O dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, mae gan gyrff llywodraethu a phenaethiaid rôl a dyletswyddau pwysig wrth gynllunio a gweithredu’r cwricwlwm a pholisïau ysgol.
Mae cyrff llywodraethu ac athrawon wedi’u cwmpasu gan y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol.
Mae yna ganllawiau penodol hefyd i lywodraethwyr a phenaethiaid am y cwricwlwm, sydd i’w gweld fan hyn: 2022-pennod-11-cwricwlwm.pdf (gov.wales).
Beth yw rôl Llywodraethwyr mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol wrth bennu gwerthoedd ac egwyddorion o fewn yr ysgol. Mae polisïau ac arferion yr ysgol yn deillio o'r gwerthoedd hyn.
Yn benodol, rhaid i’r ysgol:
- Gadw datganiad ysgrifenedig cyfoes o’u polisi ar gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
- Sicrhau bod copïau ar gael i'w harchwilio gan rieni disgyblion cofrestredig yr ysgol
- Darparu copi o'r datganiad am ddim i unrhyw riant sy'n gofyn am un
Mae gan lywodraethwyr hefyd rôl allweddol wrth amddiffyn y bartneriaeth rhwng teuluoedd ac ysgolion.
Er enghraifft, o ran polisïau, dylai llywodraethwyr fod yn fodlon bod rhieni wedi bod yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau cyn iddyn nhw roi cymeradwyaeth ffurfiol i unrhyw bolisïau neu newidiadau.
Gallwch weld canllawiau llywodraethwyr ysgolion fan hyn: Canllaw Llywodraethwyr Ysgolion i’r gyfraith | GOV.WALES
Beth yw dyletswyddau Penaethiaid?
Mae gan benaethiaid rôl hanfodol - sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer eu hysgol yn cyd-fynd â chanllawiau'r Llywodraeth.
Rhaid i'r pennaeth a'r llywodraethwyr fabwysiadu a chyhoeddi crynodeb o'u cwricwlwm ar y cyd. Rhaid adolygu hyn yn barhaus i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion y cwricwlwm.
Os caiff ei ddiwygio, rhaid cyhoeddi crynodeb wedi'i ddiweddaru a sicrhau ei fod ar gael i rieni.
Gellir dod o hyd i ganllawiau penodol i lywodraethwyr a phenaethiaid am y cwricwlwm fan hyn: 2022-pennod-11-cwricwlwm.pdf (gov.wales). Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd yn statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ac athrawon.
Cynnal cydbwysedd ac osgoi ‘egwyddori gwleidyddol’
Cyfrifoldeb y corff llywodraethu a’r pennaeth yw sicrhau bod yr addysgu’n parhau’n wrthrychol ac yn ddiduedd. Mae Deddf Addysg 1996 (fel y’i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru) yn ei gwneud yn glir y dylai’r addysgu beidio â bod yn egwyddori gwleidyddol'.
Mae canllawiau ‘egwyddori gwleidyddol’ yn brin ond mae’n synhwyrol i fod yn ofalus lle ceir barn wrthwynebol. Cafwyd her gyfreithiol ar sail egwyddori gwleidyddol gyda dangosiad o ffilm Al Gore ar newid hansawdd heb wybodaeth na chydbwysedd cyd-destunol priodol.
Mae adrannau 406 a 407 o Ddeddf Addysg 1996 yn rhoi gwaharddiad clir yn erbyn ymarferwyr sy’n hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol pleidiol a gofyniad yr un mor glir i ymarferwyr gynnig cyflwyniad cytbwys o wahanol safbwyntiau. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru Addysgu Addysg Dinasyddiaeth a Gwleidyddiaeth – Canllaw i barhau’n ddiduedd yn nodi:
"I grynhoi, mae egwyddori gwleidyddol mewn ysgolion a gynhelir wedi’i wahardd ac efallai na fydd disgyblion iau (y rhai o dan 12 oed) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol pleidiol o gwbl. Rhaid i ysgolion a gynhelir gyflwyno materion gwleidyddol (yn yr ysgol ac mewn gweithgareddau allgyrsiol) mewn ffordd sy’n cynnig cyflwyniad cytbwys o safbwyntiau gwrthgyferbyniol.” (t.3)
" Mae hyn yn berthnasol i weithgareddau a wneir yn uniongyrchol gan ymarferwyr ac yn anuniongyrchol drwy sefydliadau eraill, lle trefnir darpariaeth o’r fath gan yr ysgol neu ar ei chyfer." (t.4)
Am wybodaeth gefndir, cliciwch yma.
Mwy o wybodaeth i rieni a gofalwyr.
Mwy o wybodaeth i athrawon.
I ddychwelyd at y brif ddewislen, cliciwch yma.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 30ain Hydref 2023.