Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About Robin Millar
  • News
  • Lobbying & Campaigns
  • In Parliament
  • Contact
Site logo

Gyflwyno Brechlyn COVID-19

  • Tweet
Wednesday, 13 January, 2021
Vaccine Graphic

Y newyddion diweddaraf am y brechlyn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Betsi Cadwaladr:

Dylai pob aelwyd yng Ngogledd Cymru gael llythyr yn esbonio’r rhaglen frechu leol yn fuan.  Does dim angen i chi gysylltu â’ch meddyg teulu na’ch bwrdd iechyd lleol am eich brechiad. Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy’r post pan ddaw eich cyfle i gael eich brechu.

Mae 9,654 o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf wedi cael eu dos gyntaf yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan ddod â chyfanswm y trigolion sydd wedi’u brechu i 15,852.

• Mae tair Canolfan Frechu Dorfol ar waith nawr ym Mangor, Llandudno a Glannau Dyfrdwy, yn ogystal â thair Canolfan Frechu mewn Ysbytai – Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Yr wythnos hon, mae BIP Betsi Cadwaladr wedi cael 8,576 dos o’r brechlyn Pfizer BioNTech a 6,300 dos o’r brechlyn Oxford AstraZeneca.  Bydd y cyflenwad yn parhau i gynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Mae’r grwpiau canlynol yn cael eu blaenoriaethu ar hyn o bryd:

• Preswylwyr a staff cartrefi gofal

• Pobl dros 80 oed, gan gynnwys cleifion preswyl mewn ysbytai

• Staff risg uchel sydd ar y rheng flaen ym maes gofal iechyd

• Staff gofal sylfaenol

• Staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

• Staff gofal cymdeithasol

Mae’r brechlyn yn cael ei roi i bobl drwy'r Canolfannau Brechu Torfol a’r Canolfannau Brechu mewn Ysbytai yn bennaf. Bydd hyn yn cael ei ategu drwy weithio gyda thimau mewn fferyllfeydd cymunedol, sy’n gallu cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl gael y brechlyn mor agos â phosibl i’w cartrefi.

Nod BIP Betsi Cadwaladr yw brechu 90% o’r grwpiau canlynol erbyn diwedd mis Ionawr:

• Preswylwyr a staff cartrefi gofal

• Pobl 80 oed a hŷn

• Staff rheng flaen yr Uned Reoli Sylfaenol

• Staff rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol a gofal cartref

• Staff rheng flaen partneriaid gofal eraill

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen frechu, ewch i wefan Betsi Cadwaladr yn

https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/

Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  • Local News

You may also be interested in

1 in 10 Adults Vaccinated

Vaccination Update

Monday, 25 January, 2021

We hit an important milestone this week: the number of vaccinations administered to residents across north Wales by Betsi Cadwaladr (32,264) has passed the number of confirmed cases here (27,934) since the start of the pandemic.

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Westminster News

Robin Millar MP for Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Robin Millar MP
  • In Parliament
Site logoPromoted by Harry Saville on behalf of Robin Millar, both at North West Wales Conservatives both of 49 Bridge Street. Llangefni. LL77 7PN
Copyright 2021 Robin Millar MP for Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree