To mark Carers Week, Age Cymru's Carers Project is launching a carers survey to learn more about unpaid carers' experiences. From the kind of support they receive, to the top three things that would make their life as a carer easier, they want to hear from them.
Commenting on the launching of the survey, Aberconwy MP Robin Millar said:
“Unpaid carers are unsung heroes and make an invaluable contribution to our communities. I understand many of challenges and difficulties that they face. Being an unpaid carer is often a very lonely and isolating experience and, throughout the pandemic, the increased isolation must have made caring even more difficult.
"I believe it is important to give unpaid carers the recognition for their role and invaluable work, support through training and career assesments - and access to respite schemes. If you are an unpaid carer, you can apply for a £500 payment from the Welsh Government that has been made possible through record funding from the UK Government."
Continuing, Robin said:
“I know how precious their time is, but I’d like to encourage unpaid carers throughout Aberconwy who are over 50 to share their experiences and ideas to make being a carer easier by completing Age Cymru’s short online survey which can be completed in either Welsh or English.
“I’d like to thank Age Cymru for launching this initiative and, to mark Carers Week, I’d like to thank all of our amazing carers here in Aberconwy for all that they do.”
Carers can access Age Cymru’s online survey in Welsh by clicking here and in English by clicking here.
Wedi’i ysbrydoli gan ei brofiadau ei hun, mae AS Aberconwy yn annog gofalwyr di-dâl i gymryd rhan mewn arolwg Prosiect Gofalwyr Age Cymru
I nodi Wythnos Gofalwyr, mae Prosiect Gofalwyr Age Cymru yn lansio arolwg gofalwyr er mwyn dysgu mwy ynglŷn â phrofiadau gofalwyr di-dâl. O’r math o gefnogaeth y maen nhw’n ei derbyn, at dri o’r prif bethau a fyddai’n hwyluso eu bywydau fel gofalwyr, maen nhw eisiau clywed gennych chi.
Drwy dynnu sylw at lansio’r arolwg, dywedodd Robin Millar, AS Aberconwy:
“Mae gofalwyr di-dâl yn arwyr anhysbys ac maen nhw’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’n cymunedau. Rydw i’n deall llawer o’r heriau a’r anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu. Mae bod yn ofalwr di-dâl yn aml yn brofiad unig ac ynysig iawn ac mae’n rhaid fod y cynnydd mewn unigedd drwy gydol y pandemig wedi gwneud gofalu hyd yn oed yn fwy anodd.”
Wrth fynd ymlaen, dywedodd Robin:
“Rydw i’n gwybod pa mor werthfawr yw eu hamser, ond hoffwn annog gofalwyr di-dâl drwy Aberconwy, sy’n 50 oed neu’n hŷn rannu eu profiadau a’u syniadau er mwyn gwneud bod yn ofalwr yn haws drwy gwblhau arolwg ar-lein byr Age Cymru, a ellir ei gwblhau un ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
“Er mwyn nodi Wythnos Gofalwyr, hoffwn ddiolch i Age Cymru am lansio’r fenter hon a hoffwn ddiolch i bob un o’n gofalwyr rhyfeddol yma yn Aberconwy am y cwbl y maen nhw’n ei wneud.”
Gall gofalwyr gwblhau arolwg ar-lein Age Cymru un ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg drwy fynd i www.robin-millar.org.uk/carers