Transport Secretary, Grant Shapps MP has this week set out proposals to tackle pavement parking in England.
The Transport Select Committee published its report on pavement parking in England, calling on the UK Government to introduce a ban and provide stronger, clearer laws.
A 12-week consultation to begin this summer will consider how a nationwide ban on pavement parking enforced by local authorities might work, allowing for any necessary exceptions for pavement parking where needed, and how a tailored approach may be required in rural and suburban areas.
Living Streets, who are a UK charity with a long history of campaigning for everyday walking were among the key contributors to the select committee hearings and are calling for a nationwide ban.
As you may be aware transport and highways in Wales are devolved to the Welsh Government and Deputy Minister for Transport Lee Waters AM has indicated he is supporting a campaign to tackle pavement parking in Wales.
The campaign group Living Streets Cymru is also calling for a default ban in Wales, with an exception allowing pavement parking on specially designated streets. A recent survey by the charity found that more than a quarter of people aged over 65 in Wales are prevented from walking on their local streets because of blocked pavements.
In July last year, the Welsh Government set up a task force to explore ways to stop pavement parking in Wales. It is already illegal in London, and the Scottish Parliament passed legislation in September 2019 to ban it later.
An e-petition was presented at the Senedd on 4th February and our AM, Janet Finch-Saunders met with campaigners to receive the petition.
I look forward to Wales following the Scottish Assembly in implementing a ban.
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps AS, wedi cyflwyno cynigion yr wythnos hon i fynd i’r afael â pharcio ar balmentydd yn Lloegr.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Drafnidiaeth ei adroddiad ar barcio ar balmentydd yn Lloegr, gan alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno gwaharddiad a darparu deddfau cryfach a chliriach.
Bydd ymgynghoriad 12 wythnos a fydd yn cychwyn yr haf hwn yn ystyried sut y byddai gwaharddiad cenedlaethol ar barcio ar balmentydd, yn cael ei orfodi gan awdurdodau lleol, yn gweithio. Byddai’n caniatáu ar gyfer eithriadau angenrheidiol i barcio ar balmentydd lle mae angen, ac yn ystyried yr angen posib i deilwrio’r drefn yn bwrpasol mewn ardaloedd gwledig a maestrefol.
Roedd Living Streets, elusen i’r Deyrnas Unedig gyfan sydd â hanes hir o ymgyrchu o blaid cerdded bob dydd, ymysg y cyfranwyr allweddol i wrandawiadau’r pwyllgor dethol ac mae’n galw am waharddiad ledled y wlad. Fel y gwyddoch, efallai, mae trafnidiaeth a phriffyrdd yng Nghymru wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru ac mae’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Lee Waters AC, wedi dweud ei fod yn cefnogi ymgyrch i fynd i’r afael â pharcio ar balmentydd yng Nghymru.
Mae’r grŵp ymgyrchu, Living Streets Cymru, hefyd yn galw am waharddiad fel mater o drefn yng Nghymru, gydag eithriad i ganiatáu parcio ar balmentydd ar strydoedd a ddynodir yn arbennig. Canfu arolwg diweddar gan yr elusen fod mwy na chwarter y bobl dros 65 oed yng Nghymru yn cael eu hatal rhag cerdded ar eu strydoedd lleol oherwydd fod palmentydd wedi’u blocio.
Fis Gorffennaf y llynedd, sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu i archwilio ffyrdd o atal parcio ar balmentydd yng Nghymru. Mae eisoes yn anghyfreithlon yn Llundain, a gwnaeth Llywodraeth yr Alban basio deddfwriaeth ym mis Medi 2019 i’w wahardd yn ddiweddarach.
Cyflwynwyd e-ddeiseb i’r Senedd ar 4ydd Chwefror a chyfarfu ein AC, Janet Finch-Saunders, ag ymgyrchwyr i dderbyn y ddeiseb.
Rwy’n edrych ymlaen at weld Cymru yn dilyn Cynulliad yr Alban drwy roi gwaharddiad ar waith.