All pensioners on a low income should check if they qualify for Pension Credit and eligibility receive a Cost-of-Living Payment.
There are just eight days to go for people to claim Pension Credit and still qualify for the latest £301 payment, which they will receive direct into their bank accounts. Pension Credit is worth over £3,500 a year on average.
Provided a claim is made before 19 May, it can be backdated for up to three months so long as the applicant was also eligible to receive it during that time. This builds on the extensive support from the UK Government that was delivered to pensioners last year, alongside measures such as holding down households’ energy through the Energy Price Guarantee Scheme.
Commenting, Robin said:
“Pension Credit provides a vital income ‘top up’ for some of our most vulnerable pensioners – worth more than £3,300 on average.
“Many vulnerable pensioners have found it easier to keep warm through the UK Government’s extensive support. However, while over 1700 pensioners throughout Aberconwy are receiving additional support through Pension Credit, I'm concerned that around 500 more might not be receiving the help they are entitled to – including the additional £301 cost-of-living payment.
“It is easy to check if you are eligible and I urge all pensioners to check either online or over the phone. I have also pressed for Welsh language information and access too. If you have loved ones who may be eligible, please do encourage them to check. Please visit www.gov.uk/pension-credit-calculator or call 0800 99 1234."
Continuing, Robin said:
“I am pleased that Since December, in addition to the 1700 here in Aberconwy, over 11.6 million pensioners throughout the UK have received up to £600 to help with their energy bills through the winter, as prices have been pushed up by Putin’s illegal war in Ukraine. This support, worth over £4.5 billion, is part of an extensive package helping people of all ages with the cost of heating their homes, including through the £400 Energy Bills Support Scheme and the Energy Price Guarantee scheme. This scheme was extended in March for a further three months, meaning that a typical household has saved £1060 this winter.
Concluding, Robin said:
“I have hosted three cost-of-living support and advice events throughout Aberconwy this winter and I have created a cost-of-living online hub on my website that is available in both Welsh and English. This hub contains information about UK Government, Welsh Government and Council support that is available and it can be accessed from the homepage of my website at www.robin-millar.org.uk.
“As always, please do not hesitate to contact me at robin.millar.mp@parliament.uk if you require any further help or assistance.”
Robin yn annog pensiynwyr Aberconwy i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer Credydau Pensiwn a Thaliad Costau Byw gwerth £301 ar unwaith
Dylai pob pensiynwr ar incwm isel wirio a yw’n gymwys ar gyfer Credydau Pensiwn, ac felly Taliad Costau Byw.
Dim ond naw diwrnod sydd ar ôl i bobl allu hawlio Credydau Pensiwn, a bod yn gymwys ar gyfer y taliad diweddaraf gwerth £301. Bydd y taliad yn cael ei dalu’n uniongyrchol i gyfrifon banc. Ar gyfartaledd, mae’r Credydau Pensiwn werth dros £3,500 y flwyddyn.
Os caiff hawliad ei gyflwyno cyn 19 Mai, gall gael ei ôl-ddyddio am hyd at dri mis, cyn belled bod yr ymgeisydd hefyd yn gymwys i’w dderbyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn ategu’r cymorth sylweddol a roddwyd i bensiynwyr gan Lywodraeth y DU y llynedd, ochr yn ochr â mesurau megis capio prisiau ynni aelwydydd drwy’r Cynllun Gwarant Pris Ynni.
Dywedodd Robin:
“Mae’r Credydau Pensiwn yn darparu ychwanegiad incwm hanfodol i rai o’n pensiynwyr mwyaf agored i niwed - gwerth dros £3,000 ar gyfartaledd.
“Mae llawer o bensiynwyr agored i niwed wedi’i chael hi’n haws cadw’n gynnes yn sgîl cymorth sylweddol gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, er bod dros 1,700 o bensiynwyr yn Aberconwy yn derbyn cymorth ychwanegol drwy Gredydau Pensiwn, rwy’n pryderu nad yw o leiaf oddeutu 500 yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo - gan gynnwys y taliad costau byw ychwanegol gwerth £301.
“Mae gweld a ydych chi’n gymwys yn hawdd, ac rwy’n annog pob pensiynwr i gael golwg ar-lein neu godi’r ffôn. Rwyf hefyd wedi galw am wybodaeth a mynediad yn y Gymraeg. Os oes gennych aelodau’r teulu a allai fod yn gymwys, anogwch nhw i wirio.”
Aeth Robin ymlaen i ddweud:
“Ers mis Rhagfyr, rwy’n falch bod dros 11.6 miliwn o bensiynwyr ledled y DU, yn ogystal â’r 1,700 yma yn Aberconwy, wedi derbyn hyd at £600 i helpu gyda biliau ynni dros y gaeaf, wrth i’r prisiau godi’n ddigynsail oherwydd rhyfel anghyfreithlon Putin yn Wcráin. Mae’r gefnogaeth hon, werth dros £4.5 biliwn, yn rhan o becyn helaeth sy’n helpu pobl o bob oed gyda’r gost o gynhesu eu cartrefi, gan gynnwys drwy’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni £400 a’r cynllun Gwarant Pris Ynni. Cafodd y cynllun ei ymestyn ym mis Mawrth am dri mis ychwanegol, sy’n golygu bod aelwyd arferol wedi arbed £1,060 dros y gaeaf.
I gloi, dywedodd Robin:
“Rwyf wedi cynnal tri digwyddiad cymorth a chyngor costau byw yn Aberconwy dros y gaeaf, ac wedi creu hwb ar-lein costau byw ar fy ngwefan sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r hwb yn cynnwys gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r Cyngor. Gallwch gyrchu’r hwb drwy fynd i’m gwefan: www.robin-millar.org.uk.
“Fel bob amser, cysylltwch ar bob cyfrif drwy ebostio robin.millar.mp@parliament.uk os oes arnoch angen unrhyw help neu gymorth pellach.”