Ddydd Llun, pasiodd y Bil Amaethyddiaeth drwy gam olaf y gymeradwyaeth Seneddol. Rydw i’n gwybod bod y Bil hwn wedi achosi llawer o bryder i etholwyr ac rydw i wedi postio darn manwl ar Facebook, y gallwch chi ei weld drwy’r ddolen isod.
https://www.facebook.com/104179491039762/posts/224448969012813/
Ddydd Llun, pasiodd y Bil Amaethyddiaeth drwy gam olaf y gymeradwyaeth Seneddol. Roedd hyn yn eiliad bwysig i amaethyddiaeth a ffermio yng Nghymru ac felly CEFNOGAIS y Bil sy’n:
Sicrhau bod taliadau uniongyrchol i’r sector amaethyddiaeth yn parhau ar ôl inni adael yr UE
Sicrhau bod Cymru yn derbyn ardollau gan ladd-dai yn Lloegr
Cryfhau grym cynhyrchwyr o Gymru mewn trafodaethau
Arwain y ffordd at labelu cynnyrch fel ‘cynnyrch lleol’
Lleihau’r risg o glefyd heintus.
Mae’r rhain i gyd yn bethau da iawn.
Fodd bynnag, GWRTHWYNEBAIS yn ogystal i’r gwelliannau a oedd yn ceisio rhwymo ein partneriaid masnach â chyfreithiau Prydain sy’n ymdrin â chynhyrchiant. Rydw i’n cydnabod y pryderon pwysig sydd y tu ôl i’r gwelliannau – ond credaf y bydden nhw wedi cael canlyniadau anfwriadol gan gynnwys:
Atal sicrhau bargeinion masnach rydd
Risg go iawn y byddai ein hallforion ein hunain yn cael eu rhwystro, yn cynnwys i’r UE
Achosi niwed mawr i fywoliaethau ffermwyr Cymru a Phrydain
Bygwth codi prisiau bwyd i ddefnyddwyr, yn arbennig felly’r rhai tlotaf yn y gymdeithas
Ar adeg pan mae aelwydydd a busnesau mewn trafferthion, ni allwn ni gyfiawnhau hynny.
Rydw i’n gwybod bod y rhai a gefnogodd y gwelliannau yn dymuno gosod mewn cyfraith, yr addewidion y mae’r Gweinidogion a’r llywodraeth wedi’u gwneud ynglŷn â chadw ein safonau. Yn syml, nid yw’n ymarferol nac yn ddefnyddiol i lywodraeth ddeddfu ar bob datganiad y mae’n ei gwneud – ac felly, mae’n rhaid i mi ymddiried yn y geiriau hynny.
Yn ogystal, credaf y bydd y mesurau yr ydym yn eu cynnig yn cymell cynhyrchwyr mewn gwledydd eraill i wella eu safonau eu hunain er mwyn masnachu gyda ni.
Mae’r byd yn newid, ac rydw i’n deall bod diffyg sicrwydd yn gythryblus. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni beidio â gwneud y camgymeriad o ddefnyddio ein hegni i geisio cadw pethau’r un fath. Rydym wedi symud i gyfnod cyffrous o gyfleoedd masnachu newydd ar gyfer busnesau yng Nghymru. Credaf y gall ein cynnyrch sefyll ar ei draed ei hun yn y byd a bod ganddo rywbeth unigryw i’w gynnig. Ymhellach, credaf fod y gwerthoedd sydd gennym – ac sydd wedi llunio’r DU – yn gallu cael dylanwad ehangach yn y byd.
Dyna sut y byddwn yn gwneud i’r DU ffynnu a rhoi cyfle i ffermwyr yng Nghymru a Phrydain. Dyna sut y byddwn yn codi safonau.
Fel bob amser, rydw i’n fodlon ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn. Hefyd, byddaf yn rhoi’r postiad hwn ar fy nhudalen gwe lle byddaf yn ymhelaethu ar y pwyntiau hyn.
ATODIAD
I’r rhai hynny sy’n dymuno darllen mwy, rydw i wedi egluro yn fanylach isod beth mae’r Bil yn ei wneud a pham yr ydw i’n credu bod y gwelliannau yn wrthgynhyrchiol. Byddwn yn falch o drafod hyn ymhellach.
BETH MAE’R BIL YN EI WNEUD
Mae’r Bil yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan. Ni fydd llawer yn ymwybodol fod y Bil yn cynnwys darpariaethau hanfodol ar gyfer:
- Sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i wneud taliadau uniongyrchol i’r sector amaethyddiaeth pan ydym yn cwblhau’r Cyfnod Pontio i adael y UE ar ddiwedd y flwyddyn hon;
- Creu system ardoll newydd, decach sy’n sicrhau bod codi ardoll ar dda byw o Gymru mewn lladd-dai yn Lloegr yn cael ei ailgyfeirio i Gymru;
- Cryfhau grym bargeinio’r cynhyrchwyr amaeth yng Nghymru wrth drafod gyda phrynwyr;
- Hwyluso creu system labelu ‘cynnyrch lleol’;
- Cyflwyno system dracio da byw drwy’r DU gyfan er mwyn lleihau risgiau’r clefydau heintus.
Pwysicaf oll, mae’r Bil yn sicrhau y gall ffermwyr Cymru ddisgwyl trawsnewidiad esmwyth cyn dyfodiad Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru ei hun yn y Senedd y flwyddyn nesaf, a fydd yn amlinellu’r manylion penodol ynglŷn â system gymorth ariannol Cymru yn y dyfodol.
I egluro, er gwaethaf yr ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, NID yw cefnogi’r Bil hwn yn bleidlais i ostwng ein safonau diogelwch bwyd ein hunain. Ymdrinnir â’n safonau diogelwch cynnyrch a’n safonau mewnforio ein hunain mewn deddfwriaeth ar wahân ac nid oes unrhyw gynlluniau i’w gostwng.
BETH YW’R PRYDERON?
Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydw i wedi cael nifer o sgyrsiau gyda ffermwyr yma yn Aberconwy a chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru. Maen nhw’n gwybod nad wyf yn honni bod yn ffermwr, ond maen nhw’n gwybod bod gennyf ddiddordeb personol cryf mewn lles ffermio.
Mae llawer ohonyn nhw – os nad y cyfan – yn dymuno gwella’r Bil er mwyn sicrhau y byddai bargeinion masnach rhyngwladol yn amodol ar bartneriaid masnach yn cydweddu â safonau Prydain o ran cynhyrchiant, prosesu a monitro mewn amaethyddiaeth.
Y syniad y tu ôl i’r “cyfwerthedd cynhyrchu” hwn yw helpu diogelu safonau cynhyrchu uchel ein ffermwyr, sy’n seiliedig ar les anifeiliaid a diogelwch bwyd – ond sy’n costio mwy inni na dulliau cynhyrchu salach a ddefnyddir mewn mannau eraill.
Gwrandewais yn ofalus ar y pryderon hyn ac ar ôl meddwl ac ystyried llawer, deuthum i’r casgliad er eu bod yn ddeniadol ar y wyneb, bydden nhw wedi achosi niwed ar raddfa fawr i ffermwyr, defnyddwyr a’r tlotaf yn y gymdeithas.
Byddai cyfwerthedd yn niweidio ffermwyr
Mae Cymru yn allforio 35 – 40% o’n cynnyrch cig oen gwerth £107 miliwn i farchnadoedd tramor. Mae amddifadu ffermwyr o’r ffynhonnell hanfodol hon o incwm yn peryglu gwneud niwed sylweddol i’r sector.
Mae rhan o’r llwyddiant hwn oherwydd bod gan y DU rai o’r safonau amgylcheddol, lles anifeiliaid, cynhyrchu a monitro uchaf yn y byd. Yn ôl y Mynegai Lles Anifeiliaid, mae safonau lles anifeiliaid Prydain yn uwch na phob gwlad arall yn yr UE ar wahân i dair. Rydw i’n falch o hynny.
Ond pe baem ni wedi pleidleisio dros fynnu safonau cyfwerth, byddem ni wedi cyfyngu ein masnach yn unig i’r gwledydd hynny sydd â’r un safonau. Byddai hynny wedi cael gwared â’r posibilrwydd o fasnachu â phob prif farchnad allforio yn y byd, gan gynnwys yr UE (ein marchnad allforio fwyaf) a’r UDA (ail fewnforiwr mwyaf y byd o gig oen).
Ni fyddai gwledydd sofran – neu o bosibl ni allen nhw yn achos y gwledydd tlotaf – yn derbyn eu bod yn rhwym â’n deddfwriaeth ddomestig ein hunain ynglŷn â chynhyrchu amaethyddol fel amod masnachu gyda ni. Ni fyddai’r UE, na’r UDA, nac unrhyw un o’n prif bartneriaid.
Ar ben hynny, byddai symudiad o’r fath hefyd yn peryglu ein trefniadau masnachu presennol gyda gwledydd fel Canada a Siapan. Gellir dadlau y byddai gofyniad o gyfwerthedd yn torri rheolau Sefydliad Masnach y Byd – a dyna pam nad yw’r UE ei hun wedi arwyddo bargen o’r fath.
Byddai cyfwerthedd yn costio i bawb – yn arbennig felly’r rhai tlotaf yn y gymdeithas.
Nid yw’n gyfrinach bod polisïau’r UE yn cyfyngu mewnforion rhyngwladol o fwyd wedi codi ein prisiau bwyd yma yn y DU. Darganfu ymchwil gan y Tŷ Cyffredin gytundeb trwy’r byd ymysg arbenigwyr ynglŷn â’r pwynt hwn. Darganfu dadansoddiad o ddata Sefydliad Masnach y Byd gan y Sefydliad Materion Economaidd (2013) fod prisiau bwyd cyfanwerthol yr UE 17% yn uwch na phrisiau bwyd cyfanwerthol rhyngwladol.
Nid yn unig y byddai gwelliant cyfwerthedd cynhyrchu yn dyblygu cyfyngiadau mewnforio’r UE – byddai’n eu cynyddu yn ddramatig. Beth fyddai’r canlyniad? Byddai prisiau bwyd yma yn codi.
Mae’n wirioneddol bwysig sylweddoli bod y mathau hyn o gostau bob amser yn effeithio ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Dengys astudiaethau fod y rhai hynny yn yr 20% isaf o enillwyr yn gwario ddwywaith fwy ar fwyd na’r rhai hynny yn y 10% uchaf, a hynny oherwydd amrediad o ffactorau (yn cynnwys mynediad, dewis, amser a storio).
Gyda rhagolygon am galedi ariannol dros sawl mis ar gyfer teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen ynghyd, bydd bwyd yn rhan gynyddol o wariant yr aelwyd. Ni allwn gyda chydwybod clir bleidleisio dros Fil a fyddai’n niweidio lles yr etholwyr yma yn Aberconwy, yn y ffordd honno.
Yn olaf, gall bargeinion masnach hyrwyddo lles anifeiliaid
Trwy gydol fy mywyd, rydw i wedi caru natur ac anifeiliaid. Rydw i’n bryderus am eu triniaeth foesegol a’u lles priodol. Credaf mai nod pwysig cymdeithas wâr yw edrych ar ôl y bobl a’r pethau sy’n dibynnu arnom ni am eu gofal.
Felly, rydw i wedi trafod y mater hwn yn uniongyrchol â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, Liz Truss AS, sy’n arwain ein trafodaeth gyda’r UDA, ac sy’n un o arweinwyr ei thîm trafod. Rydw i wedi derbyn sicrwydd dro ar ôl tro na fydd ein safonau lles anifeiliaid/cynhyrchu bwyd uchel yn cael eu cynnwys mewn unrhyw drafodaethau masnach yn y dyfodol. Mae’n ffin na allwn ei chroesi.
Yn ogystal, mae’n werth nodi bod rhesymau da dros gredu y gall bargeinion masnach wella safonau hefyd. Yn ystod y degawdau diweddar, y duedd yw bod safonau lles anifeiliaid y tu allan i’r UE yn codi, ac nid gostwng.
Er mwyn rhoi enghraifft, cafodd Seland Newydd wared â bron bob un o’i chymorthdaliadau amaethyddol yn 1985 – gan orfodi ffermwyr i gystadlu’n frwd yn rhyngwladol. Fodd bynnag, mae gan Seland Newydd yn awr un o’r diwydiannau allforio cig oen mwyaf cystadleuol yn y byd, yn ogystal â safonau lles anifeiliaid uwch na rhan fwyaf o wledydd yr UE.