Mae cystadleuaeth y ‘Siopau Bach Gorau’ yn dychwelyd am ei 5ed flwyddyn ac mae Robin eisiau eich help chi i ddod o hyd i’r siop fach orau yn Aberconwy. Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei lansio i hyrwyddo ac i gefnogi busnesau bach a’r rôl maen nhw’n ei chwarae ein cymunedau lleol.
“Rydw i wedi bod allan yn ymweld â’n busnesau lleol gwych o amgylch Aberconwy ac yn siarad â’u perchenogion. Yma yn Aberconwy, mae bron gormod o ddewis o ran busnesau bach. Gallwch chi brynu’r rhan fwyaf o bethau o siopau bach yma yn yr etholaeth, o anrhegion unigryw Cymreig wedi’u gwneud â llaw i jin â blas arno a gynhyrchir yn lleol.” Os hoffech chi weld rhai o ddarganfyddiadau Robin neu anfon eich awgrymiadau o le i fynd nesaf, cofiwch ei ddilyn ar Facebook.
Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ysbryd entrepreneuraidd y siop fach, ffyrdd y maen nhw wedi bod yn arloesol yn eu busnes a beth maen nhw wedi’i wneud i gael effaith gadarnhaol hir dymor ar eu cymuned.
Os ydych chi’n gallu meddwl am fusnes a allai fod â siawns o ennill, gwnewch yn siŵr bod perchennog y siop yn enwebu eu busnes cyn dydd Gwener 11 Medi 2020. Dylech chi gyflwyno cystadleuwyr i www.bestsmallshops.co.uk. Bydd rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref a bydd yn enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd.
Bydd dewis dim ond un enillydd yn her o ystyried yr holl fusnesau llwyddiannus sydd yma yn Aberconwy, berchnogion siopau peidiwch â bod yn swil, enwebwch eich hunain!