Cael help gyda chostau byw

Rwyf wedi bod o amgylch Aberconwy’n gwrando ar bobl a busnesau am eu pryderon ac am yr heriau y byddant yn eu hwynebu dros y gaeaf. Mae’r costau byw cynyddol yn bryder mawr – yn enwedig y biliau ynni sy’n codi. 

Mae ymosodiad anghyfreithlon ac anghyfiawn Rwsia ar Wcráin wedi codi chwyddiant a chost ynni ledled y byd. Mae hyn yn effeithio ar bob gwlad.

Rwyf wedi bod yn gweithio’n galed yn y Senedd i sicrhau bod eich pryderon yn cael sylw, bod y Llywodraeth yn gweithredu, a bod Gweinidogion yn cyfeirio cymorth y Llywodraeth at y rhai sydd fwyaf mewn angen. Rwy’n croesawu’r ystod eang o gymorth sydd werth hyd at £2600 i deuluoedd, gan gynnwys:

  • Rhoi £400 i bob aelwyd yn y Cynllun Cymorth Biliau Ynni
  • Y Taliad Costau Byw i Bensiynwyr hyd at £300
  • Y Taliad Costau Byw o £650 i bobl sy’n cael budd-daliadau prawf modd penodol
  • Y cynllun Gwarant Pris Ynni a gyhoeddwyd ar 8 Medi na welwyd ei debyg o’r blaen. 

Gallwch chi ddarllen mwy am hyn ac am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yma

Ni ddylai neb deimlo eu bod ar eu pen eu hunain. Mae cymorth ar gael.

Mae’r Hwb Cymorth Costau Byw hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth y DU a gan Lywodraeth Cymru, gan y cyngor, a gan sefydliadau a busnesau lleol. Mae gan bob un amrywiaeth o gynlluniau a chefnogaeth sydd ar gael i chi.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi os oes angen rhagor o gyngor arnoch chi.

Gall sefydliadau megis Cyngor ar Bopeth eich helpu gydag amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys rhoi cyngor ariannol a darparu ffyrdd craff o leihau eich costau byw. Maen nhw’n rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ganfod y ffordd ymlaen - pwy bynnag ydynt, a beth bynnag fo eu problem. Mae Money Helper yn wasanaeth defnyddiol arall sy’n rhoi cymorth ar faterion yn ymwneud â rheoli arian a dyledion. Yn y canllaw hwn, fe welwch awgrymiadau cyllidebu a ffyrdd arloesol o ddelio â’r cynnydd mewn prisiau ynni.

Ceir amrywiaeth o wasanaethau eraill isod, a all fod o gymorth i chi os ydych chi’n cael trafferth.

Cymorth ar gael gan Lywodraeth y DU

Cymorth busnes ar gael gan Lywodraeth y DU

Cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru

Cefnogaeth ar gael gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy