Un prynhawn heulog wythnos diwethaf, manteisiais ar y cyfle i ymweld â sawl un o dafarndai Aberconwy (Dwi’n gwybod beth sy’n mynd drwy eich meddwl chi, roedd hi’n dasg anodd ond bod yn rhaid i rywun ei gwneud!)
Dim achlysur cymdeithasol oedd hwn serch hynny. Yn gwmni i fi, roedd William Lees-Jones (o darfarndai JW Lees) a William Robinson (Rheolwr Gyfarwyddwr Bragdy Frédéric Robinson).
Mae'r ddau yn gwmnïau hirsefydlog sydd wedi buddsoddi cryn amser ac arian yn eu presenoldeb yn Aberconwy, eu staff a’u tenantiaid dros y blynyddoedd diwethaf.
Roeddwn i eisiau gweld drosof fy hun sut roedd eu model buddsoddi yn gweithio, y perthnasoedd maen nhw wedi'u meithrin â'u timau - ac yn bwysicaf oll, sut roedd y cwmnïau hynny'n ymdopi ac yn paratoi ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud.
Fe ddysgais gryn dipyn. Mae rhai yn cynnig llety yn ogystal â bwyd ac wrth gwrs, cwrw da! Roedd y berthynas â thimau gwahanol yn gryf a phersonol – ond maen nhw i gyd yn barod i fasnachu.
Maen nhw wedi meddwl yn ofalus am eu lleoliadau i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid a staff yn ddiogel (a rhai gwelliannau i’r gwasanaeth hyd yn oed).
Mae rhai, fel y Mulberry, yn fawr ac yn fodern. Mae eraill yn llai ac yn hŷn, fel Tŷ Gwyn, ac wedi gorfod meddwl yn ofalus am lif yr adeilad ac i wneud y gofod weithio’n ddiogel.
Ond efallai mai'r hyn sydd wedi creu’r argraff fwyaf arna i yw bod yna fusnesau da gyda phobl da yma yn Aberconwy, sy’n mynd amdani er gwaetha’r cyfnod heriol hwn.
Fe ddown ni drwy hyn.
(ac efallai y bydd rhaid i fi fynd yn ôl, tu allan i oriau gwaith, at ddibenion ymchwil...)