Mae Robin Millar AS yn cefnogi ymgyrch amgylcheddol fwyaf y wlad
Mae Robin Millar AS wedi addo cefnogi Ymgyrch Gwanwyn Glân Prydain eleni, sy’n cael ei chynnal gan elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy.
Fel rhan o’r ymgyrch, sy’n rhedeg o 20 Mawrth tan 13 Ebrill, bydd hyd at 600,000 o bobl yn gweithredu drwy lanhau strydoedd, parciau a thraethau ledled y wlad.
Mae Ymgyrch Gwanwyn Glân Prydain, sy’n cael ei chynnal gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, yn dod ag unigolion, sefydliadau cymunedol, busnesau a chynghorau at ei gilydd i ddangos eu bod yn caru lle maen nhw’n byw. Yn 2019, fe wnaeth dros hanner miliwn o #ArwyrSbwriel gasglu dros 900,000 bag o sbwriel.
Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, Prif Weithredwr Keep Britain Tidy: “Roedd yr ymateb ysgubol I Ymgyrch Gwanwyn Glân Prydain y llynedd yn dangos bod cannoedd o filoedd o bobl yn caru lle maen nhw’n byw a’u bod yn barod i gymryd camau i wella’r ardaloedd hynny er eu lles eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
“Mae sbwriel yn fater sy’n effeithio ar bob cornel o’r wlad, a beth bynnag fo’ch daliadau gwleidyddol, mae Ymgyrch Gwanwyn Glân Prydain yn ymgyrch y gall pawb ei chefnogi. Mae’n wych cael cefnogaeth Robin i’n helpu ni i gyrraedd ein targed o gael 600,000 o bobl allan yn gweithredu drwy lanhau pob cornel o’r wlad.”
Dywedodd Robin, “Pe bai pawb yn codi un darn o blastig y diwrnod – byddai ein camlesi a’n hafonydd yn ddi-blastig mewn blwyddyn. Nid gwaith rhywun arall yw casglu sbwriel – mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd.
Mae codi sbwriel yn gwneud eich cymdogaeth yn fwy dymunol, yn helpu anifeiliaid a bywyd gwyllt, ac yn arbed arian! Mae pob un o’r rhain yn rhesymau da dros wneud eich rhan.”
“Byddaf yn ymuno â digwyddiadau casglu sbwriel yn Aberconwy yn ystod Ymgyrch Gwanwyn Glân Prydain. Cadwch lygad ar fy nhudalen Facebook i gael dyddiadau ac amseroedd – mae croeso i chi ddod draw hefyd. Os yw’ch cymuned, ysgol neu fusnes yn trefnu eu sesiwn “gwanwyn glân” eu hunain – rhowch wybod i mi – byddwn wrth fy modd yn cymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Gwanwyn Glân Prydain, ewch i www.keepbritaintidy.org