Mae ysgolion yn ganolog wrth gefnogi cymunedau cryf ar draws Aberconwy. Mae’r rôl y maen nhw’n ei chwarae wrth addysgu ein plant yn amhrisiadwy ac ni allwn danbrisio’r effaith bositif a all ddod o addysgu priodol ac effeithiol.
Rydw i’n awyddus i sicrhau bod eich safbwyntiau ar addysg plant Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu cynrychioli yn y Senedd.
Ym mis Mehefin 2022, siaradais yn nadl Neuadd San Steffan am y deunyddiau a ddefnyddiwyd mewn gwersi Addysg Cydberthynas Rhywioldeb ac i godi rhai pryderon allweddol. Gallwch wrando yma:
Ym mis Mehefin eleni, fe wnes i ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat Swyddfa Cymru, lle roeddwn yn falch o fod yn rhan o'r tîm ers mis Gorffennaf 2022.
Daeth hyn ar ôl trafodaeth dros fy amheuon ynglŷn â phleidlais (ar ddarn o ddeddfwriaeth addysg yng Ngogledd Iwerddon) gyda Gweinidog Gogledd Iwerddon a’r Chwipiaid.
Nid ar chwarae bach y gwnes i’r penderfyniad. I fod yn glir, rydw i’n parhau i fod yn gwbl gefnogol i'r Prif Weinidog a’r llywodraeth a’r ymdrechion i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu.
Gallwch weld fy natganiad llawn fan hyn:
https://www.robin-millar.org.uk/rse-statement
I ddychwelyd at y brif dudalen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, cliciwch yma.
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 25ain Gorffennaf 2023.