Rydw i newydd gyrraedd yn ôl ar ôl ymweld ag Ysbyty Enfys/Canolfan Brechu Venue Cymru yn Llandudno.
Roeddwn yn ymweld â Phrif Weithredwr newydd Betsi Cadwaladr ac aelodau o dîm Conwy a Sir Ddinbych sy’n gyfrifol am ofal cymunedol, a gweithrediad y ganolfan.
*** YMUNWCH Â MI’N FYW DYDD MERCHER 13 IONAWR AM 7PM , I HOLI EICH CWESTIYNAU AM FRECHU ***
Rhoddodd y tîm yn Venue Cymru dros 850 o frechiadau heddiw rhwng 8am ac 8pm. A dweud y gwir, mae’r ganolfan hon, yma yn ein tref ni, wedi rhoi mwy o ddosau o’r brechiad na Ffrainc i gyd!
Nid oedd yn rhaid i’r rheini a oedd yn bresennol giwio am fwy nag ychydig funudau. Roedd yr oedi cynnar yn rhannol oherwydd bod pobl yn cyrraedd hyd at ddwy awr yn gynnar ar gyfer eu hapwyntiad.
Fe wnaethom ddilyn y brechlyn o’r oergell lle roedd yn cael ei storio, i’r ciwbiclau lle roedd yn cael ei roi.
Roedd pethau wedi’u trefnu’n dda iawn – goleuadau traffig, systemau unffordd, cofnodi gofalus a mwy.
Fe wnaethom glywed sut roedd y system yn gweithio - y ffactorau “tynnu” a “gwthio” (i’r rheini sy'n gwybod sut mae systemau'n gweithio!)
Roedd yr awyrlu yno i helpu gyda logisteg, cynllunio ac ar y drws ffrynt. Roedd gwirfoddolwyr mewn crysau glas wrth law yn helpu, yn cyfarwyddo ac yn cario pethau ac roedden nhw’n amlwg yn rhan annatod o’r ymdrech. Ac roedd staff y theatr a’r cyngor mewn festiau hi-viz yno yn cyfarch, yn arwain ac yn cyflawni’r tasgau bach hanfodol hynny sy’n cadw popeth i fynd.
A dweud y gwir, yn y tair awr roeddwn i yno, yn siarad â staff a gwirfoddolwyr, meddygon a gweinyddwyr, roedd hi’n amlwg bod y gweithrediadau lleol hyn yn drefnus, yn llyfn ac yn broffesiynol.
Sylwais ar y balchder gwirioneddol yn y gwaith roedd pawb yn ei wneud, ar y gofal roeddent yn ei roi i’r bobl roeddent yn eu helpu a’u hawydd i gyflawni mwy. Fel y dywedodd un person wrthyf “Rydyn ni’n adnabod y bobl yma. Maen nhw’n ffrindiau ac yn deulu. Rydyn ni’n helpu ein cymuned ein hunain.”
(A dweud y gwir, roedd un o’r tîm a oedd yn fy hebrwng o gwmpas wedi bod yn yr ysgol gyda fy chwaer – ac mae’n gweithio, gyda ffrind ysgol i mi. Byd bach!)
Wrth gyfarfod â’r tîm yn ddiweddarach, roedden nhw’n sôn am gynlluniau i gynyddu’r capasiti a dyblu’r ddarpariaeth dros yr wythnosau nesaf. Bydd y cynllun sydd ar waith ar hyn o bryd yn cyrraedd targedau’r DU (yma yn Aberconwy ac ar draws gogledd Cymru) o gyrraedd Grwpiau Blaenoriaeth 1-4 erbyn canol mis Chwefror.
Nid oes prinder cyflenwadau – mae ein dyraniad “ni” yn cael ei gadw’n ganolog yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’r brechlyn Pfizer yn cael ei roi ac wrth i’r cyflenwad hwnnw gynyddu, bydd y brechlyn Pfizer yn cael ei ryddhau a’i roi ar waith. Maen nhw’n sicr yn awyddus i gyflawni mwy yma.
Mae lle hefyd i ehangu’r gweithrediadau presennol. Roedd y trafodaethau’n ymwneud ag agor mwy o giwbiclau a pha mor ymarferol oedd oriau agor hirach. Mae pobl yn cael eu hyfforddi cyn gynted â phosibl i gyflawni hyn – ond bydd angen eu recriwtio a’u dyrannu’n effeithiol.
Fel y dywedodd un o’r tîm “Pan ddechreuodd hyn, roedden ni’n dysgu ac yn dal i fyny – nawr rydyn ni ar y blaen ac yn gofyn am fwy.”
Diolchais i bawb roeddwn i wedi cwrdd â nhw am yr hyn roedden nhw’n ei wneud – mae’r pandemig hwn wedi effeithio’n arbennig ar fywydau’r rheini sydd wedi ein helpu fwyaf. Er bod ganddyn nhw dargedau a’u bod nhw’n gweithio’n galed, nid cogiau mewn peiriant ydyn nhw. Maen nhw’n bobl o gig a gwaed ac maen nhw’n blino, yn teimlo emosiwn – balchder a rhwystredigaeth – fel pob un ohonom.
Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig ac yn falch o’r hyn a welais ar waith yma.
Mae’n ymdrech enfawr. Diolch yn fawr.
Fe ddown ni drwy hyn.