysgolion ac ymarferwyr hefyd yn chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau bod dysgwyr, rhieni, gofalwyr a chymunedau yn deall y weledigaeth a’r ethos sy’n sail i’r cwricwlwm” (gweler Ystyriaethau gweithredu ac ymarferol, mynediad ar 6ed Chwefror  2023)
  • "Dylai ysgolion gadw llinellau cyfathrebu clir gyda rhieni a gofalwyr drwy gydol taith academaidd eu plentyn." (gweler Gwybodaeth am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar gyfer Ysgolion i Rieni a Gofalwyr, tudalen 3 – rhyddhawyd Awst 2022)

I gael mwy o wybodaeth am yr her gyfreithiol i egluro graddau cyfrifoldeb rhiant, gweler y dudalen Cwestiynau Cyffredin.

 

2.  Gallwch gael mynediad at bolisïau, cwricwlwm a deunyddiau’r ysgol

Mae’n arfer da i ysgolion ganiatáu i rieni weld gwybodaeth gyfoes a chynhwysfawr am y cwricwlwm, deunyddiau gwersi, polisïau a datganiadau o werthoedd a chredoau. Mae'r rhain yn aml yn cael eu cadw ar-lein, weithiau drwy hwb diogel i rieni. Gallan nhw hefyd fod ar gael ar dir yr ysgol fel copi caled.

Mae’n rhesymol i riant sydd â diddordeb ofyn am gael gweld unrhyw ran o’r wybodaeth hon a’i hadolygu ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i’r ysgol a’r rhiant fel ei gilydd.

Mae’r canllawiau statudol yn dweud y dylai athrawon rannu enghreifftiau o adnoddau a chynlluniau gwaith Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gyda rhieni. Mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn teimlo’n gyfforddus i rannu eu safbwyntiau a’u hadborth yn agored am gwricwlwm a pholisïau’r ysgol

  • "Dylid sicrhau bod yr holl adnoddau i’w defnyddio mewn ysgolion a lleoliadau yn berthnasol, ag enw da, yn ddatblygiadol briodol, yn gynhwysol ac yn sensitif i anghenion dysgwyr. Dylai ysgolion rannu enghreifftiau o’r adnoddau y maen nhw’n bwriadu eu defnyddio gyda rhieni a gofalwyr er mwyn tawelu eu meddwl ac i alluogi sgyrsiau, lle bo’n briodol, i gael eu hatgyfnerthu ac i barhau’n y cartref." ("Themâu Trawsbynciol ar gyfer Cynllunio eich Cwricwlwm", hwb.gov.wales, mynediad ar 25ain Ionawr 2023)
  • "Mae cyfathrebu’n effeithiol â rhieni a gofalwyr drwy’r amser yn ffordd bwysig o feithrin perthnasoedd positif er mwyn eu cynnwys mewn deialog bwrpasol ac ystyrlon. Pan fydd hyn yn cael ei wneud yn dda, gall helpu i gynorthwyo dilyniant dysgwyr drwy helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut gallan nhw gefnogi dysgu o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol." ("Themâu Trawsbynciol ar gyfer Cynllunio eich Cwricwlwm, hwb.gov.wales, mynediad ar 25ain Ionawr 2023)

 

3. Beth i'w wneud os oes gen i gwestiynau am bolisïau, cwricwlwm a deunyddiau'r ysgol rydw i wedi'u gweld

Os na allwch gael mynediad at bolisïau, cwricwlwm neu ddeunyddiau ysgol eich plentyn, gallwch ofyn i'r ysgol yn uniongyrchol. Os ydych yn gallu cael gafael ar y rhain a bod gennych gwestiynau neu adborth yr hoffech eu codi, gallwch gysylltu â'r ysgol.

  • Gallwch gysylltu â'r ysgol i ofyn unrhyw gwestiynau a/neu roi adborth i aelod perthnasol o staff. Gallwch hefyd ofyn am gyfarfod gyda'r aelod perthnasol o staff i drafod eich safbwyntiau neu bryderon yn bersonol.
  • Gallwch ysgrifennu llythyr at Bennaeth neu Lywodraethwr/Lywodraethwyr yr ysgol yn mynegi eich pryderon neu’n gofyn am fwy o wybodaeth.
  • Gallwch drefnu cyfarfod gyda’r Pennaeth, Llywodraethwr/Lywodraethwyr neu arweinydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yr ysgol i gael gwybod am bolisïau’r ysgol.
  • Os ydych yn anfodlon ag ymateb yr ysgol i’ch pryderon neu os hoffech godi mater penodol, yna gallwch gysylltu â’ch Aelod o’r Senedd neu’ch Aelod Seneddol.

Os ydych yn byw yn Aberconwy neu os oes gennych blentyn sy'n mynd i’r ysgol yn yr etholaeth, gallwch gysylltu â fi fan hyn.

Sylwer: Mae rhai ceisiadau am wybodaeth wedi cael eu gwrthod gan ysgolion ar y sail bod y "deunydd dan hawlfraint". Nid dyma sut mae hawlfraint yn gweithio - mae cyfraith hawlfraint yn bodoli i ddiogelu deunydd sy’n gyhoeddus.

 

 Am wybodaeth gefndir, cliciwch yma.

Mwy o wybodaeth i athrawon.

Mwy o wybodaeth i  lywodraethwyr.

Dychwelyd i’r brif ddewislen

Diweddarwyd y dudalen hon ar: 30ain Hydref 2023.