Improving education systems in developing countries is crucial to supporting young people to get good jobs and which will help them to lift themselves and their countries out of poverty, thereby building a more prosperous and more stable future for us all.
The UK is a world leader when it comes to improving global education. We are the biggest bilateral donor to the Global Partnership for Education (GPE), the largest fund in the world dedicated to improving education in developing countries. Indeed, our contribution accounts for 20 per cent of the total amount given globally. The UK occupies a prominent position in the GPE and will this year co-host (with Kenya) the GPE Replenishment Summit 2021 in July.
Girls' education is a particular priority for the PM, and one of the seven Official Development Assistance (ODA) priorities for the UK. The FCDO will spend £400 million on girls' education in 2021, which will help achieve the global target to get 40 million more girls into education, and 20 million more reading in the next five years. These commitments were reiterated in the Queens speech.
The UK’s flagship Girls’ Education Challenge (GEC), launched 2012, is the world’s largest global programme dedicated to girls’ education. The GEC operates in the world's poorest nations and has supported millions of girls to receive a quality education. In Zambia, Zimbabwe and Tanzania, for example, the GEC has helped over 260,000 girls from poor communities to stay in secondary education.
I am pleased that the UK has pledged to put education (and removing barriers to it) on the global policy agenda this year as part of its Presidency of the G7 and I welcome the Declaration on Girls' Education made on 5th May by the Foreign and Development ministers of the G7 to this end.
Mae gwella systemau addysg mewn gwledydd sy’n datblygu yn hanfodol i gefnogi pobl ifanc i gael swyddi da er mwyn eu helpu i godi eu hunain a’u gwledydd allan o dlodi, a thrwy hynny greu dyfodol mwy llewyrchus a mwy sefydlog i bob un ohonom.
Mae’r DU yn arwain y byd o ran gwella addysg fyd-eang. Ni yw’r rhoddwr dwyochrog mwyaf i’r Bartneriaeth Fyd-eang ar gyfer Addysg (GPE), sef y gronfa fwyaf yn y byd ar gyfer gwella addysg mewn gwledydd sy’n datblygu. Yn wir, ein cyfraniad ni yw 20 y cant o’r cyfanswm a roddir yn fyd-eang. Mae’r DU mewn safle amlwg yn y GPE, ac eleni ym mis Gorffennaf bydd yn cynnal (ar y cyd â Kenya) Uwchgynhadledd Ail-lenwi’r GPE 2021.
Mae addysg merched yn flaenoriaeth benodol i’r Prif Weinidog, ac mae’n un o saith blaenoriaeth y DU ar gyfer Cymorth Datblygu Swyddogol. Bydd y Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu (FCDO) yn gwario £400 miliwn ar addysg merched yn 2021. Bydd hyn yn gymorth i gyrraedd y targed byd-eang o gael 40 miliwn yn fwy o ferched i mewn i addysg, ac i gael 20 miliwn yn fwy yn darllen yn ystod y pum mlynedd nesaf. Ailadroddwyd yr ymrwymiadau hyn yn araith y Frenhines.
Cafodd Her Addysg i Ferched (GEC) ei lansio gan y DU yn 2012, a dyma’r rhaglen fyd-eang fwyaf yn y byd sy’n canolbwyntio ar addysg i ferched. Mae’r GEC yn gweithredu yng ngwledydd tlotaf y byd, ac mae wedi cefnogi miliynau o ferched i gael addysg o safon. Yn Zambia, Zimbabwe a Tanzania, er enghraifft, mae’r GEC wedi helpu dros 260,000 o ferched o gymunedau tlawd i aros mewn addysg uwchradd.
Rwy’n falch fod y DU wedi addo rhoi addysg (a chwalu’r rhwystrau rhag hynny) ar yr agenda polisi byd-eang eleni fel rhan o’i Llywyddiaeth o’r G7, ac rwy'n croesawu’r Datganiad ar Addysg Merched a wnaed i’r perwyl hwn ar 5 Mai gan weinidogion Tramor a Datblygu’r G7.