Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About Robin Millar
  • News
  • Lobbying & Campaigns
  • In Parliament
  • Contact
Site logo

Prentisiaethau gyda'r Grid Cenedlaetho

  • Tweet
Monday, 11 January, 2021

Galw ar y rhai hynny yn Aberconwy sy’n edrych am swydd i raddedigion neu brentisiaeth.  Mae’r Grid Cenedlaethol yn recriwtio’r genhedlaeth nesaf o ddatryswyr problemau a meddylwyr creadigol er mwyn helpu i drawsnewid y sector ynni i gwrdd â’r sero net.  https://ngrid.com/3n9HV1W

Mae’r Grid Cenedlaethol yn berchen ac yn gweithredu’r rhwydweithiau trosglwyddo trydan a nwy neu’r ‘traffyrdd ynni’ yng Nghymru a Lloegr ac ar gyfer nwy yn unig yn Yr Alban, sy’n golygu y bydd ein gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol yn helpu i wireddu nodau sero net y DU.

Ar hyn o bryd, maen nhw yn y broses o gyflogi ar gyfer eu rhaglenni i Raddedigion, Lleoliadau Myfyrwyr a Phrentisiaethau ac wrth ymgeisio am un o’r rhaglenni hyn, byddwch chi’n cael y cyfle i ymuno â chenhedlaeth newydd o dalent a fydd yn llunio dyfodol ynni yn y DU.  Eleni, am y tro cyntaf, maen nhw’n cynnig Prentisiaeth newydd, sef Prentisiaeth Gradd Trosglwyddo Nwy, lle bydd prentisiaid yn astudio ar gyfer Baglor mewn Peirianneg fel rhan o’u swyddogaeth.

“Bydd llawer o’r rhai sy’n ymuno â ni o’r newydd yn hogi eu sgiliau mewn canolfan hyfforddi diguro, hollol unigryw yn Eakring, Swydd Nottingham, sy’n cynnig profiad datblygu dihafal.  Bob blwyddyn, rydym yn buddsoddi oddeutu £2.5m-£3m mewn hyfforddiant yn Eakring ac rydym yn anhygoel o falch o fod y darparwr prentisiaethau cyntaf i dderbyn dyfarniad ‘eithriadol’ gan Ofsted am dair blynedd yn olynol.”

Os oes diddordeb gennych chi, ewch i https://ngrid.com/3n9HV1W er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth.

  • Local News

You may also be interested in

1 in 10 Adults Vaccinated

Vaccination Update

Monday, 25 January, 2021

We hit an important milestone this week: the number of vaccinations administered to residents across north Wales by Betsi Cadwaladr (32,264) has passed the number of confirmed cases here (27,934) since the start of the pandemic.

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Westminster News

Robin Millar MP for Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Robin Millar MP
  • In Parliament
Site logoPromoted by Harry Saville on behalf of Robin Millar, both at North West Wales Conservatives both of 49 Bridge Street. Llangefni. LL77 7PN
Copyright 2021 Robin Millar MP for Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree