It was a change from the usual Friday night this week - I went out with North Wales police on patrol in Conwy and Llandudno.
Our police officers and PCSOs do a fantastic job and this was an opportunity to see first hand what they do, day in and day out for us here in Aberconwy.
I accompanied Sergeant Kim Owen and PCSO Dave Madden on their patrol around Conwy and then on to Llandudno, finishing around midnight.
I meet regularly, with my Conservative MP colleagues, with North Wales Chief Constable Carl Foulkes to discuss priorities, issues that arise and any new developments. We have provided extra police in North Wales and want to see them being used effectively.
In those meetings I have been keen to raise residents' concerns about County Lines and problems with graffiti and criminal damage up the valley.
IN THE COMMUNITY
But this is front line community policing. Something different altogether. This is about relationship building and a visible presence on our streets. The base in Conwy town centre in Lancaster Square is key to this - a physical presence in the centre of our patch like this gives confidence and access.
Out on the beat it was good to see pubs getting busy once again and hear the chatter and cheers (football was on in the Old Mail Coach!) People were observing social distancing, wearing masks, ordering from tables and giving details to door staff. Numbers were also being limited and every eatery was fully booked.
A big cheer, lots of curiosity (sometimes both!) greeted the arrival of the police but it was all good natured and clearly a regular occurrence for the managers.
GOOD POLICING
This is good policing - it was great to see how conversations and questions from patrons and by passers were handled. As the evening wore on, the conversations got more, 'varied'.
The one incident we saw didn't involve the pubs and was dealt with expertly. The back up requested arrived promptly from Colwyn Bay and ended with everyone going their separate ways - with compliments on how officers had handled matters.
So to conclude. We all know Conwy and Llandudno are a great part of North Wales to go out and visit in the evening. We are fortunate to have such a wide range of good quality establishments, well run by people concerned for wellbeing of their guests and patrons. More than that, I can see that every effort is made to make it a safe one.
There are questions that this evening patrol hass raised for me that I'll take away: the challenges of supporting people with mental health problems, aspects of how officers are deployed, the importance of a physical presence, how some of our laws work out on the ground and more.
All in all, the evening gave a really helpful insight into the terrific work our police do.
So a huge thanks to North Wales police and the Conwy team for allowing me to join them. A personal thanks from me to Kim and Dave and to all the places we visited around Conwy and Llandudno and popped in to chat with. (And for the coffee - you know who you are!)
Ar batrôl.
Yr wythnos hon, cefais nos Wener go wahanol i’r arfer – es i allan gyda heddlu Gogledd Cymru ar batrôl yng Nghonwy a Llandudno.
Mae ein swyddogion heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) yn gwneud gwaith gwych ac roedd hwn yn gyfle i weld yn uniongyrchol beth maen nhw’n ei wneud, o ddydd i ddydd, i ni yma yn Aberconwy.
Ymnais â’r Rhingyll Kim Owen a’r PCSO Dave Madden ar eu patrôl o amgylch Conwy ac yna i Landudno, gan orffen tua hanner nos.
Byddaf i a’m cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol, yn cwrdd yn rheolaidd â Phrif Gwnstabl Gogledd Cymru, Carl Foulkes, i drafod blaenoriaethau, materion sy’n codi ac unrhyw ddatblygiadau newydd. Rydym ni wedi darparu heddlu ychwanegol yng Ngogledd Cymru ac rydym am eu gweld yn cael eu defnyddio’n effeithiol.
Yn y cyfarfodydd hynny rydw i wedi bod yn awyddus i fynegi pryderon trigolion ynghylch Llinellau Cyffuriau a phroblemau gyda graffiti a difrod troseddol i fyny’r dyffryn.
YN Y GYMUNED
Ond plismona cymunedol rheng flaen yw hyn. Rhywbeth hollol wahanol. Mae hyn yn ymwneud â meithrin perthynas a phresenoldeb amlwg ar ein strydoedd. Mae’r orsaf yng nghanol tref Conwy yn Sgwâr Lancaster yn allweddol i hyn – mae presenoldeb corfforol yng nghanol y dref yn rhoi hyder a mynediad i bobl.
Tra oeddwn ar batrôl, roedd hi’n braf gweld tafarnau’n prysuro unwaith eto a chlywed y sgwrsio a’r gweiddi (roedd gêm bêl-droed yn cael ei dangos yn Ye Olde Mail Coach!). Roedd pobl yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo masgiau, yn archebu o’r byrddau ac yn rhoi eu manylion i staff wrth y drws. Roedd y niferoedd yn cael eu cyfyngu hefyd ac roedd pob bwyty’n llawn.
Rhoddwyd bloedd fawr a chroeso chwilfrydig (weithiau’r ddau!) i’r heddlu ond roedd hwyliau da ar bawb ac roedd y rheolwyr yn amlwg wedi arfer â’u presenoldeb.
PLISMONA DA
Dyma i chi blismona da - roedd hi’n wych gweld sut yr ymdriniwyd â sgyrsiau a chwestiynau gan gwsmeriaid a phobl oedd yn pasio. Wrth i’r noson fynd yn ei blaen, aeth y sgyrsiau’n fwy ‘amrywiol’.
Un digwyddiad a welsom ac nid oedd hwnnw’n gysylltiedig â’r tafarnau, ac ymdriniwyd â’r mater yn fedrus. Cyrhaeddodd y gefnogaeth y gofynnwyd amdani yn brydlon o Fae Colwyn a daeth y digwyddiad i ben ac aeth pawb yn eu blaenau. Hoffwn ganmol y modd y deliodd y swyddogion â’r mater.
Rydym ni i gyd yn gwybod bod Conwy a Llandudno yn llefydd gwych i ymweld â nhw ac i fynd allan gyda’r nos yng Ngogledd Cymru. Rydym ni’n ffodus bod gennym ni ystod mor eang o sefydliadau o safon, sy’n cael eu rhedeg yn dda gan bobl sy’n poeni am les eu gwesteion a’u cwsmeriaid. Yn fwy na hynny, gallaf weld eu bod yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod y llefydd hyn yn ddiogel.
Mae bod ar batrôl wedi codi cwestiynau fydd yn aros yn y cof: yr heriau o gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, agweddau ar sut mae swyddogion yn cael eu defnyddio, pwysigrwydd presenoldeb corfforol, sut mae rhai o’n cyfreithiau’n gweithio ar lawr gwlad a mwy.
Drwyddi draw, rhoddodd y noson gipolwg defnyddiol iawn i mi ar y gwaith gwych mae ein heddlu’n ei wneud.
Felly diolch o galon i heddlu Gogledd Cymru a thîm Conwy am ganiatáu i mi ymuno â nhw. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Kim a Dave ac i’r holl lefydd y galwom ni heibio iddynt am sgwrs o amgylch Conwy a Llandudno. (Diolch hefyd am y coffi – rydych chi’n gwybod pwy ydych chi!)