I have been contacted by many constituents who are rightly concerned about the NHS and any future international trade agreements.
I value our National Health Service and its guiding principles, namely that it is universal and free at the point of need. The Government has been repeatedly clear that our NHS will never be on the table in any trade agreements, and this is a position I fully support.
Free trade is a driver of economic growth which can raise incomes, create jobs, and lift people out of poverty, which is why I am glad that outside of the EU the UK will be able to strike new trade agreements with countries across the globe. However, more trade should not come at the expense of the high levels of quality and protection we enjoy in this country.
The UK will continue to ensure that the NHS is protected in all trade agreements it is party to, whether transitioned from an EU context or as a result of new negotiations. Indeed, outside of the EU, rigorous protections for our NHS will be maintained and included in any future trade agreement to which our country is party.
I hope this reassures constituents that all future trade agreements will continue to protect our vital NHS.
Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi gyda phryderon dealladwy am y GIG ac unrhyw gytundebau masnach ryngwladol yn y dyfodol.
Rydw i’n gwerthfawrogi ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r egwyddorion sy’n sail iddo, yn bennaf ei fod ar gael i bawb yn rhad ac am ddim pan mae ei angen arnyn nhw. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir dro ar ôl tro na fydd y GIG ar werth mewn cytundebau masnach ar unrhyw gyfrif, ac rydw i’n cefnogi’r safbwynt yma’n llwyr.
Mae masnach rydd yn gyrru twf economaidd, sy’n gallu codi incwm, creu swyddi, a chodi pobl allan o dlodi. Dyma pam rydw i’n falch y bydd y DU, y tu allan i’r UE, yn gallu llunio cytundebau masnach newydd gyda gwledydd ym mhob cwr o’r byd. Fodd bynnag, ni ddylai mwy o fasnach fod ar draul y lefelau uchel o ddiogelwch ac ansawdd sydd gennym ni yn y wlad hon.
Bydd y DU yn parhau i sicrhau bod y GIG yn cael ei amddiffyn ym mhob cytundeb masnach mae’n rhan ohono, p’un ai a yw’n cael ei drosglwyddo o’r UE neu’n rhan o drafodaethau newydd. Y tu allan i’r UE, byddwn yn rhoi mesurau trwyadl ar waith i amddiffyn ein GIG mewn unrhyw gytundeb masnach mae ein gwlad yn rhan ohono.
Rydw i’n gobeithio bod hyn yn rhoi sicrwydd i etholwyr y bydd yr holl gytundebau masnach yn y dyfodol yn parhau i amddiffyn ein GIG hanfodol.