Aberconwy MP Robin Millar and the National Lottery Community Fund are holding a funding Workshop for community groups and charities to find out more about how to apply for funding.
The workshop is being held 31st March 2023 at St Mary’s Church Hall, Conwy between 10:00 and midday.
Any Aberconwy resident, community group or charity who has a great idea is welcome to attend to learn more about what grants the National Lottery Community Fund has that could help to make the idea a reality.
In addition, the workshop will give communities more information about applying for a National Lottery grant and how the Fund is supporting communities with the pressures of cost-of-living. A Funding Officer will be on hand and they are particularly keen to speak to community groups who have never applied for a National Lottery grant before.
Aberconwy MP Robin Millar, speaking about the workshop, said:
“Building stronger communities is part of Our Plan for Aberconwy. It is important the good causes in our communities have the knowledge and confidence to apply for vital funds that can grow the fantastic work they do. Local community groups make an invaluable contribution to life in Aberconwy and I'm determined to do all I can to support them. I do hope representatives will be able join us on 31st March in Conwy.”
Funding, made possible thanks to National Lottery players, is available through two main programmes called National Lottery Awards for All and People and Places programmes.
National Lottery Awards for All awards up to £10,000 for a range of community projects, including projects that are responding to the rising cost-of-living.
People and Places awards up to £500,000 for communities to work together to make positive longer-term impacts on the things that matter to them.
Last year, The National Lottery Community Fund awarded over £40 million to charities and communities across Wales who are changing lives and National Lottery players raise £30 million each week for good causes throughout the UK.
If you wish to attend the event or want more information you can secure your spot by contacting Robin’s office at robin.millar.mp@parliament.uk or on 01492 583 094.
To find out more about The National Lottery Community Fund in Wales, visit www.TNLCommunityFund.org.uk/wales
Cynnal Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghonwy dan arweiniad Robin
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Robin Millar - Aelod Seneddol Aberconwy - am gynnal Gweithdy cyllido ar gyfer grwpiau cymunedol ac elusennau fel y gallant gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gyllid.
Mae’r gweithdy yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12pm ar 31 Mawrth 2023 yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Conwy.
Mae croeso i breswylydd, grŵp cymunedol neu elusen o Aberconwy ymuno â ni os oes ganddyn nhw syniadau gwych. Byddan nhw’n dysgu mwy am y grantiau sydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’w gynnig i helpu i wireddu’r syniadau hynny.
Yn ychwanegol at hyn, bydd y gweithdy’n rhoi rhagor o wybodaeth i gymunedau allu gwneud cais am grant gan y Loteri Genedlaethol, ac am sut mae’r Gronfa’n cefnogi cymunedau yng nghanol yr argyfwng costau byw. Bydd Swyddog Cyllido wrth law, a bydd yn arbennig o awyddus i gael sgwrs gyda’r grwpiau cymunedol sydd heb wneud cais am grant y Loteri Genedlaethol o’r blaen.
Dyma Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy, yn trafod y gweithdy:
“Mae adeiladu cymunedau cryfach yn rhan o’n Cynllun ni ar gyfer Aberconwy. Mae’n bwysig bod achosion da yn ein cymunedau yn cael y wybodaeth a’r hyder i wneud cais am y cyllid hollbwysig, a fydd yn gallu ehangu’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud. Mae grwpiau cymunedol lleol yn cyfrannu’n sylweddol at ein bywydau ni yn Aberconwy, ac rwy’n benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i’w cefnogi. Gobeithio y bydd cynrychiolwyr yn gallu ymuno â ni yng Nghonwy ar 31 Mawrth.”
Gyda diolch i’r bobl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol, mae’r cyllid ar gael drwy ddwy brif raglen - sef Arian i Bawb gan y Loteri Genedlaethol a Rhaglen Pobl a Lleoedd.
Mae Arian i Bawb gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi hyd at £10,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cymunedol, gan gynnwys prosiectau sy’n ymateb i’r cynnydd yn y costau byw.
Mae Rhaglen Pobl a Lleoedd yn rhoi hyd at £500,000 i gymunedau allu gweithio gyda’i gilydd er mwyn cael effaith hirdymor gadarnhaol ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Y llynedd, rhoddodd Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros £40 miliwn i elusennau a chymunedau ledled Cymru sy’n newid bywydau pobl. Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU.
Os ydych chi eisiau ymuno â’r digwyddiad hwn, neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Robin drwy robin.millar.mp@parliament.uk neu ar 01492 583 094.
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales