A POPULAR Llandudno pub has been crowned the best community pub in Robin's Aberconwy Pub of the Year competition.
The Irish Bar on Mostyn Street in Llandudno received hundreds of votes from pub lovers from throughout Aberconwy who highlighted the pub’s community spirit, its support for local musicians and regular fundraising events for local good causes. On Friday afternoon Robin called in to meet with Licensees Joann and Michael and their daughter Grace to congratulate them and to present them with their certificate.
After presenting the award, Robin commented:
"Very well done to the Irish Bar for this award! It's a big vote of confidence and appreciation by their customers and really captures the atmosphere they have created here. It was clear from the results of the competition how valued their support for local musicians and good causes is.
“On a personal note, I'm grateful to Jo for the help she has been to me to understand all the challenges pubs faced through the pandemic - which helped tailor the help they received. Thank you - and well done!"
Joann said:
"This means a lot as it is our customers who have voted and it is thanks to them we are here and the importance we place on supporting the local community here in Llandudno has been recognised. We're a small bar but we work hard and over more than twenty years now there is a big community of friends and customers here. Thank you to all our customers and our staff for helping us achieve this great award, we're really great full to you all.”
The Irish Bar yn Llandudno yn ennill y wobr ‘Tafarn Gymunedol Orau’ yng nghystadleuaeth Robin, Tafarn y Flwyddyn Aberconwy 2023
Mae tafarn BOBLOGAIDD yn Llandudno wedi ennill teitl y dafarn gymunedol orau yng nghystadleuaeth Robin, Tafarn y Flwyddyn Aberconwy.
Cafodd The Irish Bar ar Stryd Mostyn yn Llandudno gannoedd o bleidleisiau gan dafarn-garwyr o bob rhan o Aberconwy, a dynnodd sylw at ysbryd cymunedol y dafarn, y gefnogaeth mae'n ei rhoi i gerddorion lleol a'r digwyddiadau codi arian rheolaidd y mae'n eu cynnal ar gyfer achosion da lleol. Brynhawn Gwener, galwodd Robin i mewn i gwrdd â'r Tafarnwyr, Joann a Michael, a’u merch Grace i’w llongyfarch ac i gyflwyno'r dystysgrif iddynt.
Ar ôl cyflwyno’r wobr, dywedodd Robin:
“Llongyfarchiadau mawr i The Irish Bar am ennill y wobr hon! Mae’r bleidlais o ymddiriedaeth gan eu cwsmeriaid yn dangos eu gwerthfawrogiad, ac mae wir yn cyfleu’r awyrgylch maen nhw wedi’i greu yma. Roedd yn amlwg o ganlyniadau’r gystadleuaeth pa mor werthfawr oedd eu cefnogaeth i gerddorion lleol ac achosion da.
“Ar nodyn personol, rwy’n ddiolchgar i Jo am y cymorth a gefais ganddi i ddeall yr holl heriau a wynebwyd gan dafarndai yn ystod y pandemig – a helpodd i deilwra’r cymorth a gawsant. Diolch yn fawr – a llongyfarchiadau!”
Dywedodd Joann:
“Mae hyn yn golygu cymaint i ni gan mai ein cwsmeriaid sydd wedi pleidleisio – fydden ni ddim yma hebddyn nhw – ac mae hyn wedi cydnabod pa mor bwysig ydy cefnogi’r gymuned leol yma yn Llandudno i ni. Bar bach ydyn ni, ond rydyn ni’n gweithio’n galed ers dros ugain mlynedd bellach ac mae gennym ni gymuned fawr o ffrindiau a chwsmeriaid yma. Diolch i’n holl gwsmeriaid a’n staff am ein helpu ni i ennill y wobr wych hon. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i chi i gyd.”