Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About Robin Millar
  • News
  • Lobbying & Campaigns
  • In Parliament
  • Contact
Site logo

Arolwg gofal gan berthynas

  • Tweet
Monday, 18 January, 2021

Arolwg gofal gan berthynas

Ydych chi’n ofalwr sy’n berthynas, yn magu plant perthynas neu ffrind? Hoffai @KinshipCarePT a @FamilyRightsGp glywed sut rydych chi’n ymdopi yn ystod y cyfnod clo diweddaraf hwn yn sgil #Covid19. Llenwch yr arolwg hwn: https://www.surveymonkey.co.uk/r/5YN3FZX

Mae gofalwyr sy’n berthnasau yn berthnasau neu’n ffrindiau teuluol sy’n camu i mewn i fagu plant sy’n methu byw’n ddiogel gyda’u rhieni. Mae llawer ohonynt yn deidiau a neiniau ond gallant hefyd fod yn fodrybedd, ewythrod, brodyr a chwiorydd. 

Mae dros 180,000 o blant ledled y DU yn cael eu magu gan ofalwyr sy’n berthnasau. Gwyddom fod aelwydydd o’r fath yn arbennig o agored i niwed yn ystod y pandemig, gyda llawer o ofalwyr yn hŷn, ag anawsterau iechyd hirdymor, ac yn byw mewn tlodi.

Mae mwy o lawer o blant yn cael eu magu gan ofalwyr sy’n berthnasau nag sydd yn y system ofal a mwy o lawer na’r rhai sy’n cael eu mabwysiadu. Er hyn, o gymharu â mabwysiadwyr a gofalwyr maeth nad ydynt yn perthyn, nid yw gofalwyr sy’n berthnasau yn aml yn cael llawer o gefnogaeth a chydnabyddiaeth.

Mae’r Tasglu Seneddol trawsbleidiol ar Ofal gan Berthynas, gyda chefnogaeth ein hysgrifenyddiaeth, y Grŵp Hawliau Teuluoedd, yn cynnal arolwg i glywed gan ofalwyr sy’n berthnasau am eu profiad yn ystod y cyfnod clo diweddaraf.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith ein Tasglu trawsbleidiol yma: https://www.frg.org.uk/involving-families/family-and-friends-carers/cro…

  • Local News

You may also be interested in

Hospitality Roundtable

Tuesday, 23 February, 2021

I would like to invite you to take part in an event I am co-hosting with Be the Business CEO Anthony Impey, on how businesses can prepare for the future in the face of the pandemic. The virtual roundtable will be held on Tuesday 2 March at 14:00.

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Westminster News

Robin Millar MP for Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Robin Millar MP
  • In Parliament
Site logoPromoted by Harry Saville on behalf of Robin Millar, both at North West Wales Conservatives both of 49 Bridge Street. Llangefni. LL77 7PN
Copyright 2021 Robin Millar MP for Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree