Robin has welcomed more than £40,000 of UK government funds for three grass roots football clubs in Aberconwy.
Llandudno FC in the Community, Llanfairfechan FC and Llanrwst FC will all receive funds equipment and facilities improvement totalling over £43, 000.
Robin Millar said:
"I am delighted to see these clubs getting help for their teams and facilities. Football is such a passion for so many and running these clubs is hard work - usually done by volunteers, family, friends and supporters. They are at the heart of our communities and I'm delighted to see this money coming in to help out."
Robin added:
"I met recently with these clubs and others in Aberconwy to hear what their concerns were and see what I could do to help. Since then I've lobbied Ministers in the UK government and I've also met with the council and spoken with FA Wales representatives.
"I'm hopeful that Aberconwy clubs are on the radar more than ever now. This UK government funding follows a grant for Glan Conwy's ground maintenance and the resurfacing of the tennis courts at Bodlondeb so I'm hopeful this is only the start.
"I am still pressing for a new artificial surface, for example at Creuddyn - and I know Llanrwst FC face a constant struggle with flooding there.
Robin concluded:
"Even before I played for Bangor Juniors as a child, I was kicking a football around in the back garden in our house in Eithinog. As an adult I've helped run community clubs and I now chair the House of Commons Football Club. I'm thrilled to champion the local teams we have here and promote the game and facilities for future generations."
AELOD SENEDDOL YN CROESAWU CYLLID I BÊL-DROED LLAWR GWLAD YN ABERCONWY
Mae Robin Millar, AS Aberconwy, wedi croesawu mwy na £40,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU i dri chlwb pêl-droed llawr gwlad yn Aberconwy.
Bydd Clwb Pêl-droed Llandudno yn y Gymuned, Clwb Pêl-droed Llanfairfechan a Chlwb Pêl-droed Llanrwst i gyd yn cael arian am offer ac i wella cyfleusterau a fydd at ei gilydd yn fwy na £43,000*
Dywedodd Robin Millar:
“Rwy’n falch iawn o weld y clybiau hyn yn cael cymorth ar gyfer eu timau a’u cyfleusterau. Llafur cariad yw pêl-droed i gynifer ac mae rhedeg y clybiau hyn yn waith caled – fel arfer mae’n cael ei wneud gan wirfoddolwyr, teulu, ffrindiau a chefnogwyr. Maen nhw wrth galon ein cymunedau ac rwy’n falch iawn o weld yr arian hwn yn dod i mewn i helpu.”
Ychwanegodd Robin:
“Fe wnes i gwrdd â’r clybiau hyn ac eraill yn Aberconwy yn ddiweddar i glywed eu pryderon a gweld beth allwn i ei wneud i helpu. Ers hynny, rydw i wedi lobïo Gweinidogion yn llywodraeth y DU ac rydw i hefyd wedi cwrdd â’r cyngor ac wedi siarad â chynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Rwy’n gobeithio bod clybiau Aberconwy yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen rŵan. Mae’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU yn dilyn grant ar gyfer gwaith cynnal a chadw tir Glan Conwy a rhoi wyneb newydd ar y cyrtiau tenis ym Modlondeb, felly rwy’n gobeithio mai dim ond y dechrau yw hyn.
“Rwy’n dal i bwyso am arwyneb artiffisial newydd, er enghraifft yn Creuddyn - ac rwy’n gwybod bod Clwb Pêl-droed Llanrwst yn wynebu brwydr barhaus gyda llifogydd yno.
Wrth gloi, dywedodd Robin:
“Hyd yn oed cyn i mi chwarae i dîm iau Bangor pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n cicio pêl yng ngardd gefn ein cartref yn Eithinog. Fel oedolyn, rydw i wedi helpu i redeg clybiau cymunedol ac rydw i bellach yn cadeirio Clwb Pêl-droed Tŷ’r Cyffredin. Rwy’n falch iawn o hyrwyddo’r timau lleol sydd gennym yma a hyrwyddo’r gêm a’r cyfleusterau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”