This week Robin signed the Holocaust Educational Trust’s Book of Commitment, in doing so pledging his commitment to Holocaust Memorial Day and honouring those who were murdered during the Holocaust as well as paying tribute to the extraordinary Holocaust survivors who work tirelessly to educate young people today.
Holocaust Memorial Day falls on 27th January every year, the anniversary of the liberation of the infamous former Nazi concentration and death camp, Auschwitz-Birkenau, in 1945. Across the UK – and throughout the world – people will come together to remember the horrors of the past.
In the lead up to and on Holocaust Memorial Day, thousands of commemorative events will be arranged by schools, faith groups and community organisations across the country, remembering all the victims of the Holocaust and subsequent genocides. The theme for this year’s commemorations is ‘Ordinary People’.
On Holocaust Memorial Day we also remember and pay tribute to all of those persecuted by the Nazis, including Roma and Sinti people, disabled people, gay men, political opponents to the Nazis and others. We also remember all of those affected by genocide since, in Cambodia, Rwanda, Bosnia and Darfur.
After signing the Book of Commitment, Robin MP commented:
“Holocaust Memorial Day is an important opportunity for people from Aberconwy to reflect on the darkest times of European history. Today, I pledge to remember the six million Jewish men, women and children who were murdered in Holocaust.”
Karen Pollock CBE, Chief Executive of the Holocaust Educational Trust, said:
“On Holocaust Memorial Day we remember the 6 million men, women and children who were murdered by the Nazis and their collaborators, simply for being Jewish, and we pay tribute to the incredible survivors, many of whom still share their testimony day in and day out to ensure that future generations never forget the horrors of the past. We also remember that antisemitism did not start or end with the Holocaust, we must all be vigilant, and speak out whenever it is found.”
Robin yn llofnodi Llyfr Ymrwymo Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost
Wythnos yma, llofnododd Robin Lyfr Ymrwymo Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Trwy wneud hynny, roedd yn ymrwymo i Ddiwrnod Cofio'r Holocost, ac anrhydeddu’r rheini a gafodd eu lladd yn ystod yr Holocost a thalu teyrnged i oroeswyr arbennig yr Holocost sy’n gweithio mor ddiflino i addysgu pobl ifanc heddiw.
Cynhelir Diwrnod Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr bob blwyddyn. Dyma’r dyddiad y cafodd gwersyll carchar a marwolaeth enwog y Natsïaid, Auschwitz-Birkenau, ei ryddhau ym 1945. Ledled y DU – ac ar draws y byd – bydd pobl yn dod at ei gilydd i gofio erchyllterau’r gorffennol.
Yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Cofio'r Holocost ac ar y diwrnod ei hun, bydd miloedd o ddigwyddiadau coffa yn cael eu trefnu gan ysgolion, grwpiau ffydd a mudiadau cymunedol ar draws y wlad, i gofio am holl ddioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau sydd wedi bod ers hynny. Y thema ar gyfer y coffâd eleni ydy ‘Pobl Gyffredin’.
Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rydyn ni hefyd yn cofio ac yn talu teyrnged i bawb a gafodd eu herlid gan y Natsïaid, gan gynnwys pobl Roma a Sinti, pobl anabl, dynion hoyw, gwrthwynebwyr gwleidyddol y Natsïaid, ac eraill. Rydyn ni hefyd yn cofio pawb y mae hil-laddiadau wedi effeithio arnynt ers hynny, yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Ar ôl llofnodi’r Llyfr Ymrwymo, dywedodd Robin AS:
“Mae Diwrnod Cofio’r Holocaust yn gyfle pwysig i bobl o Aberconwy ystyried cyfnod tywyllaf hanes Ewrop. Heddiw, rwy’n addo cofio’r chwe miliwn o ddynion, merched a phlant Iddewig a gafodd eu llofruddio yn yr Holocost.”
Dywedodd Karen Pollock CBE, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost:
“Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rydyn ni’n cofio’r 6 miliwn o ddynion, menywod a phlant a gafodd eu llofruddio gan y Natsïaid a’u cydweithredwyr, dim ond am fod yn Iddewig. Rydyn ni hefyd yn talu teyrnged i’r goroeswyr anhygoel. Mae llawer ohonyn nhw’n dal i rannu eu tystiolaeth bob dydd er mwyn sicrhau na fydd cenedlaethau’r dyfodol byth yn anghofio erchyllterau’r gorffennol. Rydyn ni hefyd yn cofio na wnaeth gwrth-semitiaeth ddechrau na gorffen gyda’r Holocost. Mae’n rhaid i ni i gyd fod yn wyliadwrus, a datgan yn glir pan fyddwn yn gweld gwrth-semitiaeth ar waith.”