On Friday Robin Millar MP welcomed over 30 community groups and volunteers to a funding workshop that he hosted in Conwy with the National Lottery Community Fund. This was an opportunity for community groups from throughout Aberconwy to learn more about what grants the Fund has that could help to make their ideas and plans a reality.
Funding, made possible thanks to National Lottery players, is available through two main programmes called National Lottery Awards for All and People and Places programmes.
National Lottery Awards for All awards up to £10,000 for a range of community projects, including projects that are responding to the rising cost-of-living.
People and Places awards up to £500,000 for communities to work together to make positive longer-term impacts on the things that matter to them.
Speaking after the workshop, Robin said:
“Building stronger communities is part of Our Plan for Aberconwy and it is crucial that the good causes in our communities have the knowledge and confidence to apply for vital funds that can grow the fantastic work they do.
“Local community groups make an invaluable contribution to life in Aberconwy and it was great to meet with more than 30 local community groups and volunteers and to hear their plans for helping their communities. Whether it was fixing a leaky roof, new uniforms or getting together to transform a street - everyone there was trying to do their bit, and find out how to access the funding they needed. And I see it as my job to try and help people do the things they are working on for their community."
Continuing, Robin said:
“Eirian and Rhun from the Lottery spoke about their funds, how to bid and the importance of community involvement in developing the project, designing the solution and delivering it.
“I shared how the UK Government has made over £24 million available to the whole of Conwy through the Shared Prosperity Fund. I'm determined that this needs to come to community groups here in Aberconwy.
“An inspiring morning - if anyone would like more information please contact my office on 01492 583094 or at robin.millar.mp@parliament.uk”
Following the workshop, attendee Mr Colin Brooks-William said:
“This was a very timely event, as I am looking to set up a community cinema in Penmaenmawr. It was very useful to hear about the funding options available and my next steps are now clearer.”
Last year, The National Lottery Community Fund awarded over £40 million to charities and communities across Wales who are changing lives and National Lottery players raise £30 million each week for good causes throughout the UK.
To find out more about The National Lottery Community Fund in Wales, visit www.TNLCommunityFund.org.uk/wales
Robin, AS Aberconwy, yn cynnal gweithdy cyllido gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Croesawodd Robin Millar AS dros 30 o grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i weithdy cyllido a gynhaliodd yng Nghonwy ddydd Gwener gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Roedd yn gyfle i grwpiau cymunedol o bob rhan o Aberconwy ddysgu mwy am grantiau’r Gronfa a allai helpu i wireddu eu syniadau a’u cynlluniau.
Gyda diolch i’r bobl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, mae’r cyllid ar gael drwy ddwy brif raglen - sef Arian i Bawb gan y Loteri Genedlaethol a Rhaglen Pobl a Lleoedd.
Mae Arian i Bawb gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi hyd at £10,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cymunedol, gan gynnwys prosiectau sy’n ymateb i’r cynnydd yn y costau byw.
Mae Rhaglen Pobl a Lleoedd yn rhoi hyd at £500,000 i gymunedau allu gweithio gyda’i gilydd er mwyn cael effaith hirdymor gadarnhaol ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Wrth siarad ar ôl y gweithdy, dywedodd Robin:
“Mae adeiladu cymunedau cryfach yn rhan o Ein Cynllun ar gyfer Aberconwy, ac mae’n hanfodol bod gan yr achosion da yn ein cymunedau yr wybodaeth a’r hyder i wneud cais am arian sy’n gallu tyfu’r gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud.
“Mae grwpiau cymunedol lleol yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at fywyd yn Aberconwy ac roedd yn braf cael cwrdd â mwy na 30 o grwpiau cymunedol lleol a gwirfoddolwyr a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer helpu eu cymunedau. P’un a oedd hynny’n cynnwys trwsio to sy’n gollwng, cael gwisgoedd newydd neu ddod at ei gilydd i drawsnewid stryd - roedd pawb yno’n ceisio chwarae eu rhan a chael gwybod sut i gael gafael ar y cyllid roedd ei angen arnyn nhw. Ac rwy’n ystyried mai fy ngwaith i yw ceisio helpu pobl i wneud y pethau maen nhw’n gweithio arnyn nhw yn eu cymunedau.”
Aeth Robin ymlaen i ddweud:
“Siaradodd Eirian a Rhun o’r Loteri am gyllid, sut i wneud cais amdano, a phwysigrwydd cynnwys y gymuned yn y gwaith o ddatblygu’r prosiect, cynllunio’r ateb a’i gyflwyno.
“Soniais fel y mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod dros £24 miliwn ar gael i Gonwy gyfan drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Rwy’n benderfynol bod angen i hwn ddod i grwpiau cymunedol yma yn Aberconwy.
“Bore ysbrydoledig - os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’m swyddfa ar 01492 583094 neu robin.millar.mp@parliament.uk”
Yn dilyn y gweithdy, dywedodd Mr Colin Brooks-William:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad amserol iawn gan fy mod i’n bwriadu sefydlu sinema gymunedol ym Mhenmaenmawr. Roedd yn ddefnyddiol iawn cael clywed am yr opsiynau cyllido sydd ar gael, ac mae fy nghamau nesaf bellach yn fwy clir.”
Y llynedd, rhoddodd Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros £40 miliwn i elusennau a chymunedau ledled Cymru sy’n newid bywydau pobl. Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU.
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales