Robin Millar, Member of Parliament for Aberconwy, has welcomed today’s announcement that grants totalling £2,295,400 have been awarded by the UK Government to projects across Conwy County.
On today’s announcement, Robin said:
“I warmly welcome today’s announcement that the UK Government has awarded Community Renewal Fund grants totalling £2,295,400 to local projects across Conwy. Awards include £51,000 for Llandudno Bay Promenade enhancements and £75,480 for digital support platforms for businesses and communities in Conwy.
“These Community Renewal Fund grants are just the beginning of a new relationship between the UK Government and Conwy County Borough Council to help take Aberconwy forward. This is a clear demonstration that the UK remains involved in devolved areas.
“I'm excited to already be working directly with the Council, community groups and charities on this. It is important that further additional funding from the UK Government goes directly to the organisations that understand the communities they serve best.
“I'd like to thank all those who worked so hard to pull bids together. Not all succeeded but there will be other opportunities. Be in no doubt that your efforts are making a difference here in Aberconwy.”
The UK Community Renewal Fund is part of the Government’s approach to levelling up, helping to ensure that no place is left behind. It sits alongside the Levelling Up Fund and Community Ownership Fund which were announced by the Chancellor at Budget on the 27 October. While the Levelling Up Fund focuses on infrastructure programmes and the Community Ownership Fund on enabling communities to own and manage local community assets, the UK Community Renewal Fund supports local areas to pilot imaginative new approaches and programmes that unleash their potential, instil pride, and prepare them to take full advantage of the forthcoming UK Shared Prosperity Fund. These funds combine to ensure that towns, villages and coastal communities across the United Kingdom are supported to deliver our levelling up ambitions.
The UK Community Renewal Fund supports communities right across the UK to pilot new approaches by investing in skills, supporting local businesses and communities, and supporting people into employment. The Fund is delivering investment in 477 projects across England, Northern Ireland, Scotland and Wales.
Mae Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy, wedi croesawu cyhoeddiad heddiw bod Llywodraeth y DU wedi dyfarnu grantiau gwerth £2,295,400 i brosiectau ar hyd a lled Sir Conwy.
Wrth groesawu cyhoeddiad heddiw, dywedodd Robin:
“Rydw i'n croesawu’n fawr y cyhoeddiad heddiw bod Llywodraeth y DU wedi dyfarnu gwerth £2,295,400 o grantiau’r Gronfa Adfywio Cymunedol i brosiectau lleol ar draws Conwy. Mae’r grantiau'n cynnwys £51,000 ar gyfer gwelliannau i Bromenâd Bae Llandudno, a £75,480 ar gyfer llwyfannau cymorth digidol i fusnesau a chymunedau yng Nghonwy.
“Mae’r grantiau hyn gan y Gronfa Adfywio Cymunedol yn ddechrau ar berthynas newydd rhwng Llywodraeth y DU a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i helpu i ddatblygu Aberconwy. Mae hyn yn dangos yn glir bod y DU yn dal yn gysylltiedig â meysydd sydd wedi cael eu datganoli.
“Rydw i'n teimlo’n gyffrous am weithio’n uniongyrchol gyda’r Cyngor, grwpiau cymunedol ac elusennau ar hyn. Mae’n bwysig bod rhagor o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn mynd yn uniongyrchol i’r sefydliadau sy’n deall orau y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor galed i baratoi'r ceisiadau. Nid oedd pawb wedi llwyddo, ond bydd cyfleoedd eraill. Yn sicr, mae’ch ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth yma yn Aberconwy.”
Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhan o waith y Llywodraeth i godi’r gwastad, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw le’n cael ei adael ar ôl. Mae’n cyd-fynd â’r Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn y Gyllideb ar 27 Hydref. Er bod y Gronfa Codi’r Gwastad yn canolbwyntio ar raglenni seilwaith, a’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar alluogi cymunedau i fod yn berchen ar asedau cymunedol lleol a’u rheoli, mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn helpu ardaloedd lleol i dreialu dulliau a rhaglenni newydd creadigol sy’n datgloi eu potensial, yn ennyn balchder, ac yn eu paratoi i fanteisio i’r eithaf ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd ar y gweill. Gyda’i gilydd mae’r cronfeydd hyn yn sicrhau bod trefi, pentrefi a chymunedau arfordirol ledled y Deyrnas Unedig yn cael cefnogaeth i gyflawni ein huchelgais i godi'r gwastad.
Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn helpu cymunedau ym mhob cwr o’r DU i dreialu dulliau newydd drwy fuddsoddi mewn sgiliau, cefnogi busnesau a chymunedau lleol, a helpu pobl i gael gwaith. Mae’r Gronfa’n darparu buddsoddiad mewn 477 o brosiectau ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.