Dogs Trust this week welcomed Aberconwy MP Robin Millar to an event at the House of Commons to raise awareness of the urgency to progress the sidelined Kept Animals Bill. The Bill would tackle the illegal trade of puppy smuggling – a manifesto promise from the current Government.
More than 50 MPs and peers were present to support the Dogs Trust event discussing with the charity how they can work together to end the illegal puppy trade by ensuring the Animal Welfare (Kept Animals) Bill is passed by Parliament.
The Kept Animals Bill includes provisions to tackle abuse of the Pet Travel Scheme (PETS), which the charity has been exposing since 2014. Unscrupulous traders continue to take advantage of the scheme to illegally import underage puppies – which are often unvaccinated and in poor welfare conditions – to be sold to unsuspecting buyers, while turning a huge profit for themselves at the cost of animal welfare.
Additionally, these unlawful traders are increasingly transporting heavily pregnant dogs which can cause significant suffering and health implications to the mum, puppies and potentially unsuspecting buyers. The Bill would also help tackle this issue by restricting the movement of pregnant dogs.
Attending MPs and peers spoke with members of Dogs Trust staff about the importance of passing the Bill, and how it will improve various areas of animal welfare as well as learning about the charity’s ongoing campaign to end puppy smuggling. At the event, MPs and peers pledged to work collaboratively with Dogs Trust to end the illegal and abhorrent trade.
Robin said:
“As in so many homes throughout Aberconwy, our dogs are members of our family and I know from the amount of correspondence I receive that there are many hundreds of constituents who care deeply about this issue.
“I was shocked to learn more about the horrendous ways puppies are smuggled into the UK and the poor conditions they endure. The passing of the Kept Animals Bill will be crucial in improving animal welfare in the UK and I hope that Dogs Trust’s campaign will motivate the Government to progress with the Bill urgently.”
Paula Boyden, Dogs Trust Veterinary Director, added:
“I’m pleased that there has been strong attendance at this event with some engaging conversations, however it’s equally disappointing that the Government continues to stall the Bill which would be a step in the right direction to end the puppy smuggling trade, despite the clear support of its members in welcoming the Bill back to Parliament.
“The Government mustn’t sit on this any longer; it pledged to crack down on the illegal smuggling of dogs and puppies back in 2019, and it could easily make good on this commitment by passing the Bill now.”
Robin yn ymuno â’r Ymddiriedolaeth Cŵn i alw ar y Llywodraeth i ddod â’r Bil Anifeiliaid a Gedwir yn ôl
Yr wythnos hon, croesawodd yr Ymddiriedolaeth Cŵn AS Aberconwy, Robin Millar, i ddigwyddiad yn Nhŷ’r Cyffredin i godi ymwybyddiaeth o’r gwir angen i fwrw ymlaen â’r Bil Anifeiliaid a Gedwir, sydd wedi’i roi o’r neilltu. Byddai’r Bil yn helpu i daclo masnach anghyfreithlon smyglo cwn bach - addewid maniffesto gan y Llywodraeth bresennol.
Roedd dros 50 o ASau a chyfoedion yn bresennol i gefnogi’r digwyddiad Ymddiriedolaeth Cŵn, yn trafod gyda’r elusen sut y gallent gydweithio i ddirwyn y fasnach cŵn bach anghyfreithlon i ben, drwy sicrhau bod y Senedd yn pasio’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
Mae’r Bil Anifeiliaid a Gedwir yn cynnwys darpariaethau i daclo achosion o gam-drin y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes (PETS), y mae’r elusen wedi bod yn eu hamlygu ers 2014. Mae masnachwyr anghyfreithlon yn parhau i gymryd mantais o’r cynllun er mwyn mewnforio cŵn bach dan oed - sy’n aml heb eu brechu ac mewn amodau lles gwael - a fydd yn cael eu gwerthu i brynwyr diarwybod. Mae hyn yn golygu elw enfawr i’r gwerthwyr ar draul lles yr anifail.
Yn ogystal, mae’n dod yn fwy cyffredin i’r masnachwyr anghyfreithlon hyn gludo geist sydd ar ddiwedd beichiogrwydd, a all achosi dioddefaint a goblygiadau iechyd ofnadwy i’r ast, y cwn bach a’r prynwyr diarwybod o bosibl. Byddai’r Bil hefyd yn helpu i daclo hyn drwy gyfyngu ar symudiad geist beichiog.
Bu i’r ASau a chyfoedion oedd yn bresennol siarad ag aelodau’r Ymddiriedolaeth Cŵn ynghylch pwysigrwydd pasio’r Bil, a sut y bydd yn gwella sawl maes lles anifeiliaid. Cawsant gyfle hefyd i ddysgu am ymgyrch parhaus yr elusen i ddirwyn i ben smyglo cŵn bach. Yn y digwyddiad, bu i ASau a chyfoedion addo i gydweithio â’r Ymddiriedolaeth Cŵn i ddirwyn i ben y fasnach anghyfreithlon ac ofnadwy.
Dywedodd Robin:
“Fel sy’n wir mewn sawl aelwyd yn Aberconwy, mae ein cŵn yn aelodau’r teulu, ac rwy’n deall pa mor bwysig yw’r Bil hwn i gymaint o bobl.
“Cefais fy synnu wrth ddysgu mwy am y ffyrdd ofnadwy y caiff cŵn bach eu smyglo i’r DU, a’r amodau gwael y maent yn eu dioddef. Bydd pasio’r Bil Anifeiliaid a Gedwir yn hanfodol i wella lles anifeiliaid yn y DU, a drwy lwc, bydd ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Cŵn yn rhoi hwb i’r Llywodraeth fwrw ymlaen â’r Bil ar frys.”
Ychwanegodd Paula Boyden, Cyfarwyddwr Milfeddygol yr Ymddiriedolaeth Cŵn:
“Rwy’n falch o weld cymaint yn y digwyddiad a thrafodaethau cyffrous, fodd bynnag, mae’n siomedig bod y Llywodraeth yn parhau i ohirio’r Bil a fyddai’n gam yn y cyfeiriad cywir i ddirwyn i ben y fasnach smyglo cŵn bach, er gwaethaf cefnogaeth amlwg ei haelodau o ran creosawu’r Bil yn ôl i’r Senedd.
“Ni ddylai’r Llywodraeth ohirio hyn ymhellach; cafwyd addewid ganddynt i daclo smyglo cŵn a chŵn bach yn anghyfreithiol yn 2019, a gallai gyflawni hyn yn rhwydd drwy basio’r Bil nawr.”