Penrhyn Bay, Wednesday, Robin Millar, Member of Parliament for Aberconwy visited Pernhyn Bay FC and joined their senior side, the Penrhyn Bay Strollers, for a game of Walking Football.
This community club has grown to over 300 men, women, boys and girls and fills the fields at Ysgol Y Creuddyn on training evenings. The players themselves are aged from four to eighty eight years – with Strollers goal keeper Alan Cumsall the oldest in Wales!
It's all made possible by the hard work of volunteers, parents, coaches and, crucially, by the administration and tireless organisation of Meirion and Nikki. During Robin’s visit they told him about the ambition of the club to keep growing and provide a safe place for people to enjoy their football. They also discussed their practical needs for an all-weather 3G playing surface and access to onsite changing facilities.
Speaking about the visit Robin said:
“I went along to meet the club and was invited to join their senior team, The Penrhyn Bay Strollers, for a "walking football" kick about. For those of you who play, it's like 5-a-side but without running and contact.
“Alan is the oldest player in Wales and was in goal. He was plucking the ball out of the air like swatting flies. Despite being played at a walk, the experience and skill of the players showed!
“I have to say I had a blast. Like any team sport, playing alongside people enjoying themselves lifts the spirits. The guys were fantastic - many thanks to them and the club for a great evening. For the first time, I think I might be looking forward to being 60!”
Robin also added:
“The Penrhyn Bay Strollers are raising money for a portable defibrillator to take with them to tournaments and for their practice sessions – the school defibrillator is locked away in the evenings. If any local business would like to help please get in touch with me at robin.millar.mp@parliament.uk”
“TRO BACH YN Y PARC I AS ABERCONWY”
Bae Penrhyn, dydd Mercher - Ymwelodd Robin Millar, Aelod Seneddol Aberconwy, â Chlwb Pêl Droed Bae Penrhyn gan ymuno â thîm hŷn y Clwb, y Penrhyn Bay Strollers, am gêm o Bêl-droed dan Gerdded.
Mae'r clwb cymunedol hwn wedi tyfu i dros 300 o ddynion, menywod, bechgyn a genethod, gan lenwi caeau Ysgol y Creuddyn ar nosweithiau hyfforddi. Mae oedran y chwaraewyr yn amrywio o bedair i wyth deg wyth – ac Alan Cumsall, gôl-geidwad y Strollers, yw’r hynaf yng Nghymru!
Ac mae'r cyfan yn bosib diolch i waith caled gwirfoddolwyr, rhieni a hyfforddwyr ac, yn hollbwysig, i waith diflino Meirion a Nikki yn gweinyddu a threfnu pethau. Yn ystod ei ymweliad, cafodd Robin wybod am uchelgais y clwb i barhau i dyfu a darparu lle diogel i bobl fwynhau chwarae pêl-droed. Buont hefyd yn trafod eu hanghenion ymarferol o ran arwyneb chwarae 3G addas ar gyfer bob tywydd a mynediad at gyfleusterau newid ar y safle.
Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd Robin:
“Mi es i yno i gyfarfod â'r clwb a chael gwahoddiad i ymuno â’u tîm hŷn, y Penrhyn Bay Strollers, a rhoi cynnig ar chwarae “pêl-droed dan gerdded”. I'r rheini ohonoch chi sy’n chwarae, mae’n debyg i bêl-droed 5 bob ochr ond heb redeg na chyffwrdd.
“Alan yw’r chwaraewr hynaf yng Nghymru ac ef oedd yn y gôl. Roedd o'n cipio'r bêl o’r awyr fel dal pryfed! Er mai gêm sy’n cael ei chwarae dan gerdded yw hi, roedd profiad a sgil y chwaraewyr i'w gweld yn glir!
“Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wirioneddol wedi mwynhau fy hun. Fel gyda chwaraeon tîm eraill, mae chwarae ochr yn ochr â phobl sy'n mwynhau eu hunain yn codi ysbryd rhywun. Roedd y bois yn wych - llawer o ddiolch iddyn nhw a'r clwb am noson werth chweil. Am y tro cyntaf, dwi’n meddwl fy mod i’n edrych ymlaen at gyrraedd fy 60!”
Ychwanegodd Robin:
“Mae'r Penrhyn Bay Strollers yn codi arian ar gyfer diffibriliwr cludadwy i fynd gyda nhw i dwrnameintiau ac ar gyfer eu sesiynau ymarfer – mae diffibriliwr yr ysgol yn cael ei gadw dan glo gyda’r nosau. Os hoffai unrhyw fusnes lleol helpu, cysylltwch â mi yn robin.millar.mp@parliament.uk”