Mae’r Llywodraeth yn lansio ymgynghoriad ynghylch egwyddor a chwmpas Cyfamod yr Heddlu.
Mae’r heddlu’n gwneud gwaith unigryw a nodedig, ac yntau’n wynebu heriau a phwysau enfawr. Mae’r Llywodraeth hon wedi cynnig cynlluniau ar gyfer Cyfamod yr Heddlu, i’w cynnwys yn y gyfraith, er mwyn cydnabod hyn a darparu’r diogelwch a’r gefnogaeth maen nhw’n ei haeddu.
Y llynedd, fe wnaeth Adolygiad y Swyddfa Gartref o’r Rheng Flaen amlygu pryderon ynghylch staff a swyddogion yr heddlu, a bod angen gwneud mwy i’w helpu nhw.
Roedd hyn yn amlygu bod angen cymryd camau ar frys i sicrhau bod staff yr heddlu’n cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi’n llawn. Cafodd pecyn o fesurau uniongyrchol eu dwyn ymlaen mewn ymateb i hyn, ond mae’r Llywodraeth wedi parhau i chwilio am ffyrdd o wneud mwy i wella llesiant yr heddlu ac i fynd i'r afael â’r pryderon hyn.
Cyflwyno Cyfamod yr Heddlu yw’r cam nesaf ar y daith hon i ddarparu cymorth cynhwysfawr, ystyrlon a pharhaus i swyddogion.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ar yr egwyddor o sefydlu Cyfamod yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr er mwyn gwella’r cymorth sydd ar gael i’r heddlu a’u teuluoedd. Bydd yn edrych ar y themâu canlynol:
• Diogelwch Corfforol
• Iechyd a Lles
• Cymorth i Deuluoedd
Bydd hefyd yn ystyried cwmpas y Cyfamod a phwy ddylai gael ei gynnwys.
Bydd yr ymgynghoriad yn para 8 wythnos a bydd yn dod i ben ar 22 Ebrill 2020, gydag ymateb ffurfiol gan y Llywodraeth i ddilyn.
Mae modd cael gafael ar yr ymgynghoriad drwy ddefnyddio’r ddolen isod:
https://www.gov.uk/government/consultations/police-covenant-for-england-and-wales
At y diben hwn, rwyf yn annog etholwyr i lenwi’r ymgynghoriad hwn a rhoi gwybod i’r Llywodraeth beth arall y gallwn ei wneud i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar swyddogion yr heddlu a’u teuluoedd. Dyma’ch cyfle chi i helpu i ddatblygu cyfamod yr heddlu effeithiol.