This week is Love Lamb Week 2021. As the United Kingdom prepares to host the crucial UN Climate Change Conference (COP26) in Glasgow, the environmental credentials of lamb are the leading feature of this year’s Love Lamb Week campaign.
The campaign, backed by industry bodies including Hybu Cig Cymru (Meat Promotion Wales), seeks to not only champion lamb as part of a healthy and nutritious diet, but also to promote sheep farming as part of the climate change solution.
Speaking about Love Lamb Week Robin Millar, Member of Parliament for Aberconwy, said: “Sheep farmers here in Aberconwy and, indeed, throughout Wales have deservedly earned a reputation for producing the finest quality lamb in the world. Our beautiful landscapes and mild climate mean that Wales is one of the world’s most sustainable places to produce red meat. Our farmers are able to produce delicious and nutritious lamb meat upon landscapes that are often unsuitable for other types of food production.”
Commenting further, Robin said: “We should all be hugely proud that our sheep and livestock farmers operate to the highest standards of animal health and welfare standards anywhere in the world and that their farming practices are not just sustainable but a key component of the climate change solution. I warmly welcome Hybu Cig Cymru’s partnership with the hospitality sector during Love Lamb Week 2021 to promote Welsh lamb and, most importantly, I hope that this week will provide the opportunity for more people to try Welsh lamb for themselves.”
Finally, Robin said: “I must also use this opportunity to play tribute to Aberconwy’s farming community and to farmers throughout the United Kingdom. Like so many other sectors, the last 18 months have presented farmers with unprecedented challenges.
We’ll never forget the scenes from early in the pandemic of empty supermarket shelves and the fear expressed by so many of our constituents that we were going to run out of food. Farmers rose to the challenge of ensuring that enough food was produced to meet seemingly relentless demand and to restock shelves throughout the country. Thank you – diolch yn fawr.
For a range of exciting and healthy recipes using Welsh lamb and to find out more about how you can get involved with Love Lamb Week visit www.eatwelshlambandwelshbeef.com or the Hybu Cig Cymru website at www.meatpromotion.wales/en
Robin Millar MP/AS Yn Cefnogi Wythnos Caru Cig Oen
2 Medi, 2021 – Mae’r wythnos hon yn wythnos Caru Cig Oen 2021. Wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i gynnal Cynhadledd hollbwysig y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn Glasgow, prif nodwedd ymgyrch Wythnos Cig Oen Cymru eleni yw hyrwyddo nodweddion arbennig cynhyrchu cig oen o safbwynt helpu’r amgylchedd.
Mae’r ymgyrch, a gefnogir gan gyrff yn y diwydiant, sy’n cynnwys Hybu Cig Cymru yn ceisio hyrwyddo cig oen nid yn unig fel rhan o ddeiet iach a maethlon, ond hefyd i hyrwyddo ffermio defaid fel rhan o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd.
Wrth siarad am Wythnos Caru Cig Oen, dywedodd Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy: “Mae ffermwyr defaid yma yn Aberconwy ac, yn wir, ledled Cymru wedi haeddu ennill enw da am gynhyrchu cig oen o’r ansawdd gorau yn y byd. Mae ein tirweddau hardd a’n hinsawdd fwyn yn golygu mai Cymru yw un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy yn y byd i gynhyrchu cig coch. Mae ein ffermwyr yn gallu cynhyrchu cig oen blasus a maethlon ar dirweddau sy’n aml yn anaddas ar gyfer ffyrdd eraill o gynhyrchu bwyd.”
Wrth wneud sylwadau pellach, dywedodd Robin: “Dylai pob un ohonom fod yn falch iawn bod ein ffermwyr defaid a da byw yn gweithredu i’r safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unrhyw le yn y byd, a bod eu harferion ffermio nid yn unig yn gynaliadwy ond yn elfen allweddol o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd. Rwy’n croesawu partneriaeth Hybu Cig Cymru â’r sector lletygarwch yn ystod Wythnos Cig Oen Cymru 2021 i hyrwyddo cig oen Cymru ac, yn bwysicaf oll, rwy’n gobeithio y bydd yr wythnos hon yn rhoi cyfle i fwy o bobl roi cynnig ar flasu cig oen Cymru.”
Yn olaf, dywedodd Robin: “Rhaid i mi hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i gymuned ffermio Aberconwy ac i ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig. Fel cynifer o sectorau eraill, mae’r 18 mis diwethaf wedi arwain at heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen i ffermwyr.
Ni fyddwn byth yn anghofio’r golygfeydd ar ddechrau’r pandemig o silffoedd archfarchnadoedd gwag a’r ofn a fynegwyd gan gynifer o’n hetholwyr ein bod yn mynd i redeg allan o fwyd. Wynebodd ffermwyr yr her o sicrhau bod digon o fwyd yn cael ei gynhyrchu i ateb y galw di-baid, yn ôl pob golwg, ac i ailstocio silffoedd ledled y wlad. Diolch yn fawr.
I gael amrywiaeth o ryseitiau cyffrous ac iach sy’n defnyddio cig oen Cymru ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yn Wythnos Caru Cig Oen Cymru ewch i www.eatwelshlambandwelshbeef.com neu wefan Hybu Cig Cymu yn www.meatpromotion.wales/cy