Just one person without a roof over their head is one too many, and it is vitally important that the most vulnerable people in society, including homeless people and rough sleepers, are helped to get their lives back on track. That is why I am pleased that £263 million was announced in December for 2020-21 to help local authorities in England tackle homelessness in our communities.
Between 2010 and mid-2018, there have been over 1.6 million cases of homelessness prevention and relief across England. While this is welcome progress, there is much more to be done, which is why I am glad that over £400 million in additional funding was announced this September toward tackling homelessness and rough sleeping.
I am glad that £112 million has been announced for the Rough Sleeping Initiative to provide 6,000 beds in 270 areas across England in 2020-21. A recent study showed that in 2018 alone, the Initiative helped reduce the number of rough sleepers by over a third in funded areas. The Initiative complements the £28 million Housing First pilots which are supporting the most entrenched rough sleepers off the streets by providing them with stable accommodation and intensive wrap-around support.
In Wales, homelessness and housing is a devolved matter for the Welsh Assembly Government. That said, I am aware that more than 25,000 people experience still experience homelessness across Wales, and that in the last decade the number of people sleeping rough has increased by 75 per cent. I am disappointed, therefore, that the Welsh Government’s 2020-21 draft Budget will mean that resource funding for homelessness prevention will see a 1.8 per cent real terms cut.
It is vital that everyone has a safe and supported home to call their own, enabling them to access the public services that we all rely on in a time of need. The UK government's approach to prevention of Homelessness was informed heavily by work already happening in Wales.
Mae un person heb do uwch ei ben yn ormod, ac mae’n hanfodol bwysig bod y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys pobl ddigartref a phobl sy’n cysgu allan, yn cael cymorth i gael trefn ar eu bywydau. Dyma pam rydw i’n falch bod £263 miliwn wedi cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr ar gyfer 2020-2021 er mwyn helpu awdurdodau lleol i fynd i’r afael â digartrefedd yn ein cymunedau.
Rhwng 2010 a chanol 2018, mae dros 1.6 miliwn o achosion o atal a lleddfu digartrefedd wedi bod ledled Lloegr. Er bod hwn yn gynnydd i’w groesawu, mae llawer mwy i’w wneud. Dyma pam rydw i’n falch bod dros £400 miliwn o gyllid ychwanegol wedi cael ei gyhoeddi ym mis Medi i gyfrannu at fynd i’r afael â digartrefedd a chysgu allan.
Rydw i’n falch bod £112 miliwn wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer y Fenter Cysgu Allan, er mwyn darparu 6,000 o welyau mewn 270 o ardaloedd ledled Lloegr yn 2020-21. Fe ddangosodd astudiaeth ddiweddar fod y Fenter, yn 2018 yn unig, wedi helpu i sicrhau bod nifer y bobl oedd yn cysgu allan wedi lleihau dros un rhan o dair yn yr ardaloedd oedd yn cael cyllid. Mae’r Fenter yn cyd-fynd â chynlluniau peilot gwerth £28 miliwn Tai yn Gyntaf, sy’n helpu pobl sydd wedi bod yn cysgu allan ers cryn amser i ddod oddi ar y stryd, drwy ddarparu llety sefydlog a chymorth cofleidiol dwys iddyn nhw.
Yng Nghymru, mae digartrefedd a thai yn fater sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Wedi dweud hynny, rydw i’n ymwybodol bod dros 25,000 o bobl yn dal yn ddigartref ledled Cymru, a bod nifer y bobl sy’n cysgu allan wedi cynyddu 75 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Felly, rydw i’n siomedig y bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn golygu bod cyllid adnoddau ar gyfer atal digartrefedd yn cael ei leihau 1.8 y cant mewn termau real.
Mae’n hollbwysig bod gan bawb gartref diogel a chefnogol, sy’n eu galluogi nhw i gael gafael ar y gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw pan mae eu hangen arnom. Mae fy nghydweithwyr Ceidwadol yng Nghynulliad Cymru wedi bod yn galw am ddiwygio’r system gyfan o'r gwaelod i fyny ers amser maith, a byddwn innau hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau tebyg i’r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Lloegr.