Aberconwy MP Robin Millar has welcomed today’s announcement that Single Malt Welsh Whisky was successfully registered under the UK Geographical Indication (UKGI) scheme today (24th July) – protecting its name, authenticity and characteristics.
Food and Farming Secretary Therese Coffey announced the move, which gives Single Malt Welsh Whisky the same status as other Welsh fare like Gower Salt Marsh Lamb and Welsh Leeks, today at the Royal Welsh Show.
It is the first new UK spirit drink application to be registered and protected under new scheme – created after Brexit - and joins other classic British products receiving protection such as Scotch Whisky, Melton Mowbray Pork Pies and Cornish Clotted Cream.
This means consumers can be confident that the product they are buying is genuine and the efforts of producers are protected from imitation products.
Dating back to 1887, Single Malt Welsh Whisky is made using malted barley and water of 100% Welsh origin and with the new protection only whiskies made in this way can be call Single Malt Welsh Whisky. The product is registered to four distillers in Wales, who together export to over 45 countries worldwide including the USA, France, Germany and China.
Each step of the production process must take place in Wales, from brewing to bottling. The moderate and damp Welsh climate allows for an even rate of maturation, producing a smooth and refreshing flavour. Today, most Welsh distilleries still have their own well or borehole to take advantage of Wales’s fames fresh and high-quality water.
Speaking about today’s announcement, Robin said:
“Single Malt Welsh Whisky makes a significant contribution to the food and drink economy of Wales and is now one of Wales’ most influential exports, currently being exported to over 45 countries. I’m delighted that Welsh whisky has now been recognised as deserving of this special status.
“UK GI status is really important for Welsh distillers – like Penderyn Distillery in Llandudno - and helps them market this fantastic product around the world. Consumers know they are buying a unique product entirely made and bottled in Wales which helps the industry to grow, supports jobs and drives opportunity and prosperity.”
The UK Government’s Food and Farming Secretary Therese Coffey said:
“Single Malt Welsh Whisky is widely acclaimed for its lightness of character and I am pleased to announce it will be the first protected spirit under our UKGI scheme at the Royal Welsh Show.
“It shows how the UK government is ready to get behind the best of British food and drink from across the nation - to boost sales at home and abroad, create jobs and grow our economy.
“I look forward to meeting some of the distillers at the Royal Welsh Show and celebrating this unique product’s wonderful history.”
Stephen Davies, CEO of Penderyn Whisky which opened a new distillery in Llandudno in May 2021, said:
“The achievement of UKGI status for Single Malt Welsh Whisky is a significant milestone for Penderyn as a producer but also for the wider Welsh whisky industry.
It assists in safe guarding both the quality of the product and also its source of origin. It’s an exciting step forward and one that puts focus on an industry that has been growing steadily over the last 20 years.”
Robin yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ddiogelu Wisgi Cymreig
Mae AS Aberconwy Robin Millar wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw bod Wisgi Cymreig Brag Sengl wedi’i gofrestru’n llwyddiannus o dan gynllun Dynodiad Daearyddol y DU (UKGI) heddiw (24ain Gorffennaf) – sy’n diogelu ei enw, ei ddilysrwydd a’i nodweddion.
Cyhoeddwyd hyn gan yr Ysgrifennydd Bwyd a Ffermio Therese Coffey, sy’n rhoi’r un statws i Wisgi Cymreig Brag Sengl ag unrhyw fwydydd eraill o Gymru, er enghraifft Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a chennin o Gymru, heddiw yn Sioe Frenhinol Cymru.
Dyma’r cais gwirod newydd cyntaf yn y DU i gael ei gofrestru a’i warchod o dan gynllun newydd - a grëwyd ar ôl Brexit - ac mae’n ymuno â chynhyrchion clasurol eraill o Brydain sy’n cael eu hamddiffyn fel Scotch Whisky, Porc Peis Melton Mowbray a Hufen Tolch Cernyw.
Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod y cynnyrch maent yn eu prynu yn ddilys a bod ymdrechion cynhyrchwyr yn cael eu diogelu rhag cynnyrch ffug.
Yn dyddio’n ôl i 1887, mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio haidd brag a dŵr sy’n 100% o Gymru a gyda’r diogelwch newydd hwn, dim ond wisgi sy’n cael ei gynhyrchu yn y dull hwn y gellir eu galw’n Wisgi Cymreig Brag Sengl. Mae’r cynnyrch wedi’i gofrestru i bedwar distyllwr yng Nghymru sydd, gyda’i gilydd, yn allforio i fwy na 45 o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys UDA, Ffrainc, yr Almaen a Tsieina.
Mae’n rhaid i bob cam o’r broses gynhyrchu gael ei chynnal yng Nghymru, o’r bragu i’r potelu. Mae hinsawdd gymedrol a llaith Cymru yn galluogi cyfradd aeddfedu gytbwys, gan gynhyrchu blas llyfn ac adfywiol. Heddiw, mae gan y rhan fwyaf o ddistyllwyr yng Nghymru eu ffynnon neu dwll turio eu hunain er mwyn manteisio ar ddŵr ffres a safonol enwog Cymru.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd Robin:
“Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi bwyd a diod Cymru ac mae’n un o allforwyr mwyaf dylanwadol Cymru erbyn hyn, ac mae’n cael ei allforio i 45 a mwy o wledydd. Rwy’n falch iawn bod wisgi Cymreig wedi derbyn cydnabyddiaeth yn awr a’i fod yn haeddu’r statws arbennig hwn.
“Mae statws Dynodiad Daearyddol y DU yn bwysig iawn i ddistyllwyr Cymru – fel Distyllfa Penderyn yn Llandudno – ac mae’n eu helpu i farchnata’r cynnyrch gwych hwn o amgylch y byd. Mae defnyddwyr yn gwybod eu bod yn prynu cynnyrch unigryw sydd wedi’i greu a’i botelu yn gyfan gwbl yng Nghymru, sy’n helpu’r diwydiant i dyfu, mae’n cefnogi swyddi ac yn ysgogi cyfleoedd a ffyniant.”
Dywedodd Ysgrifennydd Bwyd a Diod y DU, Therese Coffey:
“Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei ganmol yn eang am ei ysgafnder ei gymeriad ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai hwn fydd yr ysbryd gwarchodedig cyntaf o dan ein cynllun Dynodiad Daearyddol y DU yn Sioe Frenhinol Cymru.
“Mae’n dangos bod llywodraeth y DU yn barod i gefnogi’r bwyd a diod gorau o bob cwr o Brydain – er mwyn hybu gwerthiannau yma a thramor, creu swyddi a datblygu ein heconomi.
“Edrychaf ymlaen at gwrdd â rhai o’r distyllwyr yn Sioe Frenhinol Cymru a chael dathlu hanes gwych y cynnyrch unigryw hwn.”
Dywedodd Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol Wisgi Penderyn a agorodd ddistyllfa newydd yn Llandudno ym mis Mai 2021:
“Mae sicrhau statws Dynodiad Daearyddol y DU ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yn garreg filltir arwyddocaol i Penderyn fel cynhyrchydd ond hefyd i'r diwydiant wisgi Cymreig ehangach.
Mae'n helpu i ddiogelu ansawdd y cynnyrch a hefyd ei darddiad. Mae’n gam cyffrous ymlaen ac yn un sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant sydd wedi bod yn tyfu’n gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf.”