On Tuesday Robin accompanied Nicola Pritchard, of Penrhyn Bay Football Club, to a Community Sports Champions’ reception in 10 Downing Street hosted by Right Honourable Lucy Frazer KC, Secretary of State for Culture, Media and Sport.
Nicola was attending in recognition of her many years of voluntary work supporting the Penrhyn Bay football club.
Since 2010, Nicola has been involved in much of the background activity for Penrhyn Bay Football Club. As Club Secretary she attends meetings, organises events, manages the club’s communications, and fills in much of the paperwork needed to keep everything running smoothly. Nicola is also involved on the pitch and an assistant coach for the U7s team.
Commenting on the reception, Nicola said:
“I had to check with Robin’s office when I got the email inviting me to No.10 – I thought it was a scam!! I’ve never been nominated for anything like this before. But I embraced the once in a lifetime opportunity and what a day I had.
The architecture of the familiar buildings was extraordinary and to go inside those buildings and see parts of parliament not many people have been to, stand where so many great people have stood as was a terrific opportunity and real eye opener. The dedication and commitment made by our MPs and those who support them was evident. I felt connected to them more.
It was a day I shall never forget.”
Following the reception, Robin said:
“I’m delighted that Nicola’s commitment to supporting her local football club has been recognised in this way. As club secretary Nicola has excelled through her unwavering dedication - weaving organisation and passion into every task. All of which has ensured that Penrhyn Bay Football Club has grown from strength.
Building stronger communities is central to Our Plan for Aberconwy. Football clubs – whether you are a fan or not! – are at the heart of many of our communities. Men and women, young and old, the skilled and the enthusiastic play each week with many family members being drawn into the life of the club.
I will continue to work with the local sports clubs we have here and promote grassroots sports and facilities for future generations."
CYDNABOD GWAITH NICOLA PRITCHARD, YR HYRWYDDWR CHWARAEON CYMUNEDOL, MEWN DERBYNIAD YN STRYD DOWNING
Aeth Robin Millar, AS Aberconwy, gyda Nicola Pritchard o Glwb Pêl-droed Bae Penrhyn, i dderbyniad ar gyfer Hyrwyddwyr Chwaraeon Cymunedol yn 10 Stryd Downing ddydd Mawrth. Cynhaliwyd y derbyniad gan y Gwir Anrhydeddus Lucy Frazer KC, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Roedd Nicola yno i gael ei chydnabod am y gwaith gwirfoddol y mae’n ei wneud ers blynyddoedd lawer i gefnogi Clwb Pêl-droed Bae Penrhyn.
Ers 2010, mae Nicola wedi bod yn rhan bwysig o’r gwaith sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r llenni yng Nghlwb Pêl-droed Bae Penrhyn. Fel Ysgrifennydd y Clwb, mae hi’n mynychu cyfarfodydd, yn trefnu digwyddiadau, yn rheoli cyfathrebiadau’r clwb, ac yn gwneud llawer o’r gwaith papur sydd ei angen i sicrhau bod popeth yn cael ei gynnal yn ddidrafferth. Mae Nicola hefyd yn cymryd rhan ar y cae, ac mae hi’n hyfforddwr cynorthwyol ar gyfer y tîm dan 7 oed.
Wrth sôn am y derbyniad, dywedodd Nicola:
“Roedd yn rhaid i mi holi swyddfa Robin pan gefais yr e-bost yn fy ngwahodd i Rif 10 – roeddwn i’n meddwl mai sgam oedd yr holl beth!! ’Dw i heb gael fy enwebu am unrhyw beth fel hyn o’r blaen. Ond, fe wnes i’r mwyaf o’r cyfle unigryw hwn, a chefais ddiwrnod i’r brenin.
Roedd pensaernïaeth yr adeiladau cyfarwydd yn anhygoel, ac roedd yn agoriad llygad go iawn cael mynd i mewn i’r adeiladau hynny, gweld rhannau o’r senedd nad oes llawer o bobl wedi bod iddynt, a sefyll lle mae cynifer o bobl arbennig wedi sefyll yn y gorffennol. Roedd ymroddiad ac ymrwymiad ein Haelodau Seneddol a’r rhai sy’n eu cefnogi yn amlwg. Roeddwn i’n teimlo’n nes atyn nhw.
Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy.”
Ar ôl y derbyniad, dywedodd Robin:
“Rydw i wrth fy modd bod ymrwymiad Nicola i gefnogi ei chlwb pêl-droed lleol wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae Nicola wedi rhagori yn ei rôl fel ysgrifennydd y clwb o ganlyniad i’w hymroddiad diflino – gan sicrhau bod pob tasg yn cael ei chwblhau gydag angerdd a threfn. Mae hyn i gyd wedi sicrhau bod Clwb Pêl-droed Bae Penrhyn wedi mynd o nerth i nerth.
Mae adeiladu cymunedau cryfach yn ganolog i’n Cynllun Ni ar gyfer Aberconwy. Mae clybiau pêl-droed – p’un a ydych chi’n gefnogwr ai peidio! – wrth galon llawer o’n cymunedau. Mae dynion a menywod, yr hen a’r ifanc, a’r medrus a’r brwdfrydig yn dod i chwarae bob wythnos, ac mae llawer o aelodau o’u teuluoedd yn cael eu denu at fywyd y clwb.
Byddaf yn parhau i weithio gyda’r clybiau chwaraeon lleol sydd gennym yma, a byddaf yn hyrwyddo cyfleusterau a chwaraeon ar lawr gwlad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”