Robin Millar MP for Aberconwy is calling for all young people in Aberconwy between ages of 4-14 to enter the Royal Mail’s stamp design competition to honour the heroes of the pandemic.
For more than 50 years Royal Mail’s Special Stamp programme has commemorated British history and achievement. Stamps have also been issued to honour the achievements of many British people. Often, the people who appear on stamps are already famous. They include scientists and explorers, writers, artists, musicians, athletes, and Prime Ministers.
Since the coronavirus pandemic began, there have been many people who have done great things. Many of them are not famous, but they have done extraordinary work. These are the people who have helped us all through a really difficult time. The Royal Mail think that what these people have done makes them heroes, so Royal Mail wants to honour them by producing a set of eight stamps.
Robin said, “This is where you can come in. Think about who your hero or heroes are, and to then design a stamp in their honour. It could be a neighbour, it could be a doctor or nurse, a local fundraiser or even your teacher!
I know that we have a lot of talented designers in our constituency so let’s get involved and tell them about a special Aberconwy hero.”
A special panel of Royal Mail appointed judges will pick the winning designs. The final eight stamps will be sent to Her Majesty The Queen before they can be printed and issued. Robin will be writing to all schools in Aberconwy to tell them about the competition which closes on 28th May and if you want to enter independently please see: https://www.stampcompetition.ichild.co.uk/
Gadewch i ni roi ein stamp ar bethau!
Mae Robin Millar AS Aberconwy yn galw ar bobl ifanc Aberconwy rhwng 4-14 oed i gystadlu yng nghystadleuaeth cynllunio stampiau’r Post Brenhinol i anrhydeddu arwyr y pandemig.
Ers dros 50 mlynedd, mae rhaglen Stampiau Arbennig y Post Brenhinol wedi coffau hanes a llwyddiannau Prydain. Mae stampiau hefyd wedi’u creu i anrhydeddu llwyddiannau nifer o bobl o Brydain. Yn aml, mae’r bobl sy’n ymddangos ar stampiau yn enwog yn barod. Maen nhw’n cynnwys gwyddonwyr ac anturiaethwyr, awduron, arlunwyr, cerddorion, athletwyr a Phrif Weinidogion.
Ers dechrau’r pandemig coronafeirws, gwelwyd nifer o bobl yn gwneud pethau gwych. Nid yw nifer ohonyn nhw’n enwog, ond maen nhw wedi gwneud gwaith rhyfeddol. Dyma'r bobl sydd wedi ein helpu ni i gyd mewn cyfnod anodd dros ben. Mae’r Post Brenhinol yn credu bod yr hyn mae’r bobl hyn wedi’i gyflawni yn eu gwneud yn arwyr, felly mae’r Post Brenhinol eisiau eu hanrhydeddu drwy gynhyrchu set o wyth o stampiau.
Dywedodd Robin, “Dyma lle gallwch chi gymryd rhan. Meddyliwch pwy yw eich arwr neu arwyr, ac yna cynlluniwch stamp i’w hanrhydeddu. Gallai fod yn gymydog, gallai fod yn feddyg neu’n nyrs, rhywun sydd wedi bod yn codi arian yn eich ardal neu eich athro neu athrawes hyd yn oed!
Rwy’n gwybod bod nifer o ddylunwyr talentog yn ein hetholaeth, felly cymerwch ran a gadewch i ni ddweud wrthyn nhw am arwr neu arwres arbennig o Aberconwy.”
Bydd panel arbennig o feirniaid, a benodwyd gan y Post Brenhinol, yn dewis y cynlluniau buddugol. Bydd yr wyth stamp olaf yn cael eu hanfon at Ei Mawrhydi Y Frenhines cyn y gallan nhw gael eu hargraffu a’u cyhoeddi. Bydd Robin yn ysgrifennu at holl ysgolion Aberconwy yn sôn am y gystadleuaeth sy’n cau ar 28ain Mai, ac os ydych chi eisiau ymgeisio’n annibynnol, edrychwch ar https://www.stampcompetition.ichild.co.uk/