Millions of UK households will receive £301 directly from the Department for Work and Pensions between 25 April and 17 May.
This is the first of three payments totalling up to £900 for those eligible and on means-tested benefits, such as Universal Credit or Pension Credit, in 2023/24. This follows the £650 Cost of Living Payment made to over eight million people in 2022.
There will also be further payments worth £150 for eligible disabled people and £300 for pensioners due later this year, meaning the most vulnerable can receive up to £1,350 in direct payments. The £301 payment will be sent out automatically and directly to recipients, meaning those eligible do not need to apply or do anything to receive it. The payment reference for bank accounts will be DWP COLP, along with the claimant’s National Insurance number.
Commenting on this cost-of-living payment Aberconwy MP Robin Millar said:
“I know how concerned so many Aberconwy residents are about rising costs and, in particular, soaring energy prices. Before Christmas I held three “Worried about Winter” advice events throughout Aberconwy to help people access additional help and support with their households bills.
“I’ve taken their concerns to Ministers at every opportunity and I welcome these payments that will give a financial boost to more than eight million households throughout the UK, including thousands here in Aberconwy, as the UK Government continues to support the most vulnerable.”
Jeremy Hunt, Chancellor of the Exchequer, added:
“I know that times are tough, which is why a key focus of the Spring Budget was supporting people with the cost of living and helping people into well-paid work.
“Not only are we providing £900 in direct cash payments to millions of the most vulnerable households, we’ve also extended the Energy Price Guarantee to hold bills down until energy prices fall, raised the National Living Wage to £10.42, put an end to the prepayment meter premium and delivered a plan that will more than halve inflation this year – ensuring everyone’s incomes go further.”
The full list of benefit recipients that qualify for the upcoming Cost of Living payment are those who receive:
- Universal Credit
- Income-based Jobseekers Allowance
- Income-related Employment and Support Allowance
- Income Support
- Working Tax Credit
- Child Tax Credit
- Pension Credit
The qualifying period for this payment is between 26 January and 25 February 2023.
To be eligible for the Cost of Living Payment, you need to have been entitled to a payment for one of these benefits between 26 January and 25 February 2023, or payment for an assessment period ending between these dates.
DWP is also encouraging low-income pensioners not already getting Pension Credit to check their eligibility, as they can still qualify for the £301 Cost of Living Payment if they make a successful backdated Pension Credit application by 19 May.
Low-income households are also encouraged to contact their local council to see what support is available for essential food and energy costs through the Household Support Fund. Worth over £2 billion across its lifetime, the DWP fund is delivered through councils who are best placed to identify local need.
Those who are eligible for the £301 Cost of Living Payment solely through tax credits, and are not eligible through DWP means-tested benefits, will be paid by HMRC shortly after DWP payments begin. HMRC will publish specific details of when payments will be made to these customers along with the bank account payment reference.
Eligible customers will not need to apply or contact the Government at any stage to receive the £301 Cost of Living Payment.
Aelwydydd ar draws Aberconwy i dderbyn taliad costau byw cyntaf 2023
Bydd miliynau o aelwydydd y DU yn derbyn £301 yn uniongyrchol wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng 25 Ebrill a 17 Mai.
Dyma'r cyntaf o dri thaliad sy'n gyfanswm o hyd at £900 ar gyfer y rhai sy’n gymwys ac ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, fel Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn yn 2023/24. Daw hyn yn dilyn Taliad Costau Byw o £650 a wnaed i dros wyth miliwn o bobl yn 2022.
Bydd taliadau pellach gwerth £150 ar gyfer pobl anabl sy’n gymwys a £300 i bensiynwyr nes ymlaen eleni, sy'n golygu y gall y rhai mwyaf agored i niwed dderbyn hyd at £1,350 mewn taliadau uniongyrchol. Bydd y taliad o £301 yn cael ei anfon yn awtomatig ac yn uniongyrchol at dderbynwyr, sy'n golygu nad oes angen i'r rhai sy'n gymwys wneud cais na gwneud unrhyw beth i’w dderbyn. Y cyfeirnod talu ar gyfer cyfrifon banc fydd DWP COLP ynghyd â rhif Yswiriant Gwladol y sawl sy’n hawlio.
Wrth wneud sylw am y taliad costau byw, dywedodd AS Aberconwy Robin Millar:
“Rwy’n gwybod pa mor bryderus y mae nifer o drigolion Aberconwy am y costau cynyddol, yn arbennig, prisiau ynni’n codi. Cyn y Nadolig, fe wnes i gynnal tri digwyddiad “Poeni am y Gaeaf” ar draws Aberconwy i helpu pobl gael mynediad a chymorth ychwanegol gyda’u biliau yn y cartref.
“Rydw i wedi sôn am eu pryderon wrth Weinidogion bob cyfle posib, ac rwy’n croesawu’r taliadau hyn a fydd yn rhoi hwb ariannol i dros wyth miliwn o aelwydydd ledled y DU, gan gynnwys miloedd yma yn Aberconwy, wrth i Lywodraeth y DU barhau i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed.”
Dywedodd Jeremy Hunt, Canghellor y Trysorlys:
“Rwy’n gwybod bod hi’n gyfnod anodd, a dyna pam roedd Cyllideb y Gwanwyn yn rhoi pwyslais allweddol ar gefnogi pobl gyda chostau byw a helpu pobl i gael gwaith sy'n talu'n dda.
“Nid yn unig ein bod yn darparu £900 mewn taliadau arian parod yn uniongyrchol i filiynau o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed, rydym hefyd wedi ehangu’r Warant Pris Ynni i gadw biliau’n is wrth i brisiau ynni godi, wedi codi’r Cyflog Byw Cenedlaethol i £10.42, wedi rhoi’r gorau i bremiwm y mesuryddion rhagdalu a chyflwyno cynllun a fydd yn fwy na haneru chwyddiant eleni – gan sicrhau bod incwm pawb yn mynd ymhellach.”
Y rhestr lawn o’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau a fydd yn gymwys am y Taliad Costau Byw yw:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Credyd Pensiwn
Y cyfnod cymhwyso ar gyfer y taliad hwn yw rhwng 26 Ionawr a 25 Chwefror 2023.
I fod yn gymwys am y Taliad Costau Byw, mae angen i chi fod wedi bod â hawl i daliad ar gyfer un o'r budd-daliadau hyn rhwng 26 Ionawr a 25 Chwefror 2023 neu daliad am gyfnod asesu sy'n dod i ben rhwng y dyddiadau hyn.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn annog pensiynwyr incwm isel sydd ddim yn derbyn Credyd Pensiwn eisoes i wirio os ydyn nhw’n gymwys, oherwydd gallant barhau i fod yn gymwys am y Taliad Costau Byw o £301 os ydynt yn gwneud cais llwyddiannus am Gredyd Pensiwn wedi'i ôl-ddyddio erbyn 19 Mai.
Mae aelwydydd incwm isel hefyd yn cael eu hannog i gysylltu â’u cyngor lleol i weld pa gymorth sydd ar gael am gostau bwyd ac ynni hanfodol drwy’r Gronfa Gymorth i Aelwydydd. Werth dros £2 biliwn ar draws ei oes, mae cronfa’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei chyflwyno drwy gynghorau, sydd yn y sefyllfa orau i nodi angen lleol.
Bydd y rheini sy’n gymwys am y Taliad Costau Byw o £301 drwy gredydau treth yn unig ac nad ydynt yn gymwys drwy fudd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n dibynnu ar brawf modd, yn cael eu talu gan CThEF yn fuan ar ôl i daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau ddechrau. Bydd CThEF yn cyhoeddi manylion penodol ynghylch pryd y bydd taliadau’n cael eu gwneud i’r cwsmeriaid hyn ynghyd â chyfeirnod taliad y cyfrif banc.
Ni fydd angen i gwsmeriaid cymwys wneud cais na chysylltu â'r Llywodraeth ar unrhyw adeg i dderbyn y Taliad Costau Byw o £301.