Mae wedi bod yn wythnos brysur a chynhyrchiol iawn (nid yw hynny’n golygu’r un peth bob amser!) yn ymweld â phobl leol gan gadw pellter cymdeithasol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhoi ar y dudalen hon dros y diwrnodau nesaf.
Roedd hi’n Wythnos Gwin Cymru yr wythnos hon felly roedd yn rhaid i mi ymweld â Charlotte a Colin yng Ngwinllan Conwy. Bydd yr wythnos yn dod i uchafbwynt gyda darllediad byw ar Facebook am 6pm ddydd Sul. Rwy’n eich argymell i fynd ar eu tudalennau Facebook i wylio’r fideos gwych!
Roedd yn wych clywed bod y llywodraeth wedi helpu’r cynhyrchwyr lleol sydd wedi ennill gwobrau yn ystod y pandemig - ond hefyd pa mor bwysig oedd gwerthu ar-lein pan nad oeddent yn gallu cynnal teithiau.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod ein cartrefi a’n busnesau wedi cysylltu â band eang cyflym a dibynadwy ar gyfer ein dyfodol.