Last Friday over 15 local organisations were represented at a drop in event in Llanfairfechan hosted by Aberconwy MP Robin Millar. Following the successful Worried About Winter event in September in Llandudno, this was the second event in this series hosted by Robin. Organisations including Conwy Council, Dwr Cymru and Nest were on hand to offer free advice and support on issues such as reducing energy bills, accessing benefits and grants, safe and affordable ways to borrow money and help available within communities.
Speaking after the event, Robin said:
“I know how concerned so many residents and businesses throughout Aberconwy are about the cost of living and spiralling energy bills. I have taken these concerns directly to UK Government ministers and I welcome the Energy Price Guarantee scheme, unveiled by the former Prime Minister in September, which means that a typical household will pay no more than £2,500 per year for energy over the next six months. However, I know that many people are still very worried about the winter ahead and that is why I felt it was important to host this event in Llanfairfechan.
Dozens of people came along to see what support is available and to seek advice on a range of issues including reducing bills and accessing grants. I am grateful that so many local organisations were here to offer support and I’d like to thank them for the invaluable contribution that they make to our communities all year round.
I have created a cost of living Online Hub on my website which contains information about UK Government, Welsh Government and council support that is available. It also includes links to all of the organisations that were in attendance at the drop in event and it can be accessed from the homepage of my website at robin-millar.co.uk “
Concluding, Robin said;
“Winter can be a particularly lonely time for people and loneliness often goes unspoken about. No one needs to feel alone or without help and there are a number of organisations, including Church groups and veterans’ charities, that actively seek to support people. If you are experiencing difficulties please don’t hesitate to get in touch with my office (robin.millar.mp@parliament.uk or 01492 583094) or check the organisations listed on my website – they, my team and I are here to help.”
Ddydd Gwener diwethaf, cafodd dros 15 o fudiadau lleol eu cynrychioli mewn digwyddiad galw heibio yn Llanfairfechan, dan ofal Robin Millar, AS Aberconwy. Yn dilyn y digwyddiad Poeni am y Gaeaf llwyddiannus ym mis Medi yn Llandudno, hwn oedd yr ail ddigwyddiad yn y gyfres hon a gynhaliwyd gan Robin. Roedd sefydliadau fel Cyngor Conwy, Dŵr Cymru a Nest wrth law i gynnig cyngor a chymorth am ddim ar faterion fel lleihau biliau ynni, cael gafael ar fudd-daliadau a grantiau, ffyrdd diogel a fforddiadwy o fenthyca arian a chymorth sydd ar gael mewn cymunedau.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robin:
“Rwy’n gwybod bod cymaint o drigolion a busnesau ledled Aberconwy yn poeni am gostau byw a biliau ynni sy’n cynyddu. Rwyf wedi mynd â’r pryderon hyn yn uniongyrchol at weinidogion Llywodraeth y DU ac rwyf yn croesawu’r cynllun Gwarant Pris Ynni, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Medi, sy’n golygu na fydd aelwyd nodweddiadol yn talu mwy na £2,500 y flwyddyn am ynni dros y ddwy flynedd nesaf. Fodd bynnag, rwy’n gwybod fod llawer o bobl yn dal i boeni’n fawr am y gaeaf sydd o’n blaenau a dyna pam fy mod yn teimlo ei bod yn bwysig cynnal y digwyddiad hwn yn Llanfairfechan.
“Daeth torf o bobl draw i weld pa gymorth ychwanegol sydd ar gael ac i ofyn am gyngor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys lleihau biliau a chael gafael ar grantiau. Rwy’n ddiolchgar bod cynifer o sefydliadau lleol yma i gynnig cymorth a hoffwn ddiolch iddyn nhw am y cyfraniad amhrisiadwy maen nhw’n ei wneud i’n cymunedau drwy gydol y flwyddyn.
Rwyf wedi creu Hwb costau byw ar-lein ar fy ngwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a chynghorau. Mae hefyd yn cynnwys dolenni at y sefydliadau a ddaeth i’r digwyddiad galw heibio ac mae ar gael ar dudalen hafan fy ngwefan yn robin-millar.co.uk “
I gloi, dywedodd Robin:
“Mae’r Gaeaf yn gallu bod yn gyfnod arbennig o unig i bobl ac mae unigrwydd yn aml yn mynd yn angof. Does dim angen i neb deimlo ar ei ben ei hun neu heb gymorth ac mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys grwpiau eglwysi ac elusennau cyn-filwyr, sy’n mynd ati i geisio cefnogi pobl. Os ydych chi’n teimlo’n unig, mae croeso i chi gysylltu â’m swyddfa (robin.millar.mp@parliament.uk neu ffonio 01492 583094) neu i edrych ar y sefydliadau sydd wedi’u rhestru ar fy ngwefan – mae fy nhîm a minnau yma i helpu.”