Heddiw, mi wnes i ymweld â The Junction Bookshop yng Nghyffordd Llandudno lle wnes i gwrdd â Gerry a Glenda sydd, fel fi, yn hoff iawn o lyfrau. Mae’r siop yn llawn o lyfrau hynafiaethol ac ail-law, ynghyd â mapiau ac argraffiadau Victoriaidd.
Mae’r siop yma hefyd yn stori gariad – fe wnaeth Gerry a Glenda gyfarfod am y tro cyntaf mewn ffair lyfrau ac maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd priodas arian yn nes ymlaen eleni. Agorodd Gerry ei siop lyfrau hynafiaethol gyntaf yn 1964, a sefydlodd y Provincial Booksellers Fairs yn Llundain yn 1972. (Sydd bellach yn cael ei alw yn PBFA) Agorodd Glenda ei siop lyfrau gyntaf yng Nghaerfaddon yn 1971 yn arbenigo mewn llyfrau plant casgladwy.
Felly pam gogledd Cymru? Astudiodd eu merch ym Mhrifysgol Bangor ac fel llawer ohonon ni fe wnaethon nhw syrthio mewn cariad â’r mynyddoedd a’r golygfeydd hardd sydd gan Aberconwy. Roedden nhw wedi bwriadu symud i ymddeol ond allen nhw ddim cadw draw o’r diwydiant llyfrau hynafiaethol! Felly yn 2009 fe wnaethon nhw agor The Junction Book Siop ac mae’r gweddill yn hanes.
Fel rydw i wedi’i ddweud o’r blaen, rydw i wrth fy modd yn darllen. A dweud y gwir, mi fydda i’n darllen mwy nag un llyfr ar y tro. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn athronwyr a meddylwyr gwleidyddol (efallai fod hynny’n rhywbeth i’w wneud â’r swydd) ac fe ges i archwilio ystafell gefn y siop lyfrau i weld llawer o hen lyfrau athroniaeth fy hun.
Diolch Gerry a Glenda am ddangos y siop i mi. Roedd eich siop yn ddiddorol tu hwnt ac mi fydda i’n siŵr o ymweld yn y dyfodol. Os hoffech chi ddarllen am yr hyn sydd gan y siop i’w gynnig, neu fynd yno eich hun, rydw i wedi cynnwys dolen i’w tudalen Facebook isod.
https://www.facebook.com/junction.bookshop
Ar ôl ymweld â siop lyfrau Hinton yng Nghonwy ychydig o wythnosau yn ôl, ynghyd â The Junction book shop heddiw, rydw i’n meddwl y buasai taith o amgylch siopau llyfrau a siopau bara Aberconwy yn syniad ardderchog!