Robin Millar MP helping volunteers plant trees in the Conwy Valley
Another application window has been launched as part of an exciting funding programme which could help communities throughout Aberconwy build pride in place, increase life chances for residents and create new jobs by driving economic growth.
The call for applications to the Community Regeneration Key Fund, part of the UK Government’s Shared Prosperity , has been announced by Conwy Council. Projects can apply for grants of between £10,000 and £249,999 and must be completed by autumn 2024. However, the application window is relatively short – applications must be received by 5pm on 22nd September this year.
Commenting on the announcement, Aberconwy MP Robin Millar said:
“Levelling Up our economy, spreading opportunity and increasing employment and training opportunities are a crucial part of Our Plan for Aberconwy – the things that residents and businesses have told me are most important to them. I am pleased that Conwy County Borough Council has been allocated a total of £24.5m to invest and spend by March 2025.
“We are fortunate to have a seemingly countless number of groups throughout Aberconwy who are working to make visible and positive differences to communities and to people’s lives. This announcement is an open call for community groups who are planning or delivering projects and I would encourage them to apply as soon as possible.
“There is likely to be a high demand for funding and Conwy Council does not currently anticipate opening a second round.”
Full guidance and details about how to apply can be found on Conwy County Borough Council's website here
Robin yn annog ceisiadau i Gronfa Ffyniant Gyffredin y Llywodraeth
Mae ffenestr arall wedi’i lansio ar gyfer gwneud ceisiadau fel rhan o raglen gyllido gyffrous a allai helpu cymunedau ar draws Aberconwy i feithrin balchder mewn lle, gwella rhagolygon bywyd preswylwyr a chreu swyddi newydd drwy hybu twf economaidd.
Cyhoeddodd Cyngor Conwy y galwad am geisiadau i’r Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol, rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Llywodraeth. Gall prosiectau wneud cais am grantiau o rhwng £10,000 a £249,999 ac mae’n rhaid eu cwblhau erbyn yr hydref 2024. Fodd bynnag, mae’r ffenestr gwneud cais yn gymharol fyr – mae’n rhaid derbyn ceisiadau erbyn 5pm ar 22ain Medi eleni.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd AS Aberconwy Robin Millar:
“Mae sicrhau ffyniant bro ein heconomi, lledaenu cyfleoedd a chynyddu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn rhan hanfodol o Ein Cynllun ar gyfer Aberconwy – y pethau mae preswylwyr a busnesau Aberconwy wedi dweud wrthyf sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. Rwy’n falch iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dyrannu cyfanswm o £24.5 miliwn i’w fuddsoddi a’i wario erbyn mis Mawrth 2025.
“Rydym yn ffodus iawn bod gennym nifer di-ri o grwpiau ar draws Aberconwy sy’n gweithio i wneud newidiadau gweladwy a chadarnhaol i gymunedau ac i fywydau pobl. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gais agored i grwpiau cymunedol sy’n cynllunio neu’n cyflenwi prosiectau a byddwn yn eu hannog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
“Mae’n debyg y bydd galw mawr am gyllid ac nid yw Cyngor Conwy yn rhagweld ar hyn o bryd y byddant yn agor ail rownd.”
Mae canllawiau a manylion llawn am sut i wneud cais ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yma