After so many cancellations and disappointments for so many organisation last year, Robin was delighted to hear the news that the Conwy Valley Civic Society have resumed their hugely enjoyable lecture series for the year 2021/22. The venues for these events are generally local community halls and the full programme is available from the programme secretary - Mike Young and also available on the Civic Societywebsite - www.conwy-valley-civic-society.org.
This month they will be meeting in Tal y Bont Memorial Hall on the 18th October to hear Dr. David Gwyn speak on the North Wales Slate Industry and the bid for Unesco World Heritage status. The journey to Unesco World Heritage status took over 20 years. It is bound to have provided a good few anecdotes.
Non-Members are always warmly welcomed and refreshments will be available. All of the details of the evening are in the attached flyer.
Robin is always keen to hear from local groups about their activities and to share them on his social media channels.
Ar ôl cymaint o achosion o ganslo a siomi i nifer o fudiadau’r llynedd, roedd Robin yn falch iawn o glywed y newyddion bod Cymdeithas Ddinesig Dyffryn Conwy wedi ailgydio yn eu cyfres o ddarlithoedd difyr dros ben ar gyfer y flwyddyn 2021/22. Bydd y digwyddiadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal mewn neuaddau cymunedol lleol, ac mae’r rhaglen lawn ar gael gan ysgrifennydd y rhaglen – Mike Young a hefyd ar wefan y Gymdeithas Ddinesig - www.conwy-valley-civic-society.org.
Y mis hwn, byddan nhw’n cwrdd yn Neuadd Goffa Tal y Bont ar 18 Hydref i wrando ar Dr David Gwyn yn siarad am Ddiwydiant Llechi Gogledd Cymru a’r cais am statws Treftadaeth Byd UNESCO. Cymerodd y daith i gyrraedd statws Treftadaeth Byd UNESCO dros 20 mlynedd. Mae’n siŵr y bydd gan Dr David Gwyn lond trol o straeon difyr.
Mae croeso cynnes bob amser i bobl nad ydyn nhw’n aelodau a bydd lluniaeth ar gael. Mae holl fanylion y noson i’w gweld yn y daflen amgaeedig.
Mae Robin wastad yn awyddus i glywed gan grwpiau lleol am eu gweithgareddau ac i’w rhannu ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol.