Robin has welcomed an invitation from the UK Government to work with the Welsh Government in reducing long waiting times for NHS treatment in Wales.
Whilst the UK Government’s target of eliminating waits of two years was met in July 2022 and waits of 78 weeks have now been virtually eliminated, there are still 73,000 patients waiting over 77 weeks for treatment in Wales. Last week, the UK Government’s Secretary of State for Health, Steve Barclay MP, wrote to Welsh Government Health Ministers with several proposals to reduce the number of patients in Wales who are enduring long waiting times for NHS treatment.
Thanking Welsh Government Ministers for a constructive meeting last month, and highlighting the importance of the NHS to people throughout the UK, Steve Barclay wrote:
“Our target to virtually eliminate waits of longer than two years by July 2022 was achieved on time and waits for treatment of more than 78 weeks have now been virtually eliminated. Although data in not collected on the same basis across the UK, recent figures show more than 73,000 people are waiting over 77 weeks for treatment in Wales.
“From October, we will proactively notify patients in England who have been waiting over 40 weeks of their right to request to be treated at a different provider if clinically appropriate, again in the NHS or in the independent sector, provided they meet NHS standards.
In addition to offering setting up a Ministerial working group session to share how the UK Government is implementing this approach in England, and to share lessons from across the UK in reducing waiting lists, Mr Barclay highlighted that he would:
“…also be open to considering any requests for patients waiting for lengthy periods for treatment in Wales to be able to choose from alternative providers in England – NHS or independent sector – in line with the approach we are taking here and building on the existing arrangements for cross-border healthcare.”
Welcoming these proposals, Robin said:
“Ensuring patient safety and easier access to better healthcare services for residents in Aberconwy is a priority of mine. Even though health is a devolved service in Wales, I receive correspondence regularly from concerned patients and residents who are seeking my help - many of whom tell harrowing stories of genuine distress and long-term pain.
“Just a couple of days ago I received a letter with the latest tragic example - someone still waiting after two YEARS here to be referred for a treatable but life-threatening condition. The diagnosis had changed their life.
“In England people can choose where they receive their healthcare. I believe that is a right every UK citizen should have. We do not have that freedom here in Wales. I have pressed the UK Government on that point over many months now - even proposing amendments to the Health & Care Bill back in 2021 which would have achieved this.
“In fact, together with colleagues across North Wales I have been lobbying the UK government consistently to offer the help we need here. This news is respectful of the devolved settlement but could bring important relief to so many people here in North Wales who cannot access routine, life changing surgery and treatment.
"People's health is more important than politics or boundaries. I urge the Welsh Government to accept the UK Government's offer of support to ensure that no one has to wait anywhere near two years for treatment, suffering in pain while their lives on hold."
Robin yn croesawu cynigion Llywodraeth y DU i gefnogi lleihau amseroedd aros am driniaethau o fewn y GIG yng Nghymru
Mae Robin wedi croesawu gwahoddiad gan Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros hir am driniaethau’r GIG yng Nghymru.
Er bod targed Llywodraeth y DU o ddileu cyfnodau aros o ddwy flynedd wedi’i gyflawni ym mis Gorffennaf 2022 a chyfnodau aros o 78 wythnos wedi’u dileu bron iawn yn gyfan gwbl, mae dal 73,000 o gleifion yn aros dros 77 wythnos am driniaeth yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Iechyd, Steve Barclay AS, at Weinidogion Iechyd Llywodraeth Cymru gyda nifer o gynigion i leihau nifer y cleifion yng Nghymru sy’n gorfod goddef amseroedd aros hir am driniaethau o fewn y GIG.
Gan ddiolch i Weinidogion Llywodraeth Cymru am gyfarfod adeiladol fis diwethaf, gan amlygu pwysigrwydd y GIG i bobl ar draws y DU, ysgrifennodd Steve Barclay:
“Cafodd ein targed i gael gwared bron iawn yn gyfan gwbl ar gyfnodau aros o fwy na dwy flynedd ei gyflawni’n brydlon erbyn Gorffennaf 2022, ac mae amseroedd aros am driniaeth o fwy na 78 wythnos wedi’u dileu bron yn gyfan gwbl bellach. Er na chasglwyd data ar yr un sail ar draws y DU, mae ffigurau diweddar yn dangos bod dros 73,000 o bobl yn aros dros 77 wythnos am driniaeth yng Nghymru.
“O fis Hydref, byddwn yn rhagweithiol o ran rhoi gwybod i gleifion yn Lloegr sydd wedi bod yn aros dros 40 wythnos am eu hawl i ofyn am gael eu trin gan ddarparwr gwahanol os yw’n glinigol briodol, eto yn y GIG neu yn y sector annibynnol, ar yr amod eu bod yn bodloni safonau’r GIG.
Yn ogystal â chynnig sefydlu sesiwn gweithgor Gweinidogol i rannu sut mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’r dull hwn yn Lloegr, ac i rannu gwersi o bob rhan o'r DU wrth leihau rhestrau aros, pwysleisiodd Mr Barclay y byddai:
“…hefyd yn agored i ystyried unrhyw geisiadau gan gleifion sy’n aros am gyfnodau hir am driniaeth yng Nghymru i allu dewis o blith darparwyr amgen yn Lloegr – GIG neu’r sector annibynnol – yn unol â’r dull rydyn ni’n ei fabwysiadu fan hyn ac yn adeiladu ar y trefniadau presennol ar ofal iechyd trawsffiniol.”
Wrth groesawu’r cynigion hyn, dywedodd Robin:
“Mae sicrhau diogelwch cleifion a mynediad haws at wasanaethau gofal iechyd gwell i drigolion Aberconwy yn flaenoriaeth i fi. Er bod iechyd yn wasanaeth sydd wedi’i ddatganoli yng Nghymru, rwy’n derbyn gohebiaeth yn gyson wrth gleifion a thrigolion pryderus sy’n gofyn am fy help – y mae llawer ohonyn nhw’n sôn am straeon dirdynnol am drallod go iawn a phoen hirdymor.
“Rai dyddiau’n unig yn ôl, fe wnes i dderbyn llythyr gyda’r enghraifft drasig ddiweddaraf – rhywun a oedd yn dal i aros dwy FLYNEDD fan hyn i gael atgyfeiriad am gyflwr y gellir ei drin ond sy'n peryglu bywyd. Roedd y diagnosis wedi newid eu bywyd.
“Yn Lloegr, gall pobl ddewis ble maen nhw’n derbyn eu gofal iechyd. Rwy’n credu bod honno’n hawl y dylai pob dinesydd y DU ei chael. Nid oes gennym y rhyddid hwnnw yma yng Nghymru. Rydw i wedi pwyso ar Lywodraeth y DU ar y mater hwn dros fisoedd lawer bellach— gan gynnig gwelliannau i’r Bil Iechyd a Gofal yn 2021 hyd yn oed, a fyddai wedi cyflawni hyn.
“Mewn gwirionedd, ynghyd â chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru, rydw i wedi bod yn lobïo Llywodraeth y DU yn gyson i gynnig yr help sydd ei angen arnom yma. Y mae’r newyddion hwn yn parchu’r setliad datganoli ond gallai ddod â chymorth pwysig i gynifer o bobl yma yng Ngogledd Cymru na all gael mynediad at lawdriniaethau a thriniaethau cyffredin sy’n newid bywydau.
"Mae iechyd pobl yn bwysicach na gwleidyddiaeth neu ffiniau. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn cynnig Llywodraeth y DU am gymorth i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un aros bron i ddwy flynedd am driniaeth, gan ddioddef mewn poen tra bod eu bywydau ar stop."