A POPULAR Conwy pub has been crowned the best family pub in Robin's Aberconwy Pub of the Year competition.
The Mulberry, at Conwy Marina, Ellis Way received hundreds of votes from pub lovers from throughout Aberconwy. The pub also finished third in the all-round category, behind winners The Albion Ale House in Conwy and Y Clwb in Glan Conwy (second). Following the close of voting and the announcement of the winners, Robin met with Jason Taylor, licensee of The Mulberry, to congratulate him and to present him with a certificate.
Robin said:
“Pubs are at the heart of our communities - more than 800 people voted for 48 different pubs in the Aberconwy Best Pub competition.
“I’d like to congratulate Jason and the entire team at the Mulberry on winning the Best Family Pub category.
“Clearly, the good beer, good food and spectacular views of the Conwy Estuary and Eryri – and not forgetting its pirate ship play area for children - have made The Mulberry popular with families. It was a pleasure to meet with Jason and William Robinson, the Chief Executive of Robinson’s Brewery to present the prize. "Robinson's is a significant employer across North Wales and William and I spent some time discussing the hospitality sector."
Continuing, he said:
“I’m visiting pubs throughout Aberconwy during the summer to speak with licensees. In May I hosted a roundtable discussion with local pub owners and managers to hear about the challenges pubs are facing. I will continue to do all that I can to support our local pubs, brewers and hospitality trade through the months ahead.”
Busnes yng Nghonwy yn ennill ‘Y Dafarn Deulu Orau’ yng nghystadleuaeth Tafarn y Flwyddyn Aberconwy 2023 Robin
Mae tafarn BOBLOGAIDD yng Nghonwy wedi ennill y teitl y dafarn deulu orau yng nghystadleuaeth Tafarn y Flwyddyn Aberconwy Robin.
Derbyniodd The Mulberry, ym Marina Conwy, Ellis Way gannoedd o bleidleisiau gan bobl sy’n mwynhau ymweld â thafarndai ar hyd a lled Aberconwy. Daeth y dafarn yn drydydd hefyd yn y categori cyffredinol, y tu ôl i’r enillwyr The Albion Ale House yng Nghonwy <https://www.northwalespioneer.co.uk/news/23590543.conwy-establishment-t…; a'r Clwb yng Nglan Conwy (ail). Ar ôl i’r bleidlais gau a chyhoeddi enwau’r enillwyr, aeth Robin i weld Jason Taylor, trwyddedai The Mulberry, i’w longyfarch a chyflwyno tystysgrif iddo.
Dywedodd Robin:
“Mae tafarndai yn ganolbwynt yn ein cymunedau – pleidleisiodd 800 a mwy o bobl am 48 o wahanol dafarndai yng nghystadleuaeth Tafarn Orau Aberconwy.
“Hoffwn longyfarch Jason a’r tîm cyfan yn The Mulberry am ennill categori'r Dafarn Deulu Orau.
“Yn amlwg, mae cwrw da, bwyd da a’r golygfeydd aruthrol o Aber Afon Conwy ac Eryri –heb anghofio’r ardal chwarae llong morladron i’r plant – yn gwneud The Mulberry yn boblogaidd gyda theuluoedd. Roedd yn bleser cwrdd â Jason a William Robinson, Prif Weithredwr Bragdy Robinson’s i gyflwyno’r wobr iddo. “Mae Robinson’s yn gyflogwr blaenllaw ar draws Gogledd Cymru a bu William a minnau’n trafod y sector lletygarwch."
Parhaodd drwy ddweud:
“Rwy’n ymweld â thafarndai ar draws Aberconwy yn ystod yr haf i siarad gyda’r trwyddedwyr. Ym mis Mai cynhaliais drafodaeth bord gron gyda pherchnogion a rheolwyr tafarndai lleol i glywed am yr heriau sy’n wynebu tafarndai. Byddaf yn parhau i wneud popeth y gallaf i gefnogi ein tafarndai, bragwyr a busnesau lletygarwch lleol yn ystod y misoedd nesaf.”