In December, Aberconwy MP Robin Millar launched his Railway Users’ Survey, following a myriad of complaints from constituents ranging from overcrowding to too few direct services between Llandudno Junction and London. Robin has already received hundreds of submissions from across Aberconwy and will shortly be taking the results of the survey, along with the issues and concerns that have been raised, to a meeting with Avanti West Coast and Transport for Wales.
Speaking about the survey, Robin said:
“It is clear from my inbox and mailbag that local transport services are an issue of huge importance to people across Aberconwy and that there are significant, and longstanding, concerns about railway services. The pandemic has added to these concerns – particularly in relation to overcrowding and the frequency of direct services to London.”
Continuing, Robin said: “I am grateful that so many residents have taken the time to complete my Railway Users’ Survey. Avanti West Coast and Transport for Wales have been made aware of the survey and have asked to discuss the results with me in a meeting at the end of this week.”
Finally, Robin said: “This is a terrific opportunity for us to take our concerns and issues directly to the rail operators. Every completed survey is valuable and there is still time to have your say. If you can spare a couple of minutes to complete the survey (in Welsh or English) please visit www.robin-millar.org.uk/railway”
Aelod Seneddol Aberconwy yn Croesawu Ymatebion i Arolwg Defnyddwyr Rheilffyrdd
Ym mis Rhagfyr, lansiodd AS Aberconwy, Robin Millar, ei Arolwg Defnyddwyr Rheilffyrdd, yn dilyn llu o gwynion gan etholwyr am amrywiaeth o faterion mewn perthynas â gorlenwi ac amlder gwasanaethau uniongyrchol rhwng Cyffordd Llandudno a Llundain. Mae Robin eisoes wedi cael cannoedd o ymatebion o bob rhan o Aberconwy a bydd yn mynd â chanlyniadau’r arolwg, ynghyd â’r materion a’r pryderon a godwyd, i gyfarfod gydag Avanti West Coast a Trafnidiaeth Cymru.
Wrth siarad am yr arolwg, dywedodd Robin:
“Mae’n amlwg o’m blwch derbyn a’m bag post fod gwasanaethau trafnidiaeth lleol yn fater o bwys mawr i bobl ledled Aberconwy a bod pryderon sylweddol a hirsefydlog ynghylch gwasanaethau rheilffyrdd. Mae’r pandemig wedi ychwanegu at y pryderon hyn – yn enwedig mewn perthynas â gorlenwi ac amlder gwasanaethau uniongyrchol i Lundain.”
Aeth Robin ymlaen i ddweud: “Rwy’n ddiolchgar bod cynifer o drigolion wedi rhoi o’u hamser i lenwi fy Arolwg Defnyddwyr Rheilffyrdd. Mae Avanti West Coast a Trafnidiaeth Cymru wedi cael gwybod am yr arolwg ac wedi gofyn am gael trafod y canlyniadau â mi mewn cyfarfod ddiwedd yr wythnos hon.”
Yn olaf, dywedodd Robin: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni fynd â’n pryderon a’n materion yn uniongyrchol at y gweithredwyr rheilffyrdd. Mae pob arolwg sydd wedi’i lenwi yn werthfawr ac mae amser o hyd i ddweud eich dweud. Os gallwch dreulio munud neu ddau yn llenwi’r arolwg (yn Gymraeg neu yn Saesneg) ewch i: www.robin-millar.org.uk/arolwg-defnyddwyr-rheilffyrdd