
Following a nomination from Robin, two social housing pioneers have been honoured for their work in providing training and helping hundreds of tenants find jobs.
Andrew Bowden, the Group Chief Executive of housing association Cartrefi Conwy, and Katie Clubb, the Managing Director, were guests at a special reception for Local Skills Champions at 10 Downing Street, the Prime Minister’s official residence.
They were invited by Aberconwy MP Robin Millar who was impressed by Cartrefi’s record of innovation.
The reception was hosted by Secretary of State for Education Gillian Keegan MP who said she was passionate about the value of providing apprenticeships and giving people opportunities.
Earlier this year it was revealed that 30 per cent of the staff employed by Cartrefi and subsidiary Creating Enterprise are tenants – making up more than 15 per cent of the total workforce.
It’s believed the percentage of tenants they employ is “incredibly rare” and much higher than any other housing association in the UK. Roles range from painters and plumbers to community workers, administration and finance jobs.
The idea of setting up Creating Enterprise as a community interest company in 2015 came from Andrew Bowden who saw the potential of adopting a more commercial approach so that any profits can be reinvested for the benefit of tenants. It was named as the fastest growing firm in Wales at the 2020 Wales Fast Growth 50 awards, expanding by 664% between 2017 and 2019. As well as maintaining Cartrefi’s 4,000 properties, it also builds low carbon wood-framed modular homes at a factory in Rhyl.
Following the reception, Robin said:
“I was delighted to be able to invite Katie Clubb and Andrew Bowden to the reception for Skills Champions at 10 Downing Street and introduce them to the Education Secretary, Gillian Keegan.
“The ground-breaking work being done by Cartrefi Conwy and its sister organisation, Creating Enterprise, to provide training for tenants and help them find employment is truly inspirational.
“The fact that tenants make up 15 per cent of the workforce is absolutely remarkable and a business model that could and should be emulated by other social housing providers.
“Meanwhile, the Creating Futures Employment Academy and the factory making frames and other wooden products to build low carbon modular homes have created a virtuous circle that recycles commercial profit for the benefit of tenants as well as creating work and training opportunities.
“The aim of events like the one at Downing Street is to be able to recognise excellence and share best practice with like-minded people and I am glad that I have been able to play a part in spreading the message about the brilliant work being done by Cartrefi and Creating Enterprise.”
According to Cartrefi MD Katie Clubb, she was grateful to Mr Millar for organising the invitation to 10 Downing Street. She said:
“It was great to get this recognition and a fabulous opportunity to tell our story and share the impact Cartrefi Conwy has had in North Wales.
“We talked about establishing Creating Enterprise and how it reinvests commercial profits into the Employment Academy which has now successfully supported nearly 700 people into jobs in the region.
“We were also proud to share that 15% of the Cartrefi Conwy workforce are our tenants who have been supported into roles through Creating Futures.
“It was an honour to represent Cartrefi Conwy and be included amongst other champions nominated for their contribution.
“We want to thank Adrian Johnson, Sharon Jones and Sioned Williams and their teams who work tirelessly to achieve these incredible results and of course to everyone successfully completing programmes though Creating Futures.”
It was a sentiment echoed by Group Chief Executive Andrew Bowden, who added:
“We want to do more than look after our tenants and provide great accommodation which is safe and secure. We want to be properly embedded in the community and provide added value.
“This record of employing 30 of our own tenants is something that makes us stand out amongst our peers of actually being a great anchor organisation, a community-based organisation that is making a real difference.
“This is about building the confidence of our tenants who are often among those furthest from the job market, giving them the opportunity to get a great job and to work with a great organisation.
“Essentially, this is about changing people’s lives for the better and that makes me incredibly proud.”
Robin yn gwahodd arloeswyr tai cymdeithasol “ysbrydoledig” i dderbyniad yn 10 Stryd Downing
Yn dilyn enwebiad gan Robin, mae dau arloeswr tai cymdeithasol wedi’u hanrhydeddu am eu gwaith wrth ddarparu hyfforddiant a helpu cannoedd o denantiaid i ddod o hyd i waith.
Roedd Andrew Bowden, Prif Weithredwr Grŵp cymdeithas dai Cartrefi Conwy a Katie Clubb, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn westeion mewn derbyniad arbennig ar gyfer Pencampwyr Sgiliau Lleol yn 10 Stryd Downing, cartref swyddogol y Prif Weinidog.
Cawsant eu gwahodd gan AS Aberconwy Robin Millar, a oedd yn llawn edmygedd o record Cartrefi am arloesi.
Cynhaliwyd y derbyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg Gillian Keegan AS, a ddywedodd ei bod yn angerddol am werth darparu prentisiaethau a rhoi cyfleoedd i bobl.
Yn gynharach eleni, datgelwyd bod 30 y cant o’r staff a gyflogir gan Cartrefi a’r is-gwmni Creu Menter yn denantiaid - sef mwy na 15 y cant o'r holl weithlu.
Credir bod y ganran o’r tenantiaid maen nhw’n eu cyflogi yn “brin iawn” ac yn llawer uwch na chymdeithasau tai eraill yn y DU. Mae’r swyddi yn amrywio o beintwyr a phlymwyr i weithwyr cymunedol, swyddi gweinyddol a chyllid.
Andrew Bowden gafodd y syniad yn 2015 i sefydlu Creu Menter fel cwmni buddiannau cymunedol, a welodd y potensial o fabwysiadu dull mwy masnachol fel y gellir ail-fuddsoddi unrhyw elw er budd tenantiaid. Cafodd ei enwi fel y cwmni sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau Fast Growth 50 Cymru 2020, gan ehangu 664% rhwng 2017 a 2019. Yn ogystal â chynnal a chadw 4,000 o dai Cartrefi, mae hefyd yn adeiladu cartrefi modiwlaidd ffrâm bren, carbon isel, mewn ffatri yn y Rhyl.
Yn dilyn y derbyniad, dywedodd Robin:
“Roeddwn wrth fy modd yn gallu gwahodd Katie Clubb ac Andrew Bowden i’r derbyniad ar gyfer Pencampwyr Sgiliau Lleol yn 10 Stryd Downing a’u cyflwyno i’r Ysgrifennydd Addysg, Gillian Keegan.
“Mae’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan Cartrefi Conwy a'i chwaer sefydliad, Creu Menter, i ddarparu hyfforddiant i denantiaid a’u helpu i ddod o hyd i waith yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Mae’r ffaith mai tenantiaid yw 15 y cant o’r gweithlu yn gwbl anhygoel ac yn fodel busnes y dylid ei efelychu gan ddarparwyr tai cymdeithasol eraill.
“Yn y cyfamser, mae’r Academi Gyflogaeth Creu Dyfodol a’r ffatri sy’n gwneud fframiau a chynnyrch pren eraill i adeiladu cartrefi modiwlaidd carbon isel wedi creu cylch rhinweddol sy'n ailgylchu elw masnachol er budd tenantiaid yn ogystal â chreu chyfleoedd gwaith a hyfforddiant.
“Nod digwyddiadau fel hyn yn Stryd Downing yw gallu cydnabod rhagoriaeth a rhannu arferion gorau gyda phobl o’r un anian, ac rwy'n falch fy mod wedi gallu chwarae rhan wrth ledaenu'r neges am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Cartrefi a Creu Menter.”
Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Katie Clubb, roedd hi’n ddiolchgar i Mr Millar am drefnu’r gwahoddiad i 10 Stryd Downing. Dywedodd:
“Roedd hi’n wych cael y gydnabyddiaeth hon a bu’n gyfle arbennig i adrodd ein stori ac i rannu effaith Cartrefi Conwy ar Ogledd Cymru.
“Fe wnaethon ni sgwrsio am sefydlu Creu Menter a sut mae’n ail-fuddsoddi elw masnachol i’r Academi Gyflogaeth, sydd bellach wedi llwyddo i gefnogi bron i 700 o bobl i gael swyddi yn y rhanbarth.
“Roedden ni hefyd yn falch o rannu bod 15% o weithlu Cartrefi Conwy yn denantiaid sydd wedi cael eu cefnogi i’r swyddi drwy Creu Dyfodol.
“Roedd hi’n anrhydedd cael cynrychioli Cartrefi Conwy a chael ein cynnwys ymhlith pencampwyr eraill a enwebwyd am eu cyfraniad.
“Rydyn ni eisiau diolch i Adrian Johnson, Sharon Jones a Sioned Williams a’u timau sy’n gweithio’n ddiflino i gyflawni’r canlyniadau anhygoel hyn, ac wrth gwrs, i bawb sydd wedi cwblhau rhaglenni’n llwyddiannus drwy Creu Dyfodol.”
Adleisiwyd hynny gan Brif Weithredwr y Grŵp Andrew Bowden, a ychwanegodd:
“Rydyn ni eisiau gwneud mwy na gofalu am ein tenantiaid a chynnig llety gwych sy'n saff ac yn ddiogel. Rydyn ni eisiau cael ein gwreiddio'n iawn yn y gymuned a darparu gwerth ychwanegol.
“Mae’r record hwn o gyflogi 30 o’n tenantiaid ein hunain yn rhywbeth sy’n gwneud i ni sefyll allan ymhlith ein cyfoedion o fod yn sefydliad angori gwych, sefydliad cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Mae hyn yn ymwneud â meithrin hyder ein tenantiaid sy’n aml ymhlith y rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi, gan roi’r cyfle iddyn nhw gael swydd wych ac i weithio gyda sefydliad gwych.
“Yn y bôn, mae’n ymwneud â newid bywydau pobl er gwell, ac mae hynny'n fy ngwneud i'n hynod o falch.”