This week Robin welcomed the UK Government Rail Minister, Huw Merriman MP, to Llandudno to see for himself the strategic importance of the North Wales Main Line and to highlight the need for investment into improved rail connectivity.
Last year Avanti West Coast implemented an emergency timetable that cut direct services between North Wales and London. Following this decision, Robin called in Parliament for the West Coast franchise to be rebranded as the North Wales and West Coast Main Line to reflect the strategic importance of the route along the North Wales Coast. Robin has also been campaigning for the electrification of the North Wales Main Line and secured an important debate in Parliament in November calling for investment into North Wales rail infrastructure to be prioritised.
Following the Rail Minister’s visit, Robin said:
“I know how important reliable, affordable and comfortable rail services are to residents and businesses throughout Aberconwy. Hundreds of local people have taken the time to complete my Aberconwy Rail Users’ Survey on my website and I have told me that they want an end to overcrowding, more regular and reliable services and better value. I have taken this feedback directly to the Government, to Transport for Wales and to Avanti West Coast.
“For too long North Wales has been overlooked and underfunded and reversing this is central to Our Plan for Aberconwy – the things that you have told me are most important to you. At the same time as cancelling all road building projects, the Welsh Labour Government in Cardiff is investing over £700 million into the South Wales Metro while little is being done to improve our vital local services.
“I am pleased that my campaign has been noticed by the UK Government and it was a pleasure to welcome the Rail Minister to Llandudno this week. You can support my campaign for better rail services by sparing a few minutes to complete the survey on my website at robin-millar.org.uk/rail “
Huw Merriman followed by saying:
“Robin has been campaigning tirelessly to improve rail services across North Wales and I was delighted to kick off my tour of the UK’s rail network by joining Robin to visit the picturesque Great Orme, allowing me to see just how vital the north Wales railway is in transporting essential goods and supporting leisure journeys across the coast.
“I also had the chance to travel along Conwy Valley to see first-hand how Government funding has helped repair the tracks after damaging floods. It demonstrated how important our fantastic railways are in rural communities, delivering much-needed transport links for both tourists and local residents.”
Robin yn pwysleisio pwysigrwydd Prif Linell Gogledd Cymru i’r Gweinidog Rheilffyrdd
Yr wythnos hon croesawodd Robin Weinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU, Huw Merriman AS, i Landudno er mwyn iddo weld ei hun bwysigrwydd strategol Prif Linell Gogledd Cymru ac i bwysleisio’r angen am fuddsoddiad er mwyn gwella cysylltedd y rheilffyrdd.
Y llynedd, gweithredodd Avanti West Coast amserlen frys a oedd yn torri’r gwasanaethau uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Llundain. Yn dilyn y penderfyniad hwn, galwodd Robin yn y Senedd i fasnachfraint Arfordir y Gorllewin gael ei hail-frandio fel Prif Lein Gogledd Cymru ac Arfordir y Gorllewin i adlewyrchu pwysigrwydd strategol y llwybr ar hyd Arfordir Gogledd Cymru. Mae Robin hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros drydaneiddio Prif Lein Gogledd Cymru a sicrhaodd ddadl bwysig yn y Senedd ym mis Tachwedd yn galw am flaenoriaethu buddsoddiad yn seilwaith rheilffyrdd Gogledd Cymru.
Yn dilyn ymweliad y Gweinidog Rheilffyrdd, dywedodd Robin:
“Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gwasanaethau rheilffordd dibynadwy, fforddiadwy a chyfforddus i breswylwyr a busnesau ym mhob rhan o Aberconwy. Mae cannoedd o bobl leol wedi cwblhau fy Arolwg Defnyddwyr Rheilffyrdd Aberconwy ar fy ngwefan ac wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael digon o’r trenau gorlawn a’u bod eisiau gwasanaethau mwy rheolaidd a dibynadwy sy’n cynnig gwerth gwell. Rwyf wedi cyflwyno’r adborth hwn yn uniongyrchol i’r Llywodraeth, i Trafnidiaeth Cymru ac i Avanti West Coast.
“Mae ardal Gogledd Cymru wedi’i hanwybyddu a’i thanariannu ers gormod o amser ac mae gwyrdroi hyn yn ganolog yn Ein Cynllun ar gyfer Aberconwy – y pethau yr ydych chi wedi dweud wrthyf sydd fwyaf pwysig i chi. Ochr yn ochr â gohirio’r holl brosiectau adeiladu ffyrdd, mae Llywodraeth Llafur Cymru yng Nghaerdydd yn buddsoddi £700 miliwn a mwy ym Metro De Cymru er mai ychydig iawn sy’n cael ei wneud i wella ein gwasanaethau lleol hollbwysig.
“Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU wedi cymryd sylw o’m hymgyrch ac roedd yn bleser croesawu’r Gweinidog Rheilffyrdd yr wythnos hon. Gallwch gefnogi fy ymgyrch ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd gwell drwy dreulio ychydig funudau yn cwblhau’r arolwg ar fy ngwefan yn robin-millar.org.uk/rail“
Atebodd Huw Merriman drwy ddweud:
“Mae Robin wedi bod yn ymgyrchu’n ddiflino i wella’r gwasanaethau rheilffyrdd ar draws Gogledd Cymru ac roedd yn bleser gen i ddechrau fy nhaith o rwydwaith rheilffyrdd y DU drwy ymweld â Robin ar Y Gogarth, a oedd yn gyfle i mi weld pa mor allweddol yw rheilffordd Gogledd Cymru ar gyfer cludo nwyddau hanfodol a chefnogi teithiau hamdden ar hyd yr arfordir.
“Cefais gyfle hefyd i deithio ar hyd Dyffryn Conwy i weld fy hun sut mae cyllid y Llywodraeth wedi helpu i atgyweirio’r traciau yn dilyn difrod gan lifogydd. Roedd yn dangos pa mor bwysig yw ein rheilffyrdd gwych mewn cymunedau gwledig, yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol i dwristiaid a thrigolion lleol.”