Cwestiynau Cyffredin: Polisi Cwricwlwm ac Addysg

Mae'r dudalen hon yn cynnig rhywfaint o gefndir i gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru.

Mae’n cynnwys atebion i gwestiynau cyffredin y mae rhieni ac athrawon yn Aberconwy wedi’u codi gyda fi.

Mae’n bwysig bod rhieni, athrawon a llywodraethwyr i gyd yn cael eu cynnwys yn y broses o ddiwygio’r cwricwlwm ac yn derbyn gwybodaeth briodol pan fydd newidiadau’n digwydd.

Ceir dolenni i fwy o wybodaeth am ddatblygu a chyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru. 

 

O ble ddaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb? 

Yn 2017, daeth adolygiad o’r cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru i’r casgliad bod angen diwygio’r cwricwlwm yn sylweddol. Gwnaed argymhellion gan banel dethol, a chyhoeddwyd y byddai'r maes astudio hwn yn newid ac yn troi’n Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. 

Adroddiad ‘Hysbysu Dyfodol Cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru’–  hysbysu-dyfodol-cwricwlwm-addysg-rhyw-a-pherthnasoedd-yng-nghymru-web.pdf (cardiff.ac.uk) Cafodd ei gyhoeddi yn 2017 fel rhan o’r adolygiad i Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru.

Adroddiad ‘Dyfodol y Cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru’ –  Dyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a pherthnasoedd | GOV.WALES Cafodd ei gyhoeddi yn 2017 yn dilyn yr adolygiad o Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru.

 

Beth yw’r Cwricwlwm newydd i Gymru? 

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhan statudol o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae hynny’n golygu y bydd yn ofynnol i bob ysgol gynradd ac uwchradd gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i fyfyrwyr rhwng 3 - 16 oed pan fydd y cwricwlwm wedi’i gyflwyno’n llawn.

Cwricwlwm i Gymru: Mae addysg yn newid | GOV.WALES 

Canllaw i Rieni: 220208-rhieni-gofalwyr.pdf (gov.wales) 

Crynodeb o’r Ddeddfwriaeth: Crynodeb o’r ddeddfwriaeth - Hwb (gov.wales) 

 

Beth sy’n cael ei ddysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?

Cafodd Cod a Chanllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb eu pasio’n gyfraith gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi’r themâu a’r pynciau y mae’n rhaid eu dysgu ar gamau ‘datblygiadol briodol’ mewn ysgolion cynradd ac uwchradd (mae ‘datblygiadol briodol’ yn ymadrodd allweddol y byddwn yn dychwelyd ato isod). Mae'r rhain bellach yn ofynion gorfodol, ac mae'r sail gyfreithiol ar eu cyfer wedi'u nodi yng nghrynodeb deddfwriaeth y Cwricwlwm i Gymru (gweler y ddolen uchod).

Mae'r Cod yn rhan o’r Maes Dysgu Iechyd a Lles fel rhan o'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Ceir tri llinyn eang i’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb:

  1. Cydberthnasau a hunaniaeth
  2. Iechyd rhywiol a lles
  3. Grymuso, diogelwch a pharch.

Gallwch ddarllen mwy am yr hyn sy’n cael ei ddysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Rhaid i athrawon, penaethiaid a chyrff llywodraethu ddilyn y canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol wrth gyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol gyfan. 

 

Pryd fydd plant a phobl ifanc yn dysgu am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb? 

Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn nodi pob un o’r llinynnau addysgu a dysgu gorfodol mewn tri chyfnod sy’n ‘ddatblygiadol briodol’. Dylai rhieni gael llais allweddol yn yr hyn sy’n briodol i’w plentyn eu hunain yn ddatblygiadol (gweler ‘Pam fod hyn yn bwysig?’ isod), ond fel man cychwyn o fewn y canllawiau, mae hyn yn golygu:

  • O 3 oed (Cam 1)
  • O 7 oed (Cam 2)
  • O 11 oed (Cam 3)

Mae’r pynciau sy’n cael eu dysgu o dan bob cam yn cael eu nodi o fewn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

 

Sut cafodd y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a’r canllawiau statudol eu datblygu?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cod a’r Canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar ôl cyfnod ymgynghori ag athrawon, rhieni, sefydliadau allanol a phobl ifanc ac astudiaeth beilot o bymtheg o ysgolion.

Dogfen Ymgynghori: Canllawiau a Chod y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb | GOV.WALES 

Astudiaeth beilot: Cynllun peilot addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ysgolion: adroddiad terfynol | GOV.WALES 

 

Pryd mae'r newidiadau i'r cwricwlwm yn digwydd?

Dechreuodd ysgolion weithredu’r cwricwlwm newydd mewn camau:

  • O fis Medi 2022 ar gyfer dysgwyr hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 7

Yna bydd disgwyl i ysgolion uwchradd gyflwyno eu cwricwla o flwyddyn i flwyddyn:

  • O fis Medi 2023 ar gyfer Blwyddyn 8 hyd at fis Medi 2026 ar gyfer Blwyddyn 11

 

A oes gan rieni yr hawl i dynnu eu plant o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb?

Na. Penderfynodd Llywodraeth Cymru i ddileu hawl rhieni i dynnu'n ôl yn dilyn dau ymgynghoriad. Gwrthwynebwyd hyn a lansiwyd Adolygiad Barnwrol yn yr Uchel Lys yn erbyn cyflwyno'r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd ac i ddileu hawl rhiant i dynnu'n ôl.

Gwrthodwyd yr her gyfreithiol a'r hawl i apelio. Gellir gweld y dyfarniad llawn – gan gynnwys y pwyntiau a godwyd gan yr hawlwyr – fan hynDyfarniad Isherwood -v- Gweinidogion Cymru (judiciary.uk)

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Cynnwys Rhieni a Gofalwyr.

 

Pam fod hyn yn bwysig?

Nid yw hyn yn datrys pryderon dilys nifer o rieni ac athrawon yng Nghymru. Ac nid yw'n newid sawl pwynt hollbwysig:

  • Mae’r cydweithio a'r bartneriaeth rhwng y cartref a'r ysgol yn parhau’n allweddol i gyflwyno addysg effeithiol.
  • Rhieni a gofalwyr sydd yn y lle gorau i ddeall beth sy'n ‘ddatblygiadol briodol’ i'w plentyn/plant ei ddysgu a phryd - ac i arwain eu plentyn/plant i fyd oedolion.
  • Mae llywodraethwyr a phenaethiaid ysgolion yn gosod gwerthoedd sy'n pennu'r polisïau a'r arferion y maen nhw’n eu mabwysiadu o fewn cymuned yr ysgol.
  • Am y rheswm hwn, dylai rhieni gael y wybodaeth ddiweddaraf a chael eu cynnwys gan ysgolion yn y prosesau gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod eu gwerthoedd yn cael eu hystyried.

 

Ble gallaf gael gwybod am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn ysgol fy mhlentyn?

Dylai polisïau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb pob ysgol gynradd ac uwchradd fod ar gael i rieni ar-lein.

Os nad yw hwn ar gael yn ysgol eich plentyn neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, gallwch siarad â’r ysgol a gofyn am gael gweld eu polisi, cwricwlwm ac adnoddau dysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ysgol eich plentyn, ewch fan hyn.

 

I ddychwelyd i'r brif ddewislen, cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth i rieni a gofalwyr.

Am fwy o wybodaeth i athrawon.

Am fwy o wybodaeth i lywodraethwyr.

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 30ain Hydref 2023.