While speaking in Parliament on Wednesday Robin Millar, MP for Aberconwy, paid tribute to al local residents whose hard work has been the driving force in Aberconwy’s impressive economic recovery since most lockdown restrictions were lifted in the summer.
Speaking during a debate (in the House of Commons) (on the Subsidy Control Bill), Robin said: “Aberconwy has seen an impressive recovery from the pandemic, and according to some reports, Llandudno has experienced the fastest recovery of any town in the UK.”
Continuing, Robin said: “I pay tribute to those who are working so hard in their businesses, from Glenn Evans and his team at the Royal Oak in Betws-y-Coed to Clinton and his team at the Blend coffee shop on Clonmel Street in Llandudno. Right across Aberconwy, it is people like them who make that economic recovery a reality. We owe them a debt of thanks and gratitude for their hard work—it is not we in this place but they who make the difference, and I am grateful to them for it.”
Following the debate, Robin commented: “I am very proud of the imagination, resilience and flexibility of the businesses, employees and entrepreneurs in Aberconwy and I take every opportunity to draw attention to these skills in the House of Commons and other forums.
Robin Millar AS yn diolch i bobl a busnesau lleol am ysgogi adferiad economaidd trawiadol yn Aberconwy
Wrth siarad yn y Senedd San Steffan ddydd Mercher, bu Robin Millar, AS Aberconwy, yn talu teyrnged i’r holl drigolion lleol sydd wedi gweithio’n galed i ysgogi adferiad economaidd trawiadol yn Aberconwy ers i’r rhan fwyaf o’r cyfyngiadau symud gael eu codi yn ystod yr haf.
Wrth siarad yn ystod dadl ar y Bil Rheoli Cymhorthdal (yn Nhŷ’r Cyffredin), dywedodd Robin: “Mae Aberconwy wedi cael adferiad trawiadol ar ôl y pandemig, ac yn ôl rhai adroddiadau, mae Llandudno wedi profi’r adferiad cyflymaf mewn unrhyw dref yn y DU.”
Aeth Robin ymlaen i ddweud: “Rwy’n talu teyrnged i’r rheini sy’n gweithio mor galed yn eu busnesau, o Glenn Evans a’i dîm yn y Royal Oak ym Metws-y-Coed i Clinton a’i dîm yn siop goffi Blend ar Stryd Clonmel yn Llandudno. Ledled Aberconwy, pobl fel nhw sy’n troi’r adferiad economaidd hwnnw’n realiti. Mae arnom ddyled o ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled—y nhw sy’n gwneud y gwahaniaeth nid ni, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am hynny.”
Yn dilyn y ddadl, dywedodd Robin: “Rwy’n falch iawn o ddychymyg, cadernid a hyblygrwydd y busnesau, y gweithwyr a’r entrepreneuriaid yn Aberconwy, ac rwy’n manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at y sgiliau hyn yn Nhŷ’r Cyffredin ac mewn fforymau eraill.