Speaking during a debate on the UK Government’s Extended Producer Responsibility regulations for packaging, Aberconwy MP Robin Millar highlighted Llanfairfechan Community Councillor Laura Fielding’s Plastic Free Llanfairfechan scheme.
Speaking during the debate, Robin said:
“My constituent, Laura Fielding, is a Community Councillor in Llanfairfechan, and is behind the excellent Plastic Free Llanfairfechan scheme. She highlighted my duty, as a consumer, in respect of wrapping and packaging, after the point of consumption.
He continued, asking “surely the same applies to manufacturers and producers? Their responsibility for packaging lies beyond the point of sale, and even beyond the point of use, and extends to its disposal.”
Commenting after the debate, Robin said:
“When I met Laura at the Llanfairfechan Eco Fair in October we discussed her leadership in securing the “Plastic Free Llanfairfechan” status.
“We also discussed single use plastics, reducing usage and exploring alternatives - such as seaweed-based packaging being developed in conjunction with Bangor University at M-SPARC.
"She charged me with influencing waste reduction and recycling schemes across the UK.
“As the MP I am always delighted to highlight in Parliament initiatives like Laura's - the lessons we learn can really help influence emerging UK Government policy and regulation.
"As reducing pollution is important to so many across Aberconwy I'm paying close attention to Extended Producer Responsibility and Deposit Return Scheme regulations. In the next couple of weeks I'm bringing together industry leaders from throughout the United Kingdom to identify effective ways of implementing these regulations across the UK.
“I look forward to reporting back progress through those meetings in the coming weeks.”
AS Aberconwy yn trafod cynllun Llanfairfechan Di-blastig mewn dadl yn y Senedd
Wrth siarad mewn dadl ar reoliadau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig Llywodraeth y DU ar gyfer pecynnu nwyddau, amlygodd AS Aberconwy, Robin Millar, gynllun Llanfairfechan Di-blastig Laura Fielding, Cynghorydd Cymuned Llanfairfechan.
Yn ystod y ddadl, dywedodd Robin:
“Mae fy etholwr, Laura Fielding, yn Gynghorydd Cymuned yn Llanfairfechan, ac mae wedi dyfeisio cynllun ardderchog o’r enw Llanfairfechan Di-blastig. Amlygodd fy nyletswydd i, fel cwsmer, o ran lapio a phecynnu, ar ôl bwyta neu yfed.
Aeth ymlaen drwy ofyn “oni fyddai’r un peth yn wir ar gyfer gwneuthurwyr a chynhyrchwyr? Maen nhw’n gyfrifol am becynnu y tu hwynt i’r pwynt gwerthu, a hyd yn oed tu hwnt i’r pwynt defnydd - maen nhw’n gyfrifol hyd at waredu.”
Ar ôl y ddadl, dywedodd Robin:
“Pan gwrddais â Laura yn Ffair Eco Llanfairfechan ym mis Hydref, gwnaethom drafod ei harweinyddiaeth o ran sicrhau statws “Llanfairfechan Di-blastig”.
“Gwnaethom hefyd drafod plastigau untro, lleihau defnydd ac ymchwilio i opsiynau amgen - megis pecynnau gwymon sy’n cael eu datblygu ar y cyd â Phrifysgol Bangor yn M-SPARC.
"Gofynnodd i mi ddylanwadu ar leihau gwastraff a chynlluniau ailgylchu ledled y DU.
“Fel yr AS, rwyf bob amser yn falch iawn o amlygu mentrau fel un Laura yn y Senedd - gall y gwersi a ddysgwn helpu go iawn i ddylanwadu polisi a rheoliadau newydd Llywodraeth y DU.
"Gan bod lleihau llygredd yn bwysig i gymaint ledled Aberconwy, rwy’n talu sylw manwl i’r rheoliadau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig a Cynllun Dychwelyd Adneuon. Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn dwyn ynghyd arweinwyr y diwydiant o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, er mwyn nodi ffyrdd effeithiol o weithredu’r rheoliadau hyn ledled y DU.
“Edrychaf ymlaen at roi adborth ar gynnydd yn y cyfarfodydd hynny dros yr wythnosau nesaf.”