Last April, Barclays Bank launched its £100m COVID-19 Community Aid Package to support vulnerable people and communities across the UK and globally, who had been impacted by the pandemic. These donations enabled charity partners to provide essential local support at a time when demand for their services dramatically increased while income was under pressure.
Although economic indicators seemed to be moving in the right direction and the banks are optimistic about the future, the effects of the pandemic are still being felt in our communities.
Barclays have recognised this and will be making a further 50 donations of £100,000 each, to UK charities who continue to meet the immediate needs of our communities affected by COVID-19. Charities in your constituency will be able to apply online through our 100x100 Programme page from 9am (UK time) on Monday 12 July, 2021, to 6pm (UK time) on Friday 6 August, 2021, with funding being made available in the Autumn.
So do you work for/volunteer with/know of a charity in Aberconwy that could benefit from this? Share this article with them.
If you would like to get an idea of what Barclays Community Aid Package has supported there is a link here to a report highlighting their work.
'Barclays £100m Community Aid Package: The story so far'
Cyllid ar gael i elusennau lleol
Fis Ebrill diwethaf, lansiodd Banc Barclays ei Becyn Cymorth Cymunedol COVID-19 gwerth £100m i gefnogi pobl a chymunedau agored i niwed yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig ledled y DU ac yn fyd-eang. Roedd y rhoddion hyn yn galluogi partneriaid elusennol i ddarparu cymorth hanfodol yn lleol ar adeg pan oedd pwysau mawr ar eu hincwm a bod y galw am eu gwasanaethau wedi cynyddu’n ddramatig.
Er bod y dangosyddion economaidd yn symud i’r cyfeiriad cywir a bod y banciau’n obeithiol am y dyfodol, mae effeithiau’r pandemig yn dal i gael eu teimlo yn ein cymunedau.
Mae Barclays wedi cydnabod hyn a bydd yn gwneud 50 rhodd arall o £100,000 yr un i elusennau yn y DU sy’n parhau i ddiwallu anghenion uniongyrchol ein cymunedau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Bydd elusennau yn eich etholaeth yn gallu gwneud cais ar-lein ar ein tudalen Rhaglen 100x100 rhwng 9am (amser y DU) ddydd Llun 12 Gorffennaf 2021 a 6pm (amser y DU) ddydd Gwener 6 Awst 2021. Caiff y cyllid ei ryddhau yn yr hydref.
Felly, ydych chi’n ymwybodol o elusen neu’n gweithio/gwirfoddoli gydag elusen yn Aberconwy a allai elwa o hyn? Rhannwch yr erthygl hon gyda nhw.
Os hoffech chi gael syniad o’r hyn y mae Pecyn Cymorth Cymunedol Barclays wedi’i gefnogi eisoes, mae dolen yma at adroddiad sy’n tynnu sylw at eu gwaith.
'Pecyn Cymorth Cymunedol £100m Barclays: Y stori hyd yma'