Mae cyhoeddi trwyddedau gwaith di-fisa ar gyfer artistiaid a cherddorion yn dilyn diwedd y cyfnod pontio wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl i sylw gael ei dynnu ato gan lawer o enwau adnabyddus sy’n teithio Ewrop am gyfnodau estynedig.
Mae Aberconwy hefyd yn gartref i nifer fawr o bobl hunangyflogedig, ac mae llawer ohonyn nhw yn berfformwyr a diddanwyr a fydd yn cael eu heffeithio gan y newid hwn.
Rydw i’n gwbl gefnogol o’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal, rydw i wrth fy modd fod y Llywodraeth yn cydnabod gwerth y diwydiant ac yn cefnogi trefniadau uchelgeisiol ar gyfer perfformwyr ac artistiaid allu gweithio a theithio drwy Ewrop.
Rwyf wedi cael fy sicrhau na wnaeth y Llywodraeth wrthod trefniant pwrpasol o’r UE i ganiatáu cerddorion weithio a pherfformio yn yr Aelod-wladwriaethau. Deallaf fod y DU wedi bwriadu cynnwys gwaith a wnaed gan gerddorion, artistiaid a diddanwyr, a’r staff sy’n mynd gyda nhw, drwy restr o weithgareddau a ganiateir ar gyfer ymwelwyr busnes tymor byr. Roedd y cynigion hyn yn adlewyrchu gofynion y diwydiant cerddoriaeth ei hun, wedi’u datblygu mewn ymgynghoriad â chyrff fel Undeb y Cerddorion. Byddai hyn wedi galluogi cerddorion a staff cymorth deithio a pherfformio yn y DU a’r UE yn haws, heb yr angen am drwyddedau gwaith. Yn anffodus, mae’r UE wedi gwrthod y cynigion hyn dro ar ôl tro ac wedi gwneud rhai llai uchelgeisiol na fyddai wedi galluogi teithio na chynnwys staff cymorth.
Ar ddydd Mawrth, cefais gyfle yn ystod cwestiynau’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) i ofyn i’r Gweinidog, ar ran preswylwyr Aberconwy, pa sicrwyddau a ellir eu rhoi i etholwyr y bydd trefniadau ymarferol fel fisâu, trwyddedau a masnach arforol yn haws ac yn symlach iddyn nhw ymdrin â nhw yn y dyfodol?
Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn parhau i siarad â chydweithwyr drwy holl wledydd yr UE er mwyn gweld pa fesurau a ellir eu sefydlu i hwyluso trefniadau. Mae gan rai ohonyn nhw drefniadau syml iawn ar hyn o bryd – nid yw rhai ohonyn nhw’n mynnu eich bod yn meddu ar drwydded waith ychwanegol, ac mae rhai yn hyblyg iawn wrth drafod eu fisâu, ac mae eraill yn llai hyblyg. Mae’r Llywodraeth angen siarad gyda nhw er mwyn sicrhau y gall y trefniadau hyn fod mor esmwyth, cyflym a hawdd i’w deall ag sy’n bosibl, sy’n allweddol er mwyn inni gael symud ymlaen.
Gallwch chi weld fy nghyfraniad drwy glicio ar y ddolen isod
https://parliamentlive.tv/event/index/25c66f34-1e7a-4045-bd91-7e50083d25e9?in=13:40:48&out=13:42:45